Mae creu CV effeithiol yn gam hanfodol wrth chwilio am swydd. Mae'n bwysig bod eich CV yn glir ac yn hawdd i'w ddarllen, dim mwy na 1-2 dudalen o hyd ac yn berthnasol i'r swydd rydych chi'n gwneud cais amdani. Mae gennym lawer o gefnogaeth ar gael i'ch helpu i ddechrau arni.
Fel myfyriwr neu gyn-fyfyriwr Prifysgol 精东传媒 mae gennych fynediad unigryw i CareerSet, meddalwedd sy'n rhoi adborth ar unwaith ar eich CV ac awgrymiadau ar gyfer gwelliannau. Rydym yn argymell bod myfyrwyr yn defnyddio hwn fel eu cam cyntaf i greu CV o safon dda. Rydym hefyd yn cynnal gweithdai CV ymarferol mewn labordai cyfrifiadurol ar y campws yn ystod y flwyddyn academaidd, a gallwn gynnig Apwyntiadau Cyngor Gyrfaol ar gyfer adolygiadau CV terfynol.
Dylech bob amser anfon llythyr eglurhaol gyda'ch CV. Gwnewch yn si诺r eich bod yn gwybod beth yw鈥檙 gofynion hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani, gan fod angen i chi roi enghreifftiau eich bod yn bodloni鈥檙 gofynion yma yn eich llythyr eglurhaol. Dylech hefyd ddangos eich brwdfrydedd dros y cyflogwr neu鈥檙 swydd yr ydych yn ymgeisio amdani 鈥� dywedwch wrthynt pam fod gennych ddiddordeb yn y r么l, neu beth sy鈥檔 eich denu i鈥檙 sefydliad.
P鈥檜n a ydych yn chwilio am waith rhan-amser lleol i gyd-fynd 芒鈥檆h astudiaethau, neu swydd yn ystod y gwyliau dros yr haf, mae gan ein Hwb Cyflogadwyedd ddigon o awgrymiadau i鈥檆h helpu i ddechrau arni 鈥� edrychwch ar ein taflen 鈥楢wgrymiadau ar gyfer dod o hyd i waith rhan-amser'. Rydym hefyd yn cynnal gweithdai rheolaidd ar sut i chwilio am swydd yn effeithiol, felly edrychwch ar ein hamserlen gweithdai hefyd.
Mae鈥檔 bwysig paratoi鈥檔 drylwyr ar gyfer pob rhan o鈥檙 broses ymgeisio, o anfon ffurflen gais neu CV i gyfweliadau neu ganolfannau asesu. Er bod llawer o fyfyrwyr yn poeni am sut i berfformio'n dda yn ystod cyfweliad, mae yna ychydig o gamau syml y gallwch eu dilyn a fydd yn rhoi'r hyder i chi lwyddo.
Oeddech chi'n gwybod, er enghraifft, y gallwch chi ragweld yn aml y math o gwestiynau y gallai cyflogwr eu gofyn i chi yn ystod eich cyfweliad? Maent yn aml yn seiliedig ar y gofynion hanfodol a dymunol a restrir yn yr hysbyseb wreiddiol.
Mae gan bob un o'n myfyrwyr a'n graddedigion fynediad i'n platfform unigryw Graduates First, lle gallwch chi ymarfer ystod eang o gwestiynau cyfweliad ac adolygu a derbyn adborth ar eich perfformiad. Mae'r ymarfer cyfweliad rhyngweithiol yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cyfweliadau wedi'u recordio ymlaen llaw ac ar-lein.
Mae鈥檙 Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd hefyd yn cynnig pecyn cymorth i fyfyrwyr sy'n wynebu rhwystrau i brofiad gwaith. Gall rhwystrau ddeillio o nifer o wahanol ffactorau megis: caledi ariannol, anabledd, gwahaniaeth dysgu, iechyd meddwl a dyletswyddau gofalu.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y cymorth rydyn ni鈥檔 ei gynnig ar gyfer profiad gwaith, llenwch y a byddwn ni鈥檔 cysylltu 芒 chi. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i'ch helpu i gael mynediad at gyfleoedd profiad gwaith, er enghraifft cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau hyfforddi neu gostau teithio, os nad ydynt yn gysylltiedig 芒 lleoliadau gorfodol neu broffesiynol.