Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddiogelwch gofal ac铆wt gyda phwyslais ar r么l cleifion, timau a systemau digidol.
- Mae profiad y claf yn allweddol ar gyfer disgrifio ansawdd gwasanaethau. Ond sut ydym yn asesu Profiad ar Sail Adroddiadau Cleifion yn amgylchedd byrhoedlog gofal ac铆wt a gofal brys lle gallai cleifion symud rhwng sawl t卯m mewn cyfnod o oriau a dyddiau?
- Mae diogelwch mewn gofal iechyd yn aml yn dibynnu ar allu unigolion i weithredu dan bwysau mewn timau. Yn aml nid yw gwaith t卯m yn cael ei asesu mewn arholiadau clinigol. Gallai'r ffordd rydym yn asesu myfyrwyr unigol mewn arholiadau cystadleuol iawn effeithio鈥檔 negyddol ar eu hagwedd at gydweithredu. Sut allwn ni hyfforddi unigolion yn well ar gyfer gweithio mewn timau a sut allwn ni asesu ansawdd gwaith t卯m unigolion mewn arholiadau?
- Cofnodion iechyd electronig yw'r buddsoddiad mwyaf helaeth i unrhyw ysbyty, yn aml yn costio symiau deg ffigur. Yn rhyfedd ddigon, nid ydym yn gwybod fawr ddim am effaith cofnodion iechyd electronig ar ddiogelwch cleifion. Sut ydym yn asesu ac yn meincnodi ansawdd a diogelwch systemau digidol newydd?鈥