Eurovision: Mae鈥檔 fwy na chystadleuaeth canu
Mae podlediad diweddaraf Ysgol Busnes 精东传媒 bellach wedi ei ryddhau ac ar gael i wrando arno a鈥檌 rannu. Y mis hwn bydd y podlediad yn canolbwyntio ar Gystadleuaeth yr Eurovision, gyda Lerpwl yn barod i gynnal Cystadleuaeth yr Eurovision ddydd Sadwrn 13 Mai ar ran Wcr谩in. Dyma鈥檙 67fed tro i鈥檙 gystadleuaeth gael ei chynnal. Yn yr wythnosau鈥檔 arwain at y prif ddigwyddiad mae disgwyl i hyd at chwarter miliwn o ymwelwyr o bob rhan o Ewrop a'r Deyrnas Unedig heidio i Lerpwl, lle bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal. Ar drothwy鈥檙 digwyddiad mae鈥檙 lliwiau melyn, glas a magenta llachar, sy鈥檔 rhan o frandio nodedig y digwyddiad, i鈥檞 gweld ledled y ddinas, ac mae busnesau a grwpiau cymunedol yn y ddinas yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau a gweithdai ar thema Eurovision i dwristiaid a鈥檙 gymuned leol.
Bydd Dr Sonya Hana (Darlithydd mewn Marchnata) a Dr Linda Osti (Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Twristiaeth) yn trafod sut mae Cystadleuaeth yr Eurovision yn fwy na chystadleuaeth caneuon yn unig; mae'n gynyddol bwysig fel strategaeth dwristiaeth ac fel ffordd o farchnata lle.
Mae Dr Sonya Hana yn aelod o fwrdd rheoli鈥檙 Ganolfan Ymchwil 鈥楲leoliadau Newid Hinsawdd鈥� yn y Brifysgol, yn aelod o fwrdd golygyddol y Journal of Place Management and Development, ac yn aelod o bwyllgor gwyddonol yr International Place Branding Association (IPBA). Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar le, gan ystyried agweddau ar y broses o frandio lle, a hynny o wahanol safbwyntiau, ond yn fwy diweddar bu鈥檔 edrych ar gynaliadwyedd, twristiaeth gynaliadwy, a lleoedd a newid yn yr hinsawdd.
Mae Linda Osti yn uwch ddarlithydd mewn Rheoli Twristiaeth yn Ysgol Busnes 精东传媒. Mae ganddi PhD o Victoria University (Awstralia) gyda thesis ynghylch ymddygiad defnyddwyr mewn twristiaeth. Cyn ymuno 芒 Phrifysgol 精东传媒, bu鈥檔 gweithio ym Mhrifysgol Bozen-Bolzano (yn yr Eidal), ym Mhrifysgol Victoria, ac ym Mhrifysgol Southern Cross yn Awstralia. Mae hi wedi bod yn ymwneud 芒 nifer o brojectau ymchwil mewn cydweithrediad 芒 phrifysgolion cenedlaethol a rhyngwladol a phartneriaid mewn diwydiant. Mae ei phrif feysydd o arbenigedd ymchwil yn ymwneud ag ymddygiad defnyddwyr mewn twristiaeth, dilysrwydd, a thwristiaeth gynaliadwy.
Gwrandewch nawr -