Pryd i wneud Cais
Bydd y Brifysgol yn derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn ond byddwn yn gyffredinol yn eich annog i anfon eich cais cyn diwedd mis Mehefin (os yn cychwyn ym mis Medi) neu diwedd mis Hydref (os yn cychwyn mis Ionawr).
Mae hyn yn rhoi cyfle i chi wneud trefniadau ariannol a/neu lety ac i chi fedru cael gafael ar drawsgrifiadau a geirda os bydd angen. Bydd hyn hefyd yn rhoi mwy o amser i chi gwrdd ag unrhyw amodau y byddem yn ei osod ar eich cynnig i gael eich derbyn i astudio鈥檙 cwrs.
Mae gan rhai cyrsiau ddyddiadau cau penodol 鈥� edrychwch ar y disgrifiad cwrs ar y wefan i weld os ydi hyn yn berthnasol i鈥檆h cwrs.
Mae gofyn dilyn proses wahanol i wneud cais am y cyrsiau hyn.
Mae gofyn dilyn proses wahanol i wneud cais am y cyrsiau hyn.
GWYBODAETH BELLACH A CHYNGOR AR WNEUD CAIS AM GWRS YMCHWIL 脭L-RADD
Er eich bod yn defnyddio鈥檙 un ffurflen i wneud cais am gwrs 么l-radd trwy ddysgu a chwrs ymchwil, mae鈥檙 ffordd y dylech fynd ati i wneud cais yn gwneud gwahaniaeth.
Fel gydag ein holl gyrsiau, gallwch ariannu cwrs PhD/Mphil ym Mangor eich hun, neu efallai fod gennych gymorth ariannol allanol (er enghraifft gan eich cyflogwr neu gan y cynulliad), ac rydym yn croesawu pob cais am wneud hynny. Er hynny, yn hytrach na chwblhau ffurflen gais yn unig, gallwch gymryd camau syml er mwyn gwneud yn si诺r fod eich cais yn sefyll allan ac yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus.
Mae pob myfyriwr PhD/Mphil angen goruchwyliaeth gan o leiaf un aelod o staff y Brifysgol, ac os ydych yn ystyried PhD/Mphil mae gennych eisoes syniad o鈥檙 pwnc neu鈥檙 maes yr ydym am astudio ynddo. I wneud yn si诺r fod gan y Brifysgol arbenigedd yn y maes er mwyn darparu goruchwyliaeth, edrychwch yn gyntaf ar ein tudalennau staff.
Unwaith yr ydych wedi dod o hyd i aelod o staff sydd yn gwneud gwaith ymchwil yn y maes, gallwch gysylltu 芒 hwy yn uniongyrchol gyda chrynodeb o鈥檆h ymchwil sy鈥檔 amlinellu eich cais a gofynnwch a ydynt yn fodlon i oruchwylio eich project. Os yw鈥檙 aelod o staff academaidd yn dangos diddordeb, gallwch drafod ymhellach i ddatblygu cynnig ymchwil PhD/Mphil llawn.
Ar yr adeg yma, dylech wneud cais am y rhaglen PhD/Mphil gan ddefnyddio'r ffurflen sydd ar gael yma. Dylech gwblhau鈥檙 ffurflen yn llawn gan gynnwys cyfeirnodau academaidd, eich cais ymchwil ac enw鈥檙 aelod o staff academaidd sydd am eich goruchwylio.
Ymgeisio am ysgoloriaethau PhD a hysbysebir gan Brifysgol 精东传媒
Eich cynnig ymchwil
Mae cynnig ymchwil da yn hanfodol os ydych yn ymgeisio am PhD neu MPhil. Dylai鈥檙 cynnig gynnwys:
- Trosolwg - rhowch fraslun o'r maes pwnc yr ydych am ymchwilio iddo, a rhoddwch wybodaeth am y dadleuon damcaniaethol, polisi ac empirig y byddwch yn ymdrin 芒 hwy.
- Cynllunio 鈥� rhaid i chi ddangos eich bod yn ymwybodol o amserlenni ymchwil, a bod gennych gynllun i reoli'ch gwaith. Rhaid i chi ddangos ei bod yn bosib cyflawni'r ymchwil yn yr amser sydd ar gael.
- Cyfeiriadau llenyddol 鈥� rhaid i chi ddangos nad yw'ch maes ymchwil arfaethedig wedi'i astudio o'r blaen. Rhowch gyfeiriadau at erthyglau a thestunau llenyddol sy'n berthnasol i'ch maes astudio chi.
- Methodoleg 鈥� rhaid i chi ddangos eich bod yn ymwybodol o'r offer methodolegol sydd ar gael, a nodi pa rai fyddai'n addas i'ch ymchwil chi.
Mae cyfleoedd i ennill ysgoloriaethau PhD wedi eu hariannu yn codi yn aml drwy gydol y flwyddyn, ac yn cael ei hysbysebu fel cyfleoedd penodol sydd yn gofyn i chi wneud cais ffurfiol. Mae鈥檙 broses gwneud cais ar gyfer ysgoloriaethau PhD wedi eu hariannu yn amrywio o ysgol i ysgol felly mae gofyn i chi edrych ar wefan yr ysgol academaidd briodol a dilyn y cyfarwyddiadau sydd ar gael yno. Os ydych yn ansicr o unrhyw ran o鈥檙 broses gneud cais, gallwch gysylltu 芒鈥檙 ysgol academaidd briodol yn uniongyrchol am gyngor neu gallwch e-bostio postgraduatestudy@bangor.ac.uk
Statws eich cais
Gallwch gadw golwg ar statws eich cais drwy fewngofnodi i'n . Os ydych yn cael unrhyw anhawsterau gyda'n system ar-lein neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais, cysylltwch 芒 ni:
Swyddfa Derbyniadau:
- +44 (0)1248 383717
- postgraduate@bangor.ac.uk
Swyddfa Derbyniadau Rhyngwladol
- Cysylltwch 芒'ch rheolwr gwlad
Wedi gwneud cais yn barod?
Ydych chi eisiau gwybod beth fydd yn digwydd nesaf? Dewch i ddarganfod mwy am ffioedd a chyllid, llety, ein lleoliad a'r holl wybodaeth bwysig yr ydych angen ei wybod.