Mae CAL:ON Cymru wedi鈥檌 seilio ar Wyddoniaeth Darllen - corff mawr o ymchwil o feysydd gwyddoniaeth wybyddol, ieithyddiaeth, ac addysg sy鈥檔 esbonio sut mae plant yn dysgu darllen ac ysgrifennu, a sut i鈥檞 haddysgu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Wrth gymhwyso hyn i鈥檙 ystafell ddosbarth, cyfeirir at y dull hwn weithiau fel llythrennedd strwythuredig.
Mae ein gwaith felly yn cefnogi ysgolion i:
Addysgu darllen ac ysgrifennu yn eglur ac yn systematig. Meithrin gwybodaeth am y sgiliau a鈥檙 cynnwys sy鈥檔 sail i lwyddiant llythrennedd. Meithrin cymhelliant, hyder, a chariad at ddarllen drwy helpu pob dysgwr i brofi llwyddiant ac ystyr yn yr hyn y maent yn ei ddarllen. Defnyddio asesu parhaus i lywio addysgu a monitro cynnydd.
Mae ein rhaglenni, ein dysgu proffesiynol, a鈥檔 hasesiadau wedi鈥檜 cynllunio i gefnogi addysgu penodol:
- Iaith lafar a llafaredd: Datblygu iaith lafar a geirfa fel sylfaen ar gyfer llythrennedd.
- Ffoneg systematig (gan gynnwys ffoneg synthetig): Addysgu perthnasoedd llythyren-sain mewn ffordd gronnus, wedi鈥檌 dilyniannu鈥檔 glir.
- Rhuglder: Meithrin cywirdeb, awtomatiaeth a mynegiant wrth ddarllen.
- Sillafu ac ysgrifennu: Addysgu amgodio, morffoleg, gramadeg a chyfansoddiad.
- Darllen a deall: Cefnogi disgyblion i wneud ystyr o destun drwy ddatblygu gwybodaeth, geirfa a sgiliau rhesymu.
Gyda鈥檌 gilydd mae鈥檙 cydrannau hyn yn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc 鈥� gan gynnwys y rhai sy鈥檔 cael trafferth 鈥� yn derbyn cyfarwyddyd penodol, cronnol, wedi鈥檌 seilio ar dystiolaeth, sy鈥檔 meithrin llwyddiant mewn darllen ac ysgrifennu. Ein nod yw sicrhau bod plant a phobl ifanc ledled Cymru yn dod yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, sy鈥檔 mwynhau darllen ac ysgrifennu at ddiben ac at bleser.