Ailddefnyddio yn y Brifysgol
Y brifysgol yn mabwysiadu WarpIt, sef llwyfan ar gyfer rhannu ac ailddefnyddio adnoddau swyddfa a labordy
Mae'r brifysgol wedi cofrestru i ddefnyddio WarpIt, sef llwyfan ar-lein ar gyfer ailddosbarthu adnoddau. Cafodd y llwyfan ei gynllunio i helpu staff i ganfod, rhoi i ffwrdd ac ailddefnyddio dodrefn swyddfa, offer labordy ac eitemau eraill, a hynny i gyd am ddim!
Ers dechrau defnyddio鈥檙 llwyfan hwn y llynedd, mae'r brifysgol wedi llwyddo i osgoi gwaredu bron i 7 tunnell o asedau ac wedi arbed dros 拢48,000 mewn costau caffael. Wrth ddefnyddio鈥檙 llwyfan hwn, mae staff nid yn unig yn helpu'r brifysgol i leihau gwastraff ac arbed arian ond hefyd yn creu cyfleoedd i gydweithwyr gael mynediad at yr adnoddau maen nhw eu hangen.
Sut mae WarpIt yn gweithio?
Mae WarpIt yn syml i'w ddefnyddio. Oes gennych chi ddesg, cadair, neu ddarn arall o offer yn hel llwch? Rhowch nhw ar WarpIt i ddod o hyd i gartref newydd iddyn nhw yn hytrach na鈥檜 hanfon i safle tirlenwi. Oes arnoch chi angen rhywbeth ar gyfer eich swyddfa neu labordy? Porwch trwy beth mae staff eraill wedi鈥檜 rhestru i weld beth sydd ar gael cyn prynu unrhyw beth. Mae'n gynaliadwy, yn gost-effeithiol, ac yn gyfleus!
Cofrestrwch nawr yn a mynd ati i ailddosbarthu adnoddau.
British Heart Foundation Cymru (BHF) a'r Neuaddau Preswyl
British Heart Foundation Cymru yw partner ailddefnyddio Neuaddau Preswyl Prifysgol 精东传媒. Buom yn gweithio gyda BHF ers rhai blynyddoedd i gynyddu rhoddion ac eitemau i鈥檞 hailddefnyddio, a chefnogi elusen sy'n gweithio'n ddyfal i wella iechyd y genedl.
Mae dau fanc rhoddion parhaol ym Mhentref Myfyrwyr Ffriddoedd ac un banc ym Mhentref Myfyrwyr y Santes Fair, sydd yno drwy gydol y flwydd lle gall myfyrwyr roi dillad, manion bethau, DVDau, CDau, llyfrau ac ati nad oes arnynt eu heisiau yn. Mae 鈥榊mgyrch Gormod i鈥檞 Bacio' sy'n digwydd ar ddiwedd y tymor, yn hyrwyddo ailddefnyddio ac yn annog myfyrwyr i roi eu heiddo di-angen i鈥檙 elusen yn hytrach nag yn y bin. Dyna yw n么d 'Ymgyrch Ailddefnyddio ac Ailgylchu鈥� diwedd y tymor hefyd a鈥檙 gobaith yw y byddwn yn gallu ymestyn yr ymgyrch hon i'r gymuned yn y dyfodol.
Mae BHF hefyd yn gweithio gyda'r Brifysgol ar ymgyrchoedd a digwyddiadau amrywiol fel 鈥�Wythnos Am Wastraff鈥�, 鈥極'r Neuaddau i'r Cartref鈥�, ac 鈥榊mgyrch Ailddefnyddio ac Ailgylchu鈥� diwedd tymor. Trefnir sesiynau hyfforddi adfywio鈥檙 galon a鈥檙 ysgyfaint (CPR) hefyd gan BHF a Campws Byw. Mae鈥檙 sesiynau鈥檔 rhad ac am ddim i'r myfyrwyr.
Mae Adroddiad 鈥楪ormod i鈥檞 Bacio鈥� 2018 Prifysgol 精东传媒 a BHF ar gael yma.
Ail-lenwi ac Arlwyo
Mae'r Prifysgol yn 'Brifysgol Ail-lenwi'. Mae hyn yn golygu y gallwch lenwi eich potel dd诺r dro ar 么l tro yn y mannau arlwyo sydd ar y campws.Anogir yr holl staff a myfyrwyr i ddod 芒'u cwpanau ailddefnyddiadwy eu hunain wrth brynu diodydd yn ein mannau arlwyo.
Rhoi Gwerslyfrau i鈥檙 Llyfrgell
Mae Gorsaf Roddion (troli) ar gyfer gwerslyfrau nad oes eu hangen mwyach y Prif Llyfrgell. Rydym yn annog myfyrwyr i adael unrhyw werslyfrau nad ydyn nhw eu hangen mwyach ar y troli, a鈥檜 cyfnewid am unrhyw lyfrau sydd eu hangen arnynt. Gall myfyrwyr hefyd adael hysbysiadau ar y bwrdd y tu 么l i'r troli, os ydynt am werthu neu brynu gwerslyfrau.