Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'n amser gwych i astudio polisi cymdeithasol. Mae'r byd yn newid yn gyflym trwy ddatblygiadau gwleidyddol, economaidd a thechnolegol sy'n effeithio ar fywydau pawb. Byddwn yn archwilio rhai o faterion, cysyniadau a dadleuon allweddol yr oes, megis tlodi ac anghydraddoldeb; lles ac ansicrwydd cymdeithasol; argyfyngau economaidd a democratiaeth; r么l y wladwriaeth; awtomeiddio; gwaith a hamdden; ac ymfudo, llywodraethu a sefydliadau byd-eang. Byddwn yn cymharu polis茂au a dulliau gweithredu o fewn cymdeithasau a rhyngddynt.
Byddwch yn dilyn modiwlau craidd sy'n ymchwilio i ddamcaniaethau cymdeithasol, materion, a dulliau ymchwil sy'n berthnasol i bolisi cymdeithasol a chymdeithaseg. Byddwn yn tynnu sylw at elfennau moesegol polisi cymdeithasol ac yn darparu hyfforddiant ymchwil arbenigol. Yn y traethawd hir byddwch yn canolbwyntio ar broject ymchwil parhaus a fydd yn dilyn eich diddordeb personol o dan oruchwyliaeth arbenigol.
Cymwysterau
MA mewn Polisi Cymdeithasol; Diploma 脭l-radd mewn Polisi Cymdeithasol; Tystysgrif 脭l-radd yn y Gwyddorau Cymdeithas Uwch.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae rhai modiwlau y gallwch ddisgwyl* eu hastudio ar y cwrs hwn yn cynnwys;
Materion Allweddol mewn Polisi Cymdeithasol: Mae'r modiwl yn ehangu ac yn dyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion allweddol polisi cymdeithasol cyfoes. Gwneir cysylltiadau rhwng dadansoddiadau damcaniaethol mewn lles ac ymholiadau empirig mewn polisi cymdeithasol, a byddwn yn archwilio materion, dadleuon a chysyniadau allweddol sy鈥檔 ymwneud 芒 dadansoddi a gwerthuso polisi cymdeithasol. Caiff r么l y wladwriaeth mewn ffurfiau cyfoes ar les ei gwerthuso'n feirniadol. Bydd dadleuon craidd yngl欧n 芒 newid cymdeithasol, cydraddoldeb ac anghydraddoldebau, gwahaniaethu, risg a dibyniaeth, preifateiddio, dinasyddiaeth, a hawliau. Caiff effaith datganoli a newid yn llywodraeth leol ar bolisi cymdeithasol yng Nghymru eu hadolygu ynghyd 芒 chymariaethau cenedlaethol a rhyngwladol o systemau lles.
Proses ac Ystyr yr Ymchwil: Mae'r modiwl yn darparu hyfforddiant ar lefel gradd mewn dulliau ymchwil ansoddol a hyfforddiant uwch mewn dadansoddi data ansoddol. Bydd y modiwl yn cynnwys dysgu鈥檙 myfyrwyr yngl欧n 芒 phrif ddulliau ymchwil ansoddol-meintiol gymysg yn ogystal 芒 rhoi cyfleoedd i鈥檙 myfyrwyr wneud darnau bach, wedi'u hasesu, o waith maes a dadansoddi data. Caiff y myfyrwyr eu hasesu ar eu gallu i gwblhau tasgau ymchwil penodedig ac ar eu dealltwriaeth o'r berthynas rhwng theori, cynllun a dulliau ymchwil.
Polis茂au Iechyd: Mae'r modiwl yn arfer dulliau cymharol o astudio polis茂au iechyd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Bydd y myfyrwyr yn ystyried gwleidyddiaeth iechyd ac yn datblygu dealltwriaeth o ddeinameg p诺er rhwng gweithwyr proffesiynol, gweinyddwyr a chleifion. Caiff y r么l sydd i ddadansoddi polisi cymdeithasol o ran gwerthuso effaith newid, ffactorau sy'n gysylltiedig ag arferion da a drwg, a rhwystrau i weithredu polis茂au iechyd newydd eu harchwilio trwy enghreifftiau ac astudiaethau achos. Caiff achos Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prydain ei ystyried yn fanwl trwy archwilio tystiolaeth o ymdrechion i wella ansawdd gofal gyda chyllid a newid sefydliadol. Bydd y modiwl hefyd yn archwilio goblygiadau datganoli i'r Gwasanaeth Iechyd yn y Deyrnas Unedig yn ogystal 芒 pholis茂au marchnata a phreifateiddio sy'n seiliedig ar y syniadau o ddewis a'r dinasyddion megis defnyddwyr.
Y Traethawd Hir: Mae鈥檙 modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wneud ymchwil unigol sydd ar raddfa fach, ond sy鈥檔 arwyddocaol, o dan oruchwyliaeth goruchwylydd ymchwil. Mae鈥檙 myfyrwyr yn nodi cwestiwn ymchwil, yn casglu ac yn dadansoddi data sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 cwestiwn ymchwil, gan ddefnyddio fframwaith dadansoddol priodol. Yna maent yn ymdrin 芒鈥檙 cwestiwn ymchwil yng ngoleuni eu canfyddiadau. Cyflwynir yr ymchwil ar ffurf traethawd hir heb fod yn fwy nag 20,000 o eiriau.
