精东传媒

Fy ngwlad:
Typing on a laptop keyboard

Cyfieithu

Cyfieithu Dogfennau

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu dogfennau o鈥檙 Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg i鈥檙 Gymraeg. Gallwch anfon ychydig o eiriau o destun atom i'w cyfieithu, neu ddogfen hir.

Os ydych yn defnyddio'r gwasanaeth am y tro cyntaf darllenwch y cyfarwyddiadau isod ar sut i uwchlwytho dogfennau i'w cyfieithu.

Cysylltwch 芒 ni ar cyfieithu@bangor.ac.uk os ydych angen unrhyw gymorth.

Cam wrth gam

  • Cliciwch ar y cyswllt uchod a mewngofnodi i鈥檙 system yn defnyddio eich enw defnyddiwr a鈥檆h cyfrinair arferol. Dylech roi eich enw defnyddiwr mewn llythrennau bach.
  • Cliciwch ar 鈥楥reu Project Newydd鈥� ar waelod y sgrin.
  • Bydd angen i chi nodi eich manylion personol, manylion y gwaith ac unrhyw wybodaeth bellach.
  • Cofiwch roi digon o amser i ni gyfieithu eich gwaith. Os gwelwn na allwn gyfieithu鈥檙 gwaith erbyn y dyddiad yr ydych yn ei nodi, byddwn yn cysylltu 芒 chi i drafod.
  • Pythefnos yw鈥檙 dyddiad dychwelyd diofyn ond gallwch newid y dyddiad hwnnw os oes arnoch angen y gwaith yn 么l cyn hynny.
  • Yn achos projectau mawr sydd dros 5,000 o eiriau dylech gysylltu 芒 ni ymlaen llaw i roi rhybudd i ni y bydd y gwaith ar ei ffordd ac i drafod amserlen ar gyfer cwblhau鈥檙 gwaith.
  • Mae lle ar y ffurflen hefyd i ychwanegu gwybodaeth ychwanegol am y project.
  • Ar y dudalen nesaf gofynnir i chi ddewis rhwng uwchlwytho un ffeil neu nifer o ffeiliau neu deipio neu ludo testun byr o hyd at 250 o nodau cyfrifiadurol mewn blwch.
  • Os yw鈥檙 gwaith yn fwy na hynny bydd rhaid i chi uwchlwytho ffeil.
  • Gorau oll os gallwch anfon gwaith atom mewn ffeiliau Word.
  • I orffen, cliciwch y botwm 鈥楢nfon at yr Uned Gyfieithu鈥�.
  • Yn eich cofnod ar y system bydd y gwaith yr ydych newydd ei anfon at yr Uned Gyfieithu i鈥檞 weld mewn GWYN.
  • Unwaith y bydd yr Uned Gyfieithu wedi derbyn y gwaith a chadarnhau鈥檙 dyddiad dychwelyd bydd y gwaith yn troi鈥檔 FELYN.
  • Wedi i鈥檙 gwaith gael ei ddosbarthu i gyfieithydd, bydd yn troi鈥檔 LAS.
  • Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau bydd yn troi鈥檔 WYRDD ac fe gewch neges e-bost yn gofyn i chi fewngofnodi i鈥檙 system i lawrlwytho eich gwaith.
  • Ar 么l agor y project a bydd dolen at y ddogfen wreiddiol ar y chwith a dolen at y cyfieithiad ar y dde. Cliciwch ar y ddolen at y cyfieithiad lawrlwytho鈥檙 ddogfen.

Cyfieithu ar y pryd

Mae鈥檙 Uned Gyfieithu yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewnol o鈥檙 Gymraeg i鈥檙 Saesneg yn y cnawd, yn rhithiol (dros Zoom a Teams) ac yn hybrid.

Mae鈥檙 Uned Gyfieithu hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyflwyniadau myfyrwyr. Os oes gennych fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg a myfyrwyr cyfrwng Saesneg yn yr un dosbarth, gallwch alw ar yr Uned Gyfieithu i ddarparu cyfieithiad o gyflwyniadau鈥檙 myfyrwyr Cymraeg i鈥檙 Saesneg.

Cyn archebu, darllenwch y Canllawiau Archebu isod yn ofalus, ynghyd 芒'r Daflen Gyfarwyddiadau Zoom  neu鈥檙 Daflen Gyfarwyddiadau Teams os ydych yn archebu gwasanaeth cyfieithu i ddigwyddiad rhithiol, yna ewch ati i lenwi鈥檙 .

Am ragor o wybodaeth cysylltwch 芒 cyfieithu@bangor.ac.uk

Canllawiau Archebu鈥檙 Gwasanaeth Cyfieithu ar y Pryd o鈥檙 Gymraeg i鈥檙 Saesneg

Os ydych eisiau trefnu bod cyfieithydd ar y pryd yn bresennol mewn cyfarfod neu ddigwyddiad, dyma rai canllawiau i鈥檞 dilyn:

1. Dylech gynnwys yr holl fanylion perthnasol wrth archebu'r gwasanaeth:

  • dyddiad
  • amser
  • natur y digwyddiad/cyfarfod
  • dull (yn y cnawd / Zoom / Teams / hybrid)
  • unrhyw bapurau perthnasol

Os bydd unrhyw rai o鈥檙 manylion hyn yn newid, mae鈥檔 rhaid rhoi gwybod i鈥檙 uned cyn gynted 芒 phosib.

2. Dylech archebu鈥檙 gwasanaeth o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad y digwyddiad/cyfarfod. Fel rheol, oherwydd y galw mawr am ein gwasanaeth yn ystod oriau gwaith arferol, ni allwn gytuno i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd y tu allan i oriau gwaith. Nid ydym yn gallu darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i ddigwyddiadau allanol na digwyddiadau gyda chyllid allanol. Yn achos cynadleddau academaidd, mae鈥檔 rhaid cysylltu 芒鈥檙 uned o leiaf ddau fis cyn y digwyddiad. Mae croeso i drefnwyr cynadleddau gysylltu 芒 ni cyn hynny am gyngor ar drefniadau ymarferol cyfieithu ar y pryd. Ond ni fydd modd cadarnhau y bydd y gwasanaeth ar gael nes bydd yr uned wedi cael copi o鈥檙 rhaglen gyda manylion llawn am y gofynion cyfieithu ar y pryd.

3. Dylech anfon unrhyw bapurau perthnasol at y Prif Gyfieithydd ar y Pryd o leiaf 3 diwrnod gwaith ymlaen llaw er mwyn i鈥檙 cyfieithydd allu paratoi at y cyfarfod/digwyddiad. Mae hyn yn bwysig ym mhob achos, ond mae鈥檔 hanfodol ar gyfer cyflwyniadau, cyfweliadau, seminarau ymchwil a chynadleddau. Mae鈥檔 rhaid anfon cyflwyniadau neu bapurau i鈥檞 cyflwyno mewn cynadleddau academaidd o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y gynhadledd.

4. Yn achos cyfweliadau a chyflwyniadau, dylech geisio sicrhau bod yr ymgeisydd/cyflwynydd yn bwriadu siarad Cymraeg. Os bydd mwy nag un unigolyn yn cymryd rhan, dylech geisio sicrhau bod y rhai sy鈥檔 bwriadu siarad/cyflwyno yn Gymraeg yn dilyn ei gilydd ar yr amserlen er mwyn gwneud y defnydd gorau o amser y cyfieithydd, ond cofiwch nad yw cyfieithwyr ar y pryd i fod i gyfieithu am fwy na hanner awr heb saib o 5 munud o leiaf.

5. Ni all yr uned ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn sesiynau cyfochrog yn yr un digwyddiad oherwydd y gofynion eraill sydd ar y gwasanaeth.

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i archebu'r gwasanaeth.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch 芒鈥檙 Prif Gyfieithydd ar y Pryd.