Cynhaliwyd y digwyddiad yn Neuadd Powis i archwilio sut y caiff crefydd ei chynrychioli, ei deall a鈥檌 thrafod yn y gymdeithas gyfoes. Daeth newyddiadurwyr, academyddion, myfyrwyr, arweinwyr cymunedol a chynrychiolwyr elusennau ynghyd i rannu safbwyntiau a meithrin partneriaethau newydd.
Cyd-drefnwyd y digwyddiad gan y Religion Media Centre, maes pwnc Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd Prifysgol 精东传媒, a Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru. Canolbwyntiodd y dydd ar gryfhau鈥檙 ddeialog rhwng cymunedau ffydd a鈥檙 cyfryngau, tra鈥檔 hyrwyddo llythrennedd crefyddol a dealltwriaeth gyhoeddus ehangach. Wrth i gwestiynau ynghylch crefydd, hunaniaeth a chred barhau i fod yn amlwg mewn trafodaethau cyhoeddus, pwysleisiodd y digwyddiad bwysigrwydd llythrennedd crefyddol ac ymgysylltiad gwybodus 芒鈥檙 cyfryngau wrth helpu unigolion a chymunedau i lywio materion cymdeithasol cymhleth.
Yn dilyn croeso gan yr Is-Ganghellor Cynorthwyol, yr Athro Enlli Thomas, cafodd y digwyddiad ei lywio gan y Parchedig Glyn Wise ac Emma Meese drwy raglen amrywiol o gyflwyniadau, cyfweliadau a thrafodaethau. Ymhlith y cyfranwyr roedd y Parchedig Ddoctor Manon Ceridwen James, Esgob 精东传媒, a fyfyriodd ar ffydd, arweinyddiaeth a bywyd cyhoeddus; y darlledwr John Roberts o raglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru; a phanel cyfryngau yn cynnwys yr Athro Ruth McElroy, Alison Gow a Jonathan Thomas, a fu鈥檔 trafod y berthynas rhwng cymunedau ffydd a newyddiaduraeth yng Nghymru.
Rhoddwyd sylw hefyd i safbwyntiau pobl ifanc, gyda dysgwyr chweched dosbarth a myfyrwyr prifysgol yn mynegi sut y deuir ar draws crefydd drwy newyddion, cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol. Roedd y trafodaethau drwy gydol y dydd yn seiliedig ar arbenigedd cynrychiolwyr o鈥檙 sector addysg, sefydliadau cymunedol, grwpiau ffydd a鈥檙 trydydd sector, gan adlewyrchu鈥檙 amrywiaeth o leisiau sy鈥檔 llywio sgyrsiau cyhoeddus am grefydd yng Nghymru heddiw.
Un o uchafbwyntiau鈥檙 dydd oedd cyfres o gyflwyniadau byr yn arddangos mentrau ffydd, diwylliannol a chymunedol ledled Gogledd Cymru. Roedd y rhain yn dangos ehangder y gweithgarwch sy鈥檔 digwydd yn y rhanbarth a gwerth cydweithio rhwng sefydliadau.
Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, dywedodd y cyd-drefnydd, Dr Joshua Andrews, 鈥淯n o agweddau mwyaf calonogol y diwrnod oedd gweld cysylltiadau newydd yn datblygu rhwng pobl y mae eu gwaith yn croestorri, ond nad ydynt o reidrwydd yn cael y cyfle i gyfarfod yn aml. Mae dod ag addysgwyr, newyddiadurwyr, cynrychiolwyr ffydd a sefydliadau cymunedol ynghyd yn agor posibiliadau newydd ar gyfer cydweithio a all barhau ymhell y tu hwnt i鈥檙 digwyddiad ei hun.鈥�
Ychwanegodd y cyd-drefnydd, Dr Gareth Evans-Jones, 鈥淢ae crefydd yn parhau i fod yn rhan bwysig o鈥檙 ffordd y mae llawer o bobl yn deall eu hunain, eu cymunedau a鈥檙 byd o鈥檜 cwmpas, ac mae鈥檙 ffordd y caiff ei chynrychioli yn y cyfryngau yn eithriadol bwysig. Rhoddodd Creu Cysylltiadau gyfle gwerthfawr i ddod 芒 phrofiadau gwahanol i鈥檙 un ystafell er mwyn gofyn cwestiynau ystyrlon a gwrando ar ein gilydd. Roedd egni鈥檙 sgyrsiau hynny yn dangos pa mor fawr ydy鈥檙 potensial i barhau i archwilio a chydweithio.鈥�
Dywedodd yr Athro Ruth McElroy, Pennaeth Ysgol y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau, 鈥淯n o gryfderau mawr y dyniaethau yw鈥檙 gallu i ddod 芒 phobl ynghyd i archwilio cwestiynau cymhleth o safbwyntiau gwahanol. Dangosodd Creu Cysylltiadau werth deialog rhwng cymunedau ffydd, gweithwyr proffesiynol ym maes y cyfryngau, addysgwyr ac ymchwilwyr, gan dynnu sylw hefyd at y cyfraniad pwysig y mae crefydd yn parhau i鈥檞 wneud i fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Roeddem wrth ein bodd yn cynnal digwyddiad a oedd yn adlewyrchu ymrwymiad yr Ysgol i feithrin dealltwriaeth, ymholi beirniadol ac ymgysylltu dinesig.鈥�
Amlygodd y digwyddiad bwysigrwydd adrodd gwybodus am grefydd a dangos gwerth ymgysylltiad ystyrlon rhwng sefydliadau cyfryngau, addysgwyr a chymunedau ffydd. Gyda pherthnasoedd newydd wedi鈥檜 sefydlu a chydweithrediadau pellach eisoes yn datblygu, gosododd Creu Cysylltiadau sylfaen gadarn ar gyfer deialog barhaus ledled Cymru.