Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae MSc Prif Ysglyfaethwr y M么r yn gwrs llawn amser, blwyddyn o hyd, sy'n cynnwys dau semester hyfforddedig a phroject ymchwil annibynnol. Byddwch yn astudio modiwlau arbenigol, a fydd yn eich cyflwyno i sgiliau maes a sgiliau meintiol wrth astudio prif ysglyfaethwyr y m么r ac ymchwil eigionegol, a phynciau mwy astrus ym maes ecoleg feintiol generig y m么r. Byddwch yn dechrau ar y gwaith paratoi cychwynnol ar gyfer y traethawd ymchwil yn gynnar ym mis Ionawr, er y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn digwydd o ddiwedd mis Mai hyd fis Medi. Mae prif ysglyfaethwyr y m么r, gan gynnwys mamaliaid m么r, adar m么r, a siarcod, yn elfennau pwysig o ecosystemau鈥檙 moroedd. Maent fel arfer yn crwydro ardaloedd eang ac yn dibynnu ar ysglyfaeth ysbeidiol sydd 芒 chysylltiad agos ag amgylchedd m么r ffisegol ddeinamig. Felly, mae deall sut mae poblogaethau prif ysglyfaethwyr y m么r yn ymwneud 芒'r amgylchedd morol yn hanfodol ar gyfer eu cadwraeth. Fodd bynnag, er mwyn ymchwilio a monitro鈥檙 anifeiliaid anamlwg hyn sy鈥檔 treulio rhan neu鈥檙 cyfan o鈥檜 bywydau o dan y d诺r, mae angen dulliau maes a dulliau technolegol a meintiol arbenigol sy鈥檔 ystyried eu ffisioleg a鈥檜 hymddygiad unigryw, ochr yn ochr 芒鈥檜 hamgylchedd morol. Mae鈥檙 cwrs heriol hwn yn unigryw o ran ei ddull amlddisgyblaethol 鈥� mae鈥檔 dod ag arbenigedd blaenllaw yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym meysydd ecoleg ysglyfaethwyr y m么r ac eigioneg at ei gilydd.
Pam dewis Prifysgol 精东传媒 ar gyfer y cwrs?
- Mae鈥檙 cynnwys pynciol yn hynod berthnasol i anghenion y dydd sydd ohoni o ran cadwraeth forol a datblygiadau alltraeth.
- Mae'r cwrs yn cysylltu eigioneg ag ecoleg prif ysglyfaethwyr y m么r.
- Byddwch yn ennill sgiliau meintiol o ansawdd uchel.
- Mae gennym gyfleusterau rhagorol o ran labordai a llongau.
- Rydym wedi ein lleoli mewn amgylchedd delfrydol ar gyfer astudio prif ysglyfaethwyr y m么r.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Trwy'r modiwlau arbenigol, byddwch yn cael eich hyfforddi i ddefnyddio dulliau meintiol allweddol ac yn cael eich cyflwyno i ddulliau cyfoes o fonitro ac ymchwilio i brif ysglyfaethwyr, gan eich galluogi i gofnodi faint ohonynt sydd, eu dosbarthiad a'u hymddygiad mewn perthynas 芒'u cynefin ffisegol.
Mae鈥檙 modiwlau arbenigol yn manteisio ar y cymunedau cyfoethog a thoreithiog o brif ysglyfaethwyr y m么r a geir yng ngogledd Cymru, a byddwch yn astudio anifeiliaid mewn amrywiaeth o leoliadau a lleoliadau. C芒nt eu hategu gan fodiwlau sylfaenol sy'n ymdrin 芒 phynciau ecolegol ac eigionegol, gan roi'r i chi鈥檙 wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddilyn ystod o yrfaoedd yn ymchwilio, monitro neu warchod y rhywogaethau hyn. Bydd y modiwlau sylfaenol hefyd yn archwilio鈥檙 cynefinoedd amrywiol o amgylch yr Ysgol Gwyddorau Eigion ac yn defnyddio ein llong ymchwil a鈥檔 cychod bach. Yna byddwch yn cymhwyso'r sgiliau meintiol ac ymarferol yr ydych wedi'u magu mewn project annibynnol, lle byddwch yn dilyn pwnc ymchwil o ddiddordeb dros gyfnod yr haf.
Addysgir llawer o sgiliau arbenigol ar y cwrs, gan gynnwys:
- Arolygon Llinell a Thrawslun
- Arolygon ar y lan
- Modelu Dosbarthiad Rhywogaethau
- Adnabod Mamaliaid Morol
- Dadansoddiad Marcio ac Ail-ddal
- Modelu Symudiad o ddata Biogofnodi
- Modelu Poblogaethau
- Monitro acwstig
- Mesuriadau Eigionegol yn y fan a'r lle
- Mesuriadau Eigionegol synhwyro o bell
Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau gwerthfawr y mae darpar gyflogwyr yn chwilio amdanynt, megis:
- Ystadegau R
- MATLAB
- Uwch-fodelu ecolegol
- GIS
How will you learn on this course?
