Rydyn ni鈥檔 dod atoch chi
Mae Prifysgol 精东传媒 yn teithio o gwmpas ysgolion y De i gynnig profiad uniongyrchol o fywyd myfyrwyr drwy鈥檙 Gymraeg.
Bydd yn gyfle gwych i鈥檆h chweched dosbarth glywed gan fyfyrwyr a Llywydd UMCB am sut beth yw byw a dysgu mewn cymuned Gymraeg fywiog, gefnogol ac ysbrydoledig.
Byddwn yn falch iawn o gydweithio gyda鈥檆h ysgol i greu profiad addysgol ysbrydoledig ac addas i鈥檆h disgyblion.
Sesiynau Blasu Academaidd
Yn ogystal 芒鈥檙 sesiwn holi ac ateb gyda鈥檔 myfyrwyr, bydd ein darlithwyr ar gael i arwain sesiynau blasu sy鈥檔 berthnasol i鈥檆h disgyblion. Gallwch ddewis o鈥檙 rhestr o sesiynau penodol isod, neu ofyn am sesiwn wahanol sy鈥檔 gweddu i鈥檆h anghenion.
Cymdeithaseg
- Arbenigedd mewn dulliau ymchwil 鈥� Sesiwn ymarferol i fyfyrwyr sy鈥檔 astudio鈥檙 Fagloriaeth Lefel A, gyda鈥檙 nod o ddatblygu sgiliau ymchwil a gweithio ar y prosiect unigol.
Y Gyfraith
- Cyfraith Droseddol: Y Sylfeini 鈥� Cyflwyniad i鈥檙 hyn sy鈥檔 gwneud gweithred yn drosedd a sut mae鈥檙 wladwriaeth yn ymateb i ymddygiad troseddol.
- O鈥檙 Drosedd i鈥檙 Llys 鈥� Taith gam鈥憌rth鈥慻am drwy鈥檙 broses o ymchwilio, arestio a chyhuddo unigolyn o dan y gyfraith droseddol.
Meddygaeth
- Dyn a鈥檌 Gi 鈥� cyflwyniad rhyngweithiol o achos clinigol
- Ymwrthedd Gwrthfiotig 鈥� un o brif heriau iechyd y byd
- O ble daw鈥檙 pandemig nesaf a beth allwn ni ei wneud?
Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol
- Cig coch - yn fwy "gwyrdd" nag yr ydych chi鈥檔 ei feddwl? 鈥� Sesiwn yn edrych ar y ffeithiau yngl欧n 芒'r ddadl ynghylch beth yw deiet cynaliadwy, gan ddefnyddio canlyniadau gwaith ymchwil gwyddonol yn hytrach na beth mae 'selebs' yn ei ddweud...
- Wyt ti'n 'waster'? 鈥� Sesiwn yn trafod yr heriau o ddelio efo gwastraff - y niwed amgylcheddol, sut mae newid ymddygiad, a r么l cwmn茂au mawr ac unigolion i daclo'r broblem.
Nyrsio Plant
- Gofalu am y Bychain 鈥� Sesiwn Ymarferol mewn Nyrsio Plant
Cyfrifiadureg a Pheirianneg
- Dylunio 鈥� Sesiwn ymarferol am greadigrwydd o fewn y Bacc.
Seicoleg
- Dwy iaith, dwy galon? 鈥� Mae gwybod sut i siarad a deall mwy nag un iaith yn sg矛l anhygoel, ac yn gallu cael effaith bositif ar yr ymennydd. Ond, oeddech yn gwybod fod iaith hefyd yn gallu newid y ffordd 鈥榙a ni鈥檔 gweld y byd? Da ni鈥檔 gallu bod yn fwy emosiynol yn un iaith na鈥檙 llall, 鈥榙a ni鈥檔 gallu ymddwyn yn wahanol yn y ddwy iaith, a 鈥榙a ni鈥檔 fwy tebygol o goelio rhywbeth yn ein hiaith gyntaf. Mae meddwl am y gwahaniaethau hyn yn bwysig iawn yn y maes iechyd (e.e., wrth ddewis iaith sesiwn cwnsela) a鈥檙 maes cyfreithiol (e.e., wrth ddewis rheithgor (jury)).
Addysg
- Tu 脭l i鈥檙 Ddesg: Rho Gynnig ar Fod yn Athro 鈥� Wyt ti erioed wedi meddwl sut beth yw鈥檙 ysgol o ochr yr athro? Mae鈥檙 sesiwn ryngweithiol hon yn rhoi鈥檙 cyfle i ddisgyblion gamu i r么l athro, archwilio penderfyniadau dosbarth go iawn, a darganfod sgiliau, heriau a gwobrau鈥檙 proffesiwn - gan helpu i benderfynu a yw BA mewn Addysg gyda SAC yn addas i ti.
Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd
- Os ydy Duw yn bodoli, pam nad ydy鈥檙 byd yn lle gwell? - Rhyfel, dioddefaint, anghyfiawnder 鈥� os ydy Duw yn dda ac yn hollbwerus, pam bod unrhyw un o鈥檙 rhain yn bodoli? Mae鈥檙 sesiwn hon yn wynebu un o鈥檙 cwestiynau mwyaf heriol mewn athroniaeth a chrefydd, gan annog myfyrwyr i ofyn nid yn unig a ydy Duw yn bodoli, ond a fyddai Duw sy鈥檔 caniat谩u i鈥檙 pethau hyn ddigwydd yn werth credu ynddo o gwbl. Drwy ddefnyddio enghreifftiau o鈥檔 byd heddiw a thrwy drafodaeth, bydd dysgwyr yn archwilio ymatebion pwerus (o ewyllys rydd i鈥檙 syniad y gall dioddefaint lunio twf dynol) gan holi i ba raddau mae鈥檙 鈥榓tebion鈥� yn dal d诺r. Bydd y sesiwn yn berthnasol i鈥檙 Fagloriaeth Gymreig hefyd, oherwydd mae鈥檔 datblygu meddwl beirniadol, rhesymu moesegol, ac ymwybyddiaeth fyd-eang, gan wahodd dysgwyr i ymgysylltu 芒 chwestiynau nad oes ganddynt atebion hawdd, ond sy鈥檔 bwysig iawn i鈥檞 trafod.
- Gwir bob gair? Beth sy'n gwneud gwybodaeth yn ddibynadwy? - Mewn byd o gyfryngau cymdeithasol a chamwybodaeth, sut ydym ni鈥檔 gwybod beth i鈥檞 gredu? Mae鈥檙 sesiwn hon yn cyflwyno cwestiynau athronyddol craidd am wybodaeth a gwirionedd: beth sy鈥檔 cyfrif fel tystiolaeth? Mewn beth neu bwy ddylem ni ymddiried? Drwy ddadansoddi enghreifftiau o鈥檙 byd go iawn, bydd dysgwyr yn mireinio eu gallu i ganfod rhagfarn, asesu dibynadwyedd, a meddwl yn feirniadol am ffynonellau gwybodaeth. Mae perthnasedd y sgwrs yn briodol i鈥檙 Fagloriaeth Gymreig hefyd oherwydd bydd yn ffordd o gryfhau llythrennedd digidol, meddwl beirniadol, a gwneud penderfyniadau gwybodus 鈥� sgiliau hanfodol ar gyfer llywio cymdeithas fodern.
- A ddylem ymddiried mewn Deallusrwydd Artiffisial i wneud penderfyniadau? - Wrth i ddeallusrwydd artiffisial ddod yn rhan o fywyd bob dydd, pwy ddylem ni ymddiried ynddyn nhw i wneud penderfyniadau pwysig 鈥� pobl neu beiriannau? O farcio arholiadau i ofal iechyd, mae鈥檙 sesiwn hon yn archwilio鈥檙 cwestiynau moesegol a godir gan dechnolegau newydd: a all algorithmau fod yn deg? A ddylai effeithlonrwydd drechu barn ddynol? Hefyd yn hynod berthnasol i ffocws y Fagloriaeth Gymreig ar y dyfodol digidol, bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau wrth werthuso risg, pwyso a mesur gwerthoedd cystadleuol, a meddwl yn feirniadol am r么l technoleg mewn cymdeithas.
- Ddylet ti helpu鈥檙 byd? - A oes gennym ni ddyletswydd i helpu pobl y tu hwnt i鈥檔 bywydau a鈥檔 ffiniau ein hunain? Mae鈥檙 sesiwn hon yn trafod un o gwestiynau craidd moeseg: pa mor bell y mae ein cyfrifoldeb yn ymestyn? Trwy drafodaethau am dlodi byd-eang a newid hinsawdd, bydd dysgwyr yn archwilio syniadau am gyfiawnder, tegwch, a rhwymedigaeth foesol, gan ymgysylltu ag athronwyr dylanwadol fel Peter Singer. Bydd hefyd yn cyd-fynd yn berffaith 芒鈥檙 Fagloriaeth Gymreig oherwydd yr agweddau ar ddatblygu dinasyddiaeth fyd-eang, ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd, a gwneud penderfyniadau moesegol, gan ddangos sut mae meddwl athronyddol yn berthnasol i heriau鈥檙 byd go iawn.
Cymraeg
- Sgwennu Creadigol - Cyfle i roi cynnig ar ymarferion creadigol, i arbrofi a mentro, i ymestyn y dychmygu a miniogi synhwyrau.
Er ein bod yn gwneud ein gorau glas i baru鈥檆h ysgol 芒鈥檙 darlithwyr sy鈥檔 arbenigo yn eich dewis bwnc, efallai na fydd pob darlithydd ar gael ar bob dyddiad. Serch hynny, byddwn yn ceisio鈥檔 gorau i sicrhau bod y sesiwn yn adlewyrchu鈥檙 maes sydd o ddiddordeb i chi ac yn cynnig profiad o ansawdd uchel i鈥檆h disgyblion.
Trefnu Sesiwn I'ch Ysgol
Er mwyn bwcio ymweliad a sesiwn academaidd, gofynnwn i chi gysylltu gyda鈥檙 wybodaeth ganlynol:
- Pa ddiwrnod yn ystod yr wythnos 29 Mehefin - 3 Gorffennaf sydd orau i鈥檆h ysgol.
- A yw slot bore neu brynhawn yn well i chi.
- Pa sesiwn/sesiynau academaidd sydd o ddiddordeb i chi o鈥檙 rhestr uchod.
Gellir addasu鈥檙 amseroedd os oes angen