Dysgu i Bawb 鈥� Meithrin Sgiliau, Cwrdd 芒 Phobl, Rhoi Cynnig ar Rywbeth Newydd
Mae Prifysgol 精东传媒 yn cynnig ystod eang, a chynyddol, o gyrsiau byr, datblygiad proffesiynol parhaus, a chyfleoedd dysgu hyblyg wedi'u cynllunio i gyd-fynd 芒'ch bywyd.
Rydym yn falch o gefnogi dysgu gydol oes drwy wneud addysg yn hygyrch i bawb, gyda'n cyrsiau cymunedol yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fframwaith Dysgu Gydol Oes Gr诺p Llandrillo Menai, gan gefnogi cyfleoedd dysgu hygyrch ledled Gogledd Cymru.
Nid yw ein cyrsiau cymunedol yn ymwneud ag ennill cymwysterau yn unig; maen nhw hefyd yn ymwneud 芒 dod 芒 phobl at ei gilydd. Drwy gysylltiadau cryf 芒 mentrau dysgu oedolion a chymunedol ledled Gogledd Cymru, rydym ni鈥檔 helpu i greu mannau croesawgar lle gall dysgwyr feithrin sgiliau, rhannu profiadau, a theimlo'n rhan o gymuned ddysgu ehangach.
P'un a ydych chi'n awyddus i ddatblygu'n broffesiynol, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, neu ailgysylltu 芒 dysgu, mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi ym mhob cam. Mae llawer o'n cyrsiau dysgu cymunedol yn cael eu cyflwyno gyda'r nos ac yn rhad ac am ddim, gan ei gwneud hi'n haws cydbwyso dysgu 芒 gwaith, teulu ac ymrwymiadau eraill.
Pam Dewis Cwrs Cymunedol?
- Mae ein cyrsiau鈥檔 ymarferol ac yn berthnasol, gan eich helpu i feithrin sgiliau defnyddiol neu archwilio diddordebau newydd, heb ymrwymo i astudio'n llawn amser.
- Maen nhw'n cynnig y cyfle i chi gysylltu, dysgu, a datblygu fel rhan o gymuned gefnogol.
- Yn rhad ac am ddim
- Gyda'r nos neu ar benwythnosau, gan ei gwneud hi'n haws cydbwyso dysgu 芒 gwaith, teulu ac ymrwymiadau eraill.
- Ar gael i bawb, waeth beth fo'u cefndir neu brofiad.
Y Cyrsiau Cymunedol sydd ar gael
Bob blwyddyn academaidd, rydym yn darparu detholiad eang ac amrywiol o gyrsiau cymunedol. O droseddeg a鈥檙 gyfraith i hanes Cymru, ymwybyddiaeth o ddyslecsia, a meddwl beirniadol, mae rhywbeth i bawb, beth bynnag fo鈥檆h cefndir neu brofiad.
Mae cyrsiau'r flwyddyn academaidd hon bellach wedi dod i ben. Cofrestrwch eich diddordeb i fod ymhlith y cyntaf i glywed pan fydd cyrsiau newydd yn cael eu cyhoeddi.