Yn yr asesiad economeg iechyd mwyaf o'i fath i鈥檞 gynnal erioed yn y Deyrnas Unedig, canfu ymchwilwyr fod cyfanswm y gost gofal iechyd sy'n gysylltiedig 芒 dioddef o鈥檙 cyflwr niwrolegol cronig hwn, ar gyfartaledd, yn 拢2,800 dros gyfnod o 3 mis.
Fodd bynnag, roedd y ffigur yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar union is-fath y clefyd, gan agos谩u at 拢9,400 ymhlith cleifion sy鈥檔 dioddef anabledd sylweddol a chleifion sydd 芒 ffurf o鈥檙 clefyd sy鈥檔 datblygu鈥檔 gyflym.
Cafodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn , ei chynnal gan ymchwilwyr o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), sef canolfan ymchwil flaenllaw i economeg iechyd ym Mhrifysgol 精东传媒, sy'n arbenigo ym maes economeg meddyginiaethau ac iechyd y cyhoedd.
Mae sglerosis gwasgaredig yn gyflwr cronig, awtoimiwn sy'n effeithio ar y brif system nerfol. Mae'n achosi ystod eang o symptomau posibl, gan gynnwys lludded, problemau symudedd, poen, ac amhariadau gwybyddol, sy鈥檔 effeithio'n sylweddol ar annibyniaeth ac ansawdd bywyd cleifion.
Sglerosis gwasgaredig yw un o brif achosion anableddau niwrolegol mewn oedolion ifanc. Mae'n effeithio ar dros 150,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig a mwy na dwy filiwn ledled y byd.
Yn ogystal 芒'r costau gofal iechyd sylweddol, amlygodd yr ymchwil hefyd yr effaith ddifrifol y mae sglerosis gwasgaredig yn ei chael ar ansawdd bywyd. Fel rhan o鈥檙 ymchwil cafodd ansawdd bywyd cleifion ei fesur, ac roedd y sgoriau hynny鈥檔 gosod sglerosis gwasgaredig ymhlith y 10% isaf o gyflyrau iechyd cronig cyffredin.
Cynhaliwyd yr astudiaeth gan Dr Yankier Pijeira Perez, Swyddog Ymchwil, a'r Athro Dyfrig Hughes, Cyd-gyfarwyddwr CHEME. Fe wnaethant ddadansoddi data gan bron i 6,000 o unigolion sy'n byw gyda sglerosis gwasgaredig.
Dywedodd yr Athro Dyfrig Hughes, "Mae sglerosis gwasgaredig yn achosi anabledd sylweddol sy'n arwain at ostyngiad amlwg mewn ansawdd bywyd, ac mae'n gysylltiedig 芒 baich economaidd-gymdeithasol uchel. Mae ein canfyddiadau鈥檔 amlygu鈥檙 baich ddynol ac economaidd sylweddol y mae Sglerosis Gwasgaredig yn ei roi ar unigolion a鈥檙 gwasanaeth iechyd. Mae deall yr amrywiadau cost hyn ar draws is-fathau鈥檙 clefyd yn hanfodol er mwyn llywio polis茂au iechyd y dyfodol, optimeiddio llwybrau gofal, a sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu lle mae eu hangen fwyaf."
Mae'r ymchwil hwn yn rhan o gyfres barhaus o astudiaethau economeg iechyd sy鈥檔 cael eu cynnal gan yr Athro Dyfrig Hughes a鈥檙 Athro Rhiannon Tudor Edwards a鈥檜 cydweithwyr yn CHEME sy'n ymchwilio i gyflyrau niwrolegol.
Mae gwaith blaenorol ganddynt wedi gwerthuso effeithiau economaidd ac effeithiau iechyd a , sy鈥檔 glefydau niwroddirywiol, yn ogystal 芒 chyflyrau prin megis a .