Bryn Jones yn ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Wrecsam
Testun y gystadleuaeth eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 鈥�Ffin | Ffiniau. Y beirniaid oedd Aled Lewis Evans, Bethan Mair ac Elin Llwyd Morgan.
Cyflwynwyd y Fedal er cof am ei Anrhydedd Dafydd Hughes, dreuliodd flynyddoedd dedwydd iawn yn Wrecsam, gyda ei deulu, Ann Tegwen, Catrin, Mari, Gerallt ac Ann Lloyd, a鈥檙 wobr ariannol o 拢750, gan Brifysgol 精东传媒.
Meddai Aled Lewis Evans yn ei feirniadaeth, 鈥淐yfrol o l锚n micro eang ei chynfas, a chelfydd ei chynildeb. Mae yna galon a rhwystredigaeth a gwir ddawn yn y gyfrol hon. Mae鈥檙 awdur ynghanol sefyllfaoedd bob dydd, ac 芒 meddwl eangfrydig. Mae yna bedair is-adran i鈥檙 gwaith, ac mae鈥檙 iaith lafar yn amlwg ac yn addas i鈥檙 cyd-destun. Mae鈥檔 amlwg bod yr awdur yn deall cynildeb y cyfrwng, sydd hefyd yn siarad cyfrolau. Mae鈥檔 llenor medrus sy鈥檔 ddifyr a byrlymus a llawn afiaith. Mae gallu yma i fynd o dan groen rhychwant o sefyllfaoedd cyfoes, yn ogystal 芒 darnau sy鈥檔 peri i ni gwestiynu.
鈥淢ae darnau ohonom i gyd yn y gyfrol hon 鈥� gyda chynildeb darnau fel 鈥楩fotosynthesis鈥�. Mae enwau lleoedd a hunaniaeth Gymreig yn amlwg fel thema, ac yn nifer o鈥檙 darnau ceir llinellau clo bachog sy鈥檔 hoelio鈥檙 darnau. Dyrchefir bywyd bob dydd ein cymdeithas gyfoes yn y gyfrol, ac emosiynau a gweledigaeth pobl gyffredin. Credaf y bydd yn apelio at drwch o ddarllenwyr. Mae eironi sefyllfaoedd cyfoes wedi ei gyflwyno鈥檔 blaen. Mae鈥檔 awdur hyblyg iawn 鈥� un munud yn rhoi golwg real iawn ar gapeli yn 鈥楾欧 fy nhad鈥�, ond wastad efo ymwybyddiaeth o ddwy ochr i bopeth.
鈥淩ydym ninnau fel beirniaid wedi cael taith fuddiol a chofiadwy gan lenor o fri mewn cyfrol ddychanol a dig ar adegau, ond cyfrol hollol gelfydd a gwreiddiol yr un pryd.
Dywed Elin Llwyd Morgan, 鈥淵n 么l diffiniad yr awdur ei hun, yr hyn a geir yma yw 鈥榗asgliad o ryddiaith nad oes modd ei labelu yn 么l ffurfiau confensiynol鈥�. Nid brolio鈥檌 hun a wna. I鈥檙 gwrthwyneb, yn y darn cyntaf un 鈥� 鈥楤eirniadaeth鈥� 鈥� mae鈥檔 lladd ar ei waith ei hun fel petai鈥檔 gwneud hynny o鈥檔 safbwynt ni鈥檙 beirniaid, gan gloi drwy ddweud: 鈥業 orffen ar nodyn cadarnhaol, mae鈥檔 fendith bod cyfrol Trilliw Bach yn sylweddol is o ran y nifer geiriau a ganiateir ar gyfer y gystadleuaeth.鈥�
鈥�... mae鈥檙 gwaith at ei gilydd yn bic-a-mics amheuthun y gellid ei ddarllen yn ei gyfanrwydd neu bicio i mewn ac allan ohono. Ac yn ogystal 芒 hiwmor a beiddgarwch mae yma dynerwch a chyffyrddiadau gwirioneddol farddonol hefyd. Hyderaf y bydd hon yn gyfrol a fydd yn creu cryn argraff, yn ogystal 芒 bod yn destun cryn drafod. Oherwydd hynny, a鈥檙 ffaith mai at hon y deuwn i a鈥檓 cyd-feirniaid yn 么l ati dro ar 么l tro, Trilliw Bach sy鈥檔 mynd 芒鈥檙 Fedal eleni.