Tiwtorialau goruchwylio un-i-un, yn 么l datblygiad y myfyriwr unigol, gan gynnwys cyfarwyddyd yngl欧n 芒 nodi a chynllunio pwnc ymchwil priodol, ymchwilio a defnyddio cysyniadau damcaniaethol perthnasol, cynllunio a gwneud gwaith maes a chasglu data (lle bo鈥檔 berthnasol) a chyflwyno鈥檙 canlyniadau mewn modd cydlynol ac ar y fformat priodol. Mae gweithdai paratoi ac mae鈥檙 myfyrwyr yn cyflwyno eu cynigion i鈥檞 cyd-fyfyrwyr a鈥檙 staff ar ddiwrnod cyflwyno.
Damcaniaethu ynghylch Cymdeithas a Gwleidyddiaeth: Mae鈥檙 modiwl yn archwilio gwreiddiau, natur ac arwyddoc芒d damcaniaethau a chysyniadau cymdeithasol a gwleidyddol a ddatblygwyd yn yr 20fed ganrif. Mae鈥檔 archwilio cryfderau a gwendidau dulliau gweithredu fel Theori Feirniadol (megis Adorno, Horkheimer, Marcuse), 么l-strwythuraeth (megis Foucault, Bauman, Lyotard), a theori 鈥榮afbwynt鈥� a 鈥榬hyngblethedd鈥� ffeminyddol (Yuval-Davis, Hill Collins). Mae'n ystyried amryw o theor茂au sy'n ceisio mynd i'r afael 芒 gwybodaeth, p诺er, ac israddoldeb o ran rhaniadau rhyw a gwahaniaethau dosbarth, hil a/neu rywioldeb. Mae鈥檙 modiwl yn ceisio gofyn cwestiynau am y berthynas rhwng theori gymdeithasol a gwleidyddol, gweithredu cymdeithasol, symudiadau, moderniaeth, cyfalafiaeth, newid cymdeithasol, ymchwil, a bywyd beunyddiol. Nod y modiwl yw annog y myfyrwyr i adfyfyrio ar eu sefyllfa hwythau fel cyfranogwyr mewn rhyngweithiadau cymdeithasol a gwleidyddol.
Cyfiawnder Troseddol Cymharol a Rhyngwladol: Mae Cyfiawnder Troseddol Cymharol a Rhyngwladol yn cynnig adfyfyrdod beirniadol ynghylch yr arfer o astudio asiantaethau a sefydliadau cyfiawnder troseddol yn gymharol. O ddadansoddi ymchwil cenedlaethol, cymharol a rhyngwladol ar yr heddlu, y llysoedd troseddol a鈥檙 gyfundrefn gosbi, caiff y myfyrwyr eu hysbysu am y materion niferus sy鈥檔 dylanwadu ar ymarfer a phrofiad cyfiawnder troseddol ac, yn ei dro, ymchwil i gyfiawnder troseddol, gan gynnwys y dull, y lleoliad, gwleidyddiaeth a moeseg, yn ogystal 芒'r cysylltiadau a'r rhyngweithiadau rhwng yr ymchwilydd a'r rhai y bu鈥檔 ymchwilio iddynt. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried rhai materion cyffredinol sy鈥檔 ymwneud 芒 dioddefwyr 'cyffredin' troseddau mewn systemau cyfiawnder troseddol cenedlaethol a rhyngwladol.
Troseddau Trawswladol: Bydd y modiwl yn anelu at gynnig archwiliad o nifer o agweddau ar droseddau trawswladol a throseddolrwydd. I ddechrau, bydd trafodaeth yngl欧n 芒 therfysgaeth, troseddau gwladol a throseddau trefnedig cyn mynd ymlaen i edrych ar wahanol fathau o weithgarwch troseddol trawswladol. Bydd hynny鈥檔 cynnwys cwestiynau ynghylch trosedd a gwyredd, theori droseddegol, a gweithrediad systemau cyfiawnder troseddol. Mae pob un o'r pryderon sylfaenol hynny鈥檔 amrywio ymhlith rhanbarthau amrywiol ledled y byd ac o ran gwahanol fathau o droseddau. Bydd y modiwl yn trafod amrywiol fethodolegau a ddefnyddir i astudio troseddau trawswladol a byd-eang.
*Sylwer: mae cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid o flwyddyn i flwyddyn. Cysylltwch 芒 ni am y wybodaeth ddiweddaraf.
Gofynion Mynediad
Fel rheol 2.i mewn Polisi Cymdeithasol neu ddisgyblaeth academaidd gysylltiedig. Gellir derbyn myfyrwyr sydd 芒 phrofiad proffesiynol perthnasol hefyd. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd yn y categori hwn ddarparu tystiolaeth gadarn yn eu cais a gellir eu cyfweld cyn gwneud cynnig iddynt.
Fel rheol, mae鈥檔 ofynnol i fyfyrwyr rhyngwladol gyflwyno tystiolaeth o fedrusrwydd yn y Saesneg.