Mae ansefydlogrwydd genomau a llid a achosir gan straen dyblygiad yn fecanweithiau pathogenaidd canolog mewn rhagdueddiad i gael canser, heneiddio cynamserol a niwroddirywiad. Mae ymchwil yng ngrŵp Dr Chris Staples, Cymrawd Arweinydd y Dyfodol UKRI, yn canolbwyntio ar sut mae celloedd canser yn amddiffyn eu DNA yn ystod straen dyblygiad, a sut y gellir troi'r prosesau hynny yn erbyn y tiwmor i wella triniaeth.
Mae ein gwaith yn pontio'r rhyngwyneb rhwng atgyweirio DNA, straen dyblygiad ac imiwnedd cynhenid, gan gyfuno bioleg foleciwlaidd a bioleg celloedd â genomeg swyddogaethol (gan gynnwys sgrinio dihysbyddiad CRISPR, dadansoddi ffibrau DNA, delweddu meintiol a phroteomeg) i hwyluso nodi a dilysu targedau cyffuriau manwl gywir. Cefnogir y labordy gan gyllid gan UKRI, y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), North West Cancer Research, Breast Cancer Now ac Ymchwil Canser Cymru ac mae'n cydweithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Byddai darpar ymchwilwyr ôl-radd yn ymuno â thîm cefnogol ac uchelgeisiol o fewn cymuned bioleg canser sy'n tyfu yng Ngogledd Cymru, gan gael hyfforddiant ymarferol mewn technegau arloesol a chyfrannu at gyhoeddiadau mewn cyfnodolion blaenllaw. Mae Dr Staples yn croesawu ymholiadau gan unigolion brwdfrydig sydd â diddordeb mewn dilyn PhD neu MSc trwy Ymchwil.
Mae enghreifftiau o brojectau PhD posibl yn cynnwys y canlynol:
- Manteisio ar ryngweithiadau marwol synthetig newydd mewn llinellau celloedd tiwmorau lle ceir diffyg o ran atgyweirio DNA.
- Archwilio'r rhyngwyneb rhwng imiwnedd cynhenid a straen dyblygiad mewn canser.
- Datblygu dulliau newydd i adnabod difrodau mewn DNA eginol ar lefel moleciwl sengl.
Canfod DNA un edefyn ôl-atgynhyrchiol trwy brofion ffibr DNA sy'n gysylltiedig â niwcleas S1.