Fel myfyriwr Meistr 么l-radd yn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion, bydd y rhan fwyaf o'ch addysgu yn digwydd yn yr ystafell bwrpasol i鈥檙 cwrs Meistr ar y safle ym Mhorthaethwy. Cynhelir y rhan fwyaf o'ch darlithoedd yno, ac mae ystafelloedd seminar, ardaloedd cyfrifiaduron a mannau dysgu cyffredinol hefyd ar gael yn gyfan gwbl i'r dosbarthiadau MSc. Gwneir rhywfaint o鈥檙 addysgu megis sesiynau cyfrifiadurol ymarferol ar y prif safle ym Mangor.
Mae ein rhaglenni MSc i gyd yn rhoi pwyslais cryf ar weithgarwch ymarferol, yn waith labordy a gwaith maes - gyda'r gwaith maes yn digwydd yn yr amgylchedd naturiol yn lleol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i hwylio ar ein llong ymchwil, y Prince Madog, i gasglu data a samplau.
Mae gan yr Ysgol ddiwylliant addysgu ac ymchwil bywiog y byddwch yn cael profiad ohono ac yn cyfrannu ato. Mae hyn yn ffurfio sylfaen annatod i鈥檙 addysgu 么l-radd a byddwch fel rheol yn ymuno ag ymchwilwyr gweithredol fel rhan o'ch project ymchwil personol eich hun.
Byddwch yn cael profiad o鈥檔 diwylliant addysgu blaengar ac yn cael eich addysgu trwy amrywiaeth o ddulliau ac asesiadau a fydd yn datblygu eich sgiliau pwnc-benodol, sy'n berthnasol i鈥檙 diwydiant.
Specialist course facilities
- Llong Ymchwil y Brifysgol - y Prince Madog.
- Systemau caffael data maes eigionegol ac ecolegol o'r radd flaenaf.
- Ystafell ddysgu benodol i鈥檙 cwrs Meistr yn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion.
Gofynion Mynediad
O leiaf gradd BSc (Anrhydedd) 2.i (neu gyfwerth) yn y gwyddorau biolegol neu eigioneg. Disgwylir i ymgeiswyr ddangos diddordeb amlwg mewn uwch ddulliau meintiol a modelu ym maes ecoleg anifeiliaid a/neu eigioneg yn eu datganiad personol. Rhaid wrth ystod dda o sgiliau TG, gan gynnwys gallu defnyddio pecynnau prosesu geiriau, taenlenni, pecynnau meddalwedd cyflwyno, a defnyddio e-bost a'r rhyngrwyd.
Mae profiad o godio (e.e. R, Python, Matlab), dadansoddi data gofodol (e.e. ArcGIS, QGIS), neu ystadegau lefel graddedig neu galcwlws yn ddymunol ond nid yn ofynnol ar gyfer y cwrs hwn.
Bydd ymgeiswyr sydd 芒 chymwysterau proffesiynol cyfwerth a/neu brofiad ymarferol perthnasol a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd, yn cael eu hystyried yn unigol. Cysylltwch 芒 ni am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol.
Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf ddarparu tystiolaeth foddhaol o鈥檜 gwybodaeth a鈥檜 dealltwriaeth o Saesneg ysgrifenedig a llafar: IELTS 7.0 (heb unrhyw elfen o dan 6.5). Os nad ydych wedi llwyddo i gyrraedd yr isafswm lefel iaith Saesneg sy'n ofynnol ar gyfer y cwrs hwn, gallwch wneud cais i ddilyn cwrs Saesneg cyn-sesiynol ym Mhrifysgol 精东传媒. Am fanylion llawn am y gofynion iaith Saesneg, yr ystod o brofion hyfedredd Saesneg a dderbynnir a chyrsiau iaith Saesneg dwys sydd ar gael ewch i'n tudalennau Gofynion Iaith Saesneg.
Cynghorir ymgeiswyr i wneud cais yn gynnar gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar y cwrs hwn.
Gyrfaoedd
Mae鈥檙 MSc Ecoleg Prif Ysglyfaethwyr y M么r nid yn unig yn cynnig gwybodaeth wyddonol gadarn am amgylchedd y m么r a chadwraeth, ond hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar y sgiliau y mae cyflogwyr yn rhoi bri arnynt.
Yn dibynnu ar y modiwlau arbenigol a ddewiswch, gallwch wneud cais am swyddi ar draws ystod eang o ddisgyblaethau megis cadwraeth, addysg/ymgysylltu 芒'r cyhoedd, ymgynghori amgylcheddol, asesu effaith amgylcheddol, rheoli鈥檙 m么r neu wneud astudiaeth 么l-radd bellach. Gall hyn arwain at ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant, prifysgolion, cyrff anllywodraethol a sefydliadau鈥檙 sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig a thramor.