Nododd Bethan Mair yn ei beirniadaeth hithau, 鈥淢ae Trilliw Bach eisiau i ni ei weld a鈥檌 glywed, a does ganddo ddim ffeuen o ots a yw鈥檔 digio nac yn ypsetio wrth dynnu sylw ato鈥檌 hunan. Mae鈥檙 gyfrol hon yn ddifr茂ol, yn amserol, yn taflu deunyddiau ffrwydrol i bob cyfeiriad heb hidio ble bydd y gren锚ds yn disgyn, na phwy a anafir ganddynt, ac mae鈥檔 gyforiog o hiwmor, dawn ysgrifennu a chyffro. Mae鈥檙 awdur hyd yn oed wedi cyfansoddi鈥檌 feirniadaeth ei hunan, i arbed gwaith i ni, sbo 鈥� neu i sicrhau y caiff feirniadaeth, yn wyneb digwyddiadau Eisteddfod y llynedd. Mae鈥檔 eofn, yn gras ar brydiau, yn falws melys o dyner brydiau eraill, ond drwy鈥檙 cyfan mae鈥檔 llenor o鈥檌 gorun i鈥檞 sawdl.
鈥淓fallai na fydd pob darn yn y gyfrol yn apelio at bawb 鈥� yn wir, gobeithio y bydd yn gwneud i rai deimlo鈥檔 anghysurus iawn 鈥� ond mae gan Trilliw Bach weledigaeth o Gymru heddiw y mae鈥檔 rhaid ei rhannu. Rwyf innau a鈥檓 cyd-feirniaid yn gyt没n taw hon yw鈥檙 gyfrol y bydd pawb yn ei darllen, ei thrafod a鈥檌 chloriannu dros yr wythnosau a鈥檙 misoedd nesaf. Gwobrwyer Trilliw Bach.
Cafodd Bryn Jones ei fagu ar aelwyd gefnogol yn Llanberis, ac mae鈥檔 ymweld yn gyson 芒鈥檌 deulu agosaf sydd yn dal i fyw yno. Bellach mae wedi ymgartrefu ym Mangor, ac yn byw dafliad carreg o gyn-leoliad Ysbyty Dewi Sant ble y cafodd ei eni.
Fe鈥檌 haddysgwyd yn Ysgol Dolbadarn, Llanberis; yno fe daniwyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg yng nghwmni nifer o athrawon brwdfrydig.
Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, ble y daeth dan ddylanwad ei athro Cymraeg, y diweddar Alwyn Pleming, a gyflwynodd iddo sylfeini鈥檙 iaith Gymraeg yn ogystal 芒 chyfoeth ei llenyddiaeth. Yn 1982 graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol 精东传媒, a chafodd fudd o fynychu darlithoedd ysgrifennu creadigol dan arweiniad y diweddar Athro Gwyn Thomas.
Mae Bryn wedi treulio鈥檌 yrfa ym myd addysg; cychwynnodd fel athro yn Ysgol Gynradd Llanfawr, Caergybi yn 1983, a threuliodd gyfnod hapus yn byw yn y dref, cyn ei benodi yn Ddirprwy Brifathro Ysgol y Gelli, Caernarfon yn 1989.
Yn 1995 cychwynnodd ei swydd fel Darlithydd Addysg yn y Coleg Normal (yn ddiweddarach, Ysgol Addysg Prifysgol 精东传媒). Roedd yn fraint iddo gael cydweithio gyda darlithwyr hynaws a thalentog, a bu鈥檔 ffodus i ennill doethuriaeth ar sail ei ymchwil i addysg ddwyieithog yng Nghymru.
Mae鈥檔 ddiolchgar am y profiadau llenyddol cynnar a gafodd mewn eisteddfodau lleol fel Eisteddfod Gadeiriol Llanrug (1983), ac Eisteddfod Gadeiriol y Groeslon (1992, 1995) a chafodd fudd o fynychu cyrsiau llenyddol yng Nghanolfan Ysgrifennu T欧 Newydd yn ystod y 1990au. Mae鈥檔 ddiolchgar i鈥檙 Athro Gerwyn Wiliams am gyhoeddi peth o鈥檌 waith ysgrifennu creadigol cynharaf yn y cylchgrawn llenyddol, Taliesin.
Ymysg ei ddiddordebau eraill mae hel achau a gweithgareddau awyr agored, yn cynnwys cerdded mynyddoedd, beicio, a sg茂o. Cafodd fwynhad hefyd o neidio o awyren 鈥� gyda pharasiwt! Yn ddiweddar mae wedi ailgydio mewn llenydda, ac yn edrych ymlaen at weld Cuddliwio, ei gyfrol gyntaf o ryddiaith, wedi鈥檌 chyhoeddi.
Mae鈥檔 dilyn llwyddiant un arall o ddisgyblion Ysgol Brynrefail yn y gystadleuaeth, pan enillodd Eurgain Haf, yn wreiddiol o Benisarwaun y Fedal.
Bydd y gyfrol ar werth ar ddiwedd y seremoni mewn siopau llyfrau ar y Maes ac ar draws Cymru.
Bydd y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd 芒 manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi鈥檙 Eisteddfod i gyd yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, a fydd ar werth yn dilyn Seremoni鈥檙 Cadeirio brynhawn Gwener.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam tan 9 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i .