Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o greu cerddoriaeth ym Mangor, dan arweiniad Joe Cooper. Mae Cerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol 精东传媒 yn rhan o Adran y Celfyddydau, sy'n rhan o鈥檙 Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau. Rydym yn croesawu鈥檔 gynnes aelodau newydd a rhai sy'n dychwelyd. Rhoddir manylion y ffioedd aelodaeth isod: gall myfyrwyr sy'n ymuno ag un o ddau ensemble y Brifysgol ymuno 芒'r llall am ffi aelodaeth is.
Fel arfer mae pedwar cyngerdd bob blwyddyn, dau gan y Gerddorfa a dau gan y C么r a'r Gerddorfa. Mae rhaglen 2025/26 fel a ganlyn:
- Dydd Llun, 24 Tachwedd 2025: Brahms, Symffoni rhif 1; Greig, cyfres Peer Gynt
- Dydd Sadwrn, 9 Rhagfyr 2025: Cyngerdd Nadolig
- Dydd Sadwrn, 7 Mawrth 2026: Cyngerdd Pen-blwydd Porthaethwy (gan gynnwys Symffoni rhif 1 Vaugh Williams)
- I'w gadarnhau (Ebrill) 2026: Noson yn y Sinema
Corws Symffoni'r Brifysgol
Mae canu mewn c么r yn fuddiol i chi ac yn eich ysgogi鈥檔 ddeallusol, ac mae ein hymarferion yn cynnig ffordd wych o wneud ffrindiau newydd. Mae croeso i fyfyrwyr,
aelodau staff a thrigolion lleol i ymuno, beth bynnag fo'u profiad corawl blaenorol. Nid oes clyweliadau.
Cynhelir ymarferion bob nos Fercher am 7.30pm yn Neuadd PJ.
Y ffi aelodaeth ar gyfer tymor 2025/26 yw 拢75 i aelodau nad ydynt yn fyfyrwyr a 拢15* i fyfyrwyr. Gallwch gofrestru YMA.
Sylwch fod angen i aelodau newydd a rhai sy'n dychwelyd gofrestru drwy'r ddolen hon.
* Gall myfyrwyr ymuno 芒 Cherddorfa Symffoni'r Brifysgol a'r Corws am ffi sefydlog o 拢15.
Cerddorfa Symffoni'r Brifysgol
Cerddorfa Symffoni Prifysgol 精东传媒 yw prif gerddorfa lawn gogledd-orllewin Cymru, a daw ei haelodau o blith myfyrwyr a staff y Brifysgol, ynghyd ag offerynwyr gorau鈥檙 ardal gyfagos. Mae'r Gerddorfa鈥檔 ymarfer bob nos Lun am 7.15 yn Neuadd PJ.
Rydym yn chwilio am chwaraewyr llinynnol sydd o leiaf safon gradd 6-8. Rydym yn chwilio am chwaraewyr chwythbrennau o safon gradd 8.
Fel arfer cynhelir clyweliadau ar gyfer desgiau blaen a chwaraewyr chwythbrennau yn ystod yr Wythnos Groeso.
Y ffi aelodaeth ar gyfer tymor 2025/26 yw 拢60 i aelodau nad ydynt yn fyfyrwyr a 拢15* i fyfyrwyr. Gallwch gofrestru YMA.
Sylwch fod angen i aelodau newydd a rhai sy'n dychwelyd gofrestru drwy'r ddolen hon.
* Gall myfyrwyr ymuno 芒 Cherddorfa Symffoni'r Brifysgol a'r Corws am ffi sefydlog o 拢15.
C么r Siambr y Brifysgol
Mae C么r Siambr Prifysgol 精东传媒 ar agor i fyfyrwyr a staff Prifysgol 精东传媒 ac yn ymarfer dan arweiniad Dr Guto Pryderi Puw ar nos Iau rhwng 7.25pm a 9.30pm yn Neuadd Powis, Prif Adeilad y Celfyddydau. Fel arfer cynhelir oddeutu tri chyngerdd y flwyddyn gan berfformio amrywiaeth eang o gerddoriaeth, o鈥檙 Dadeni hyd at y presennol. Ar gyfer eleni fe gynhelir cyngerdd o ddarnau Nadoligaidd ym mis Rhagfyr ac yn ystod yr ail Semester bydd y ffocws ar gerddoriaeth gorawl Karl Jenkins, ymysg eraill. Cadarnheir yr union ddyddiadau yn fuan.
Sut i ymuno gyda鈥檙 C么r Siambr?
Os y dymunwch ymuno gyda鈥檙 C么r Siambr yna llenwch y ffurflen ar lein isod. Rydych hefyd yn cael eich gwahodd i ymarfer corawl agored (a rennir gyda Chorws y Brifysgol a Ch么r y Gymdeithas Gerdd) ar nos Fercher 24 Medi am 7.30pm yn Neuadd Prichard-Jones, lle byddwn yn cael sesiwn flasu gydag ambell i ddarn. Does dim clyweliad ac mae croeso i gyn aelodau fynychu.
I cofrestru eich diddordeb cliciwch ar y linc isod:
Ensemblau arbenigol
Mae鈥檙 Adran Cerddoriaeth yn cynnal nifer o ensemblau arbenigol hefyd, gan gynnwys gr诺p opera, ensemble cerddoriaeth gynnar, ac Ensemble Cerddoriaeth Newydd 精东传媒. Os hoffech ddatgan diddordeb mewn cymryd rhan mewn unrhyw o鈥檙 ensemblau hyn, cysylltwch 芒 Bethan Brown.
Y Gymdeithas Gerddoriaeth
Sefydliad myfyrwyr yw鈥檙 Gymdeithas Gerddoriaeth (Musoc) y mae ei gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn yn cynnwys Cerddorfa (ymarferion bob nos Fawrth am 7.30 yn ystod y tymor), C么r (ymarferion bob nos Wener am 7.30 yn ystod y tymor), cyngherddau amser cinio a gyda'r nos, a llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol. Mae croeso i bawb ymaelodi heb gael clyweliad, ac fe'ch gwahoddir yn gynnes i ddod draw i'r ymarferion agored yn ystod yr Wythnos Groeso. Ceir rhagor o wybodaeth YMA.
Grwpiau perfformio eraill
Mae cymdeithasau eraill sy'n gysylltiedig ag Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys y Band Cyngerdd, y Band Pres, y Band Jazz, y Gerddorfa Linynnol, cymdeithas theatr gerdd (BMTS), c么r Cymraeg (Aelwyd JMJ), y Gymdeithas Acapella, y Gymdeithas Ffilm, y Gymdeithas Werin (Cadi Ha), cymdeithas drama a llenyddiaeth Gymraeg (Cymdeithas John Gwilym Jones), dwy gymdeithas ddrama Saesneg (BEDS a ROSTRA), y Gymdeithas Syrcas (Cirque du Soc), a Dawns Prifysgol 精东传媒 鈥� ynghyd 芒 llawer mwy! Ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr am ragor o wybodaeth, neu ewch i stondinau'r cymdeithasau yn Serendipedd ddydd Mercher yr Wythnos Groeso.
Mae Cerddorfa Gymunedol Prifysgol 精东传媒 yn cyfarfod wyth gwaith y flwyddyn am ddiwrnod llawn o chwarae cerddorfaol. Mae croeso i offerynwyr o bob safon ymuno. Ceir rhagor o wybodaeth yn siop ar-lein Prifysgol 精东传媒. Gallwch ymuno YMA.