Steve Backshall i ymuno 芒'r t卯m dysgu ym Mhrifysgol 精东传媒
Y cyflwynydd teledu a'r fforiwr Steve Backshall.
Bydd y cyflwynydd teledu a'r fforiwr, Steve Backshall, yn traddodi cyfres o ddarlithoedd ym Mhrifysgol 精东传媒.
Mae Steve Backshall yn adnabyddus am raglenni fel Deadly 60, Expedition a Blue Planet Live, a bydd yn dysgu'r myfyrwyr am gadwraeth, s诺oleg a'r diwydiant ffilmio bywyd gwyllt.
O ran pam y dewisodd ddysgu ym Mhrifysgol 精东传媒, dywedodd Steve Backshall: 鈥淎r 么l bwrw golwg dros lawer o brifysgolion mi sylweddolais i, pe cawn i fy amser eto, y byddwn i wedi bod eisiau dod i Brifysgol 精东传媒.
鈥淢ae'r addysgu a'r cyrsiau y mae 精东传媒 yn eu cynnig heb eu hail - ac mae ei ffocws ar s诺oleg yr 'anifail cyfan' yn allweddol inni allu deall byd natur yn well."
鈥淢ae Gogledd Cymru hefyd yn un o fy hoff lefydd, ac rydw i鈥檔 ymweld 芒鈥檙 ardal yn rheolaidd, felly mae ymuno 芒 Phrifysgol 精东传媒 yn ddewis naturiol imi,鈥� ychwanegodd.
Bydd yr uwch ddarlithydd, Dr Christian Dunn, yn ymuno 芒 Steve yn ystod ei sesiynau ym Mhrifysgol 精东传媒.
鈥淣i allaf bwysleisio digon mewn gwirionedd