Trefn Gwneud Cais am Lety
Mae鈥檔 bwysig darllen y print m芒n bob amser. Cewch wybod beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi, beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni yn ogystal 芒 chontractau, yswiriant a sut i dalu - mae ein tudalen gwybodaeth hanfodol yn cynnwys hyn i gyd a mwy.
Rydym yn deall bod hyn i gyd yn newydd i'r rhan fwyaf ohonoch, felly mae gennym hefyd dudalen cwestiynau cyffredin ddefnyddiol iawn.
Peidiwch 芒 gwneud y tro gydag unrhyw ystafell. Mae Prifysgol 精东传媒 yn cynnig amrywiaeth eang o ystafelloedd at ddant pob myfyriwr. Edrychwch trwy鈥檙 dewisiadau a dewch o hyd i'r lle perffaith i chi, p'un a ydych eisiau ystafell ymolchi en-suite i chi eich hun, eisiau rhannu ystafell ymolchi neu eisiau amgylchedd astudio tawel. Mae gennym rywbeth at ddant pawb.
Os oes gennych unrhyw anghenion llety cysylltiedig ag anabledd neu os oes angen addasiadau arnoch, cysylltwch 芒'r Gwasanaethau Anabledd. Mae'n well trafod eich anghenion cyn i chi wneud cais am ystafell mewn neuadd oherwydd gallai hyn effeithio ar y math o ystafell fydd ei hangen arnoch. Mae croeso i chi gysylltu 芒 ni gydag unrhyw gwestiynau cyffredinol.
A chofiwch, mae鈥檙 T卯m Gwasanaethau Anabledd yma i helpu ymgeiswyr anabl a myfyrwyr gyda phob agwedd ar fywyd myfyriwr, nid llety yn unig.
Unwaith y byddwch wedi darllen yr holl wybodaeth hanfodol ac wedi dewis y math o ystafell fyddai orau gennych, byddwch yn barod i wneud cais.
Ni fydd rhaid i chi dalu pan fyddwch yn archebu eich ystafell. Cofiwch wneud cais yn gynnar fel bod gennych well siawns o gael yr ystafell fyddai orau gennych.
Canllaw Gam Wrth Gam
*Os ydych yn byw yn y Neuaddau yn barod, fe gewch neidio i Rif 6.
- Mae ein ar agor.
- Byddwch angen eich Rhif Adnabod Prifysgol 精东传媒 sy鈥檔 dechrau gyda 500 a hefyd linc i 鈥楢rchebu eich ystafell鈥� lle byddwch yn cychwyn y broses trwy 鈥楪ofrestru eich Cyfrif鈥�.
- Ar yr ochr chwith, bydd gofyn i chi roi eich Enw Teulu - rhowch eich cyfenw yn unig yma, ddim eich enw llawn. Bydd gofyn i chi hefyd roi eich dyddiad geni, eich cyfeiriad e-bost a chreu cyfrinair.
- Unwaith byddwch wedi gwneud hyn, bydd e-bost gan y T卯m Neuaddau Preswyl yn cael ei anfon atoch i gadarnhau eich cyfeiriad e-bost. Cliciwch ar y linc yn yr e-bost i gadarnhau eich cyfeiriad e-bost.
- Byddwch wedyn yn mynd o鈥檙 e-bost i鈥檙 dudalen 鈥楳ewngofnodi鈥� lle bydd angen i chi fewngofnodi ar yr ochr dde gydag eich Rhif Adnabod 精东传媒 (y rhif sy鈥檔 dechrau gyda 500) a鈥檆h cyfrinair. Pwyswch 'Mewngofnodi'.
- Efallai byddwch yn dymuno cadw cofnod o fel byddwch yn gallu mynd yn 么l ati yn y dyfodol.
- Byddwch nawr ar y dudalen lle gallwch greu cais am le mewn Neuaddau.
- Cliciwch 鈥楥ais Newydd鈥� o dan y flwyddyn berthnasol.
- Cliciwch 鈥楥reu Cais鈥�.
- Byddwch yn mynd i dudalen arall gyda鈥檙 pennawd 鈥楪wybodaeth Amdanoch Chi鈥�
- Gwiriwch fod eich holl fanylion personol yn gywir.
- Dewiswch yr iaith a ffafrir gennych (Cymraeg neu Saesneg).
- Unwaith rydych yn hapus bod yr holl wybodaeth yn gywir, cliciwch i fynd ymlaen i鈥檙 dudalen nesaf.
- Byddwch nawr ar y dudalen 鈥楥yflyrau anabledd / iechyd parhaus - Addasiadau Rhesymol鈥�. Byddem yn gofyn i chi yma os oes gennych unrhyw ofynion yn ymwneud ag anabledd fydd yn effeithio ar y math o ystafell fydd ei angen arnoch.
- Os ydych yn ateb 鈥極es鈥� i鈥檙 cwestiynau ar y dudalen yma, ni fyddwch yn gallu parhau i wneud cais ar-lein a bydd aelod o鈥檙 T卯m Neuaddau Preswyl yn cysylltu 芒 chi i drafod eich gofynion.
- Os ydych yn ateb 鈥楴a鈥� i鈥檙 cwestiynau ar y dudalen yma, cliciwch Parhau i fynd ymlaen i鈥檙 dudalen nesaf i 鈥楧dewis eich Ystafell鈥�.
- Mae鈥檔 amser dewis eich ystafell. Ar yr ochr chwith, gallwch osod eich cyllideb wythnosol am lety ac ar yr ochr dde, gallwch ddewis i weld y mathau gwahanol o lety sydd ar gael. Daw rhestr o鈥檙 llety sy鈥檔 ffitio eich cyllideb wythnosol a鈥檆h dewisiadau i fyny ar y dudalen.
- Cliciwch ar y tab Lluniau i weld ym mhle mae鈥檙 neuaddau rydych wedi eu dewis wedi eu lleoli. Cliciwch y tab Cyfleusterau i weld pa gyfleusterau sydd ar gael yno.
- I archebu eich ystafell, cliciwch ar y tab Ystafelloedd a chewch weld cynllun llawr o鈥檙 Neuaddau rydych wedi ei ddewis. Ar y gwaelod, ar yr ochr dde, mae bocsys ticio ar gyfer pob ystafell ar y cynllun - byddwch yn gallu ticio鈥檙 bocs os bydd yr ystafell ar gael.
- Ar 么l i chi dicio鈥檙 bocs i ddewis eich ystafell a phan rydych yn sicr eich bod yn hapus gyda鈥檆h dewis, cliciwch Archebu Nawr sydd i鈥檙 dde o鈥檙 bocsys ticio.
- Bydd gofyn i chi wedyn gadarnhau eich dewis. Cliciwch i barhau os ydych yn hapus gyda鈥檆h dewis. Ni fydd modd mynd yn 么l i newid eich dewis ar 么l i chi gadarnhau.
- Byddwch wedyn yn mynd ymlaen i鈥檙 dudalen nesaf - 鈥楨ich Cynnig鈥�.
- Yma ceir manylion y telerau ac amodau sy鈥檔 gytundeb gyfreithiol-rwym.
- Darllenwch y telerau ac amodau yn ofalus ac os rydych yn cytuno, ticiwch y bocs 鈥楻wyf wedi darllen a deall y telerau鈥� a bydd angen rhoi eich rhif adnabod 精东传媒 (sy鈥檔 dechrau gyda 500) a chyfrinair yn y man priodol i barhau.
- Os rydych yn hapus, cliciwch i barhau. Bydd gennych 3 diwrnod i dderbyn y cynnig.
Gallwch fynd yn 么l i ar unrhyw adeg. Sylwch, ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gallu clicio ar y ddolen 'Eich Ystafell'. Dim ond pan fyddwch wedi symud i mewn y bydd y ddolen hon yn cael ei rhoi ar waith.
Yn y mis Awst cyn i chi symud i mewn i鈥檙 neuadd, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda gwybodaeth am sesiwn gynefino ar-lein y bydd rhaid i chi ei chwblhau cyn symud i mewn.
SGWRSIO GYDA NI
Mae ein Cynghorydd Neuaddau cyfeillgar yma i'ch helpu, fel y gallwch ddewis y math o ystafell sy'n berffaith i chi.