Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae MA Prifysgol 精东传媒 mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y maes.
Ochr yn ochr ag ymarfer addysgu, mae'r rhaglen yn darparu cymhwysedd a dealltwriaeth feirniadol o ystod eang o agweddau ar yr iaith Saesneg ac ieithyddiaeth Saesneg (agweddau cymdeithasegol-ieithyddol Saesneg, hanes Saesneg, caffael ail iaith, seicoieithyddiaeth yn ogystal 芒 materion sy'n ymwneud 芒 Saesneg fel iaith ryngwladol a dwyieithrwydd).
Rydym yn adran gyfeillgar ac agos-atoch gyda staff sy鈥檔 frwd dros drosglwyddo eu harbenigedd a鈥檜 gwybodaeth am y pwnc ac rydym yn ymrwymo i ddarparu profiad dysgu o鈥檙 ansawdd uchaf i鈥檔 myfyrwyr. Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr gyda chefnogaeth bersonol gref trwy gydol eich astudiaethau am MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor.
Ar ein cwrs MA Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor gallwch ddefnyddio cyfleusterau dysgu o鈥檙 radd flaenaf. Mae ein staff hefyd yn arbenigwyr yn y meysydd canlynol a gallant gynnig cefnogaeth ynddynt:
- Meddalwedd ystadegol megis: SPSS, R-Statistics ac Excel
- Meddalwedd seicoleg arbrofol fel E-Prime, GORILLA Experiment Builder, Open Sesame a Webexp
- Meddalwedd dadansoddi acwstig a seinegol fel: Audacity, Praat, a SIL Speech Analyzer
- Profion seicometrig / iaith safonol (e.e. EVT, BPVS, NARA, WISC, K-BIT, TROG, CELF)
- Amrywiaeth eang o feddalwedd corpws a choncordans arbenigol gan gynnwys CHILDES a CLAN
Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned ymchwil 么l-radd fywiog ac arloesol. Bydd cefnogaeth trwy wahanol ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn, gan gynnwys sgyrsiau unigol, seminarau a gweithdai anffurfiol a chynadleddau mawr.
Pam astudio MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor ym Mhrifysgol 精东传媒?
- Datblygwch brofiad ymarferol o gynllunio gwersi, dylunio cyfarwyddiadau ar gyfer tasgau, ac addysgu ymarferol.
- Datblygwch wybodaeth fanylach am ieithyddiaeth Saesneg gan feithrin y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth ymarferol sydd eu hangen i ddysgu Saesneg fel ail iaith.
- Dysgwch gan academyddion sy'n dod ag ymchwil arloesol yn uniongyrchol i'r ystafell ddosbarth, gan wneud eich dysgu'n berthnasol, yn ddiddorol ac yn gymhwysol.
- Ymunwch 芒 chymuned gefnogol a bywiog o 么l-raddedigion lle byddwn yn dod i'ch adnabod chi a'ch uchelgeisiau.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r rhaglen feistr hon wedi'i chynllunio i roi'r hyder i chi gymryd eich cam nesaf mewn Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL). Yn ystod y radd byddwch yn ennill sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol gan academyddion sy'n flaenllaw ym maes ymchwil ieithyddiaeth, gan sicrhau bod eich dysgu yn berthnasol ac yn gysylltiedig 芒'r byd go iawn.
Mae'r cwrs yn datblygu eich dealltwriaeth o'r iaith Saesneg yn fanwl. Byddwch yn gwella ystod o sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr, gan gynnwys galluoedd ymchwil a dadansoddi uwch, sgiliau cyflwyno a datrys problemau hyderus, gwaith t卯m effeithiol, a鈥檙 gallu i reoli amser cryf i'ch helpu i allu bodloni terfynau amser.
Modiwlau gorfodol:
- Damcaniaeth Saesneg fel Iaith Dramor 鈥� Dysgu am sylfeini damcaniaethol dysgu Saesneg fel iaith dramor ac archwilio materion allweddol y mae athrawon a dysgwyr yn eu hwynebu.
- Caffael Ail Iaith a Dysgu Iaith - Mae鈥檙 modiwl hwn yn archwilio sut mae ail iaith yn cael ei dysgu, y prosesau sydd ynghlwm 芒 hynny a goblygiadau dysgu iaith yn effeithiol.
- Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor 鈥� Ymchwiliwch i brif ddulliau dysgu Saesneg fel iaith dramor a datblygwch eich gallu i'w gwerthuso a'u cymhwyso. Byddwn yn edrych ar gydrannau ymarferol fel arsylwi yn yr ystafell ddosbarth a goruchwylio siaradwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf i ddysgu鈥檙 iaith.
- Dulliau Ymchwil Ieithyddiaeth 鈥� Datblygwch sgiliau mewn dulliau ymchwil ansoddol, meintiol, arbrofol ac ethnograffig mewn ieithyddiaeth ac ieithyddiaeth gymhwysol gan eich helpu i baratoi i ddylunio a chwblhau traethawd hir annibynnol ar lefel Meistr.
- Traethawd MA 鈥� Cwblhewch broject ymchwil annibynnol ac ysgrifennwch draethawd hir dan arweiniad goruchwyliwr.
Efallai y gofynnir i rai nad ydynt yn siaradwyr Saesneg brodorol ddilyn cyrsiau di-gredyd gydag ELCOS i'w cynorthwyo gyda'u Saesneg, oni ch芒nt eu heithrio gan eu tiwtor.
Byddwch hefyd yn gallu dewis rhai modiwlau dewisol, gan deilwra'r cwrs i'ch diddordeb a'ch nodau gyrfa, gyda phynciau'n cynnwys agweddau sosioieithyddiaeth ar Saesneg, hanes Saesneg, caffael iaith mewn plant, seicoieithyddiaeth, ac ieithyddiaeth corpws.
Syniad bras yn unig yw'r rhestr modiwlau, a gallant newid.
Caiff y cwrs ei ddysgu trwy gyfuniad o鈥檙 canlynol:
- Darlithoedd
- Seminarau
- Gwaith gr诺p
- Gwaith llafar
- Ymarfer cyfrifiadurol
- Hunan-astudio
- Astudiaeth maes
Mae'r dulliau addysgu a dysgu a ddefnyddir yn amrywio yn 么l pwnc a lefel y modiwl.
Bydd yr asesu鈥檔 cynnwys cyfuniad o鈥檙 canlynol:
- Arholiad i鈥檞 wneud adref
- Traethawd neu adroddiad
- Cyflwyniad llafar
- Ymarfer cyfrifiadurol
- Adolygu erthyglau
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig yw鈥檙 wybodaeth hon a gall newid.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer TEFL MA.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2.ii neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol (e.e. Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cyfieithu, Seicoleg, Iaith/Llenyddiaeth Saesneg, Addysg Saesneg/Addysg Iaith Saesneg).
Bydd ymgeiswyr sydd 芒 chymwysterau neu brofiad cyfwerth a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd yn cael eu hystyried fesul un.
Gyrfaoedd
Bydd MA Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol 精东传媒 ar gyfer TEFL yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae dysgu Saesneg fel iaith dramor at ddibenion proffesiynol amrywiol ledled y byd.
Yn ogystal ag ennill profiad yn yr ystafell ddosbarth byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi cryf ynghyd 芒'r gallu i fabwysiadu/defnyddio gwahanol strategaethau ar gyfer cyfathrebu a chyflwyno yn Saesneg mewn amrywiaeth o gyd-destunau amlieithog a rhyngwladol.
Mae astudio dysgu Saesneg fel iaith dramor yn rhoi'r cefndir damcaniaethol ac ieithyddol sydd ei angen ar fyfyrwyr sy'n dymuno mynd ymlaen i ddysgu Saesneg i siaradwyr nad ydynt yn siaradwyr brodorol yn ogystal 芒 chynnig profiad ymarferol yn yr ystafell ddosbarth. Mae cyfleoedd i ddysgu mewn gwledydd ledled y byd, er enghraifft mewn prifysgolion, colegau neu ysgolion iaith preifat.
Ar 么l cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gallech benderfynu dilyn gyrfa academaidd a gwneud cais i astudio am ddoethuriaeth.
Dyma rai o鈥檙 swyddi nodweddiadol:
- Dysgu Iaith*
- Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
- Technolegau Iaith
- Cyhoeddi a Golygu
- Ymchwil a鈥檙 Byd Academaidd
- Ieithyddiaeth Fforensig
- Polisi a Chynllunio Ieithyddol
- Cyfathrebu Corfforaethol
- Cysylltiadau Rhyngwladol a Diplomyddiaeth
* Nid yw'r radd hon yn gymhwyster addysgu ffurfiol, efallai y bydd angen hyfforddiant ychwanegol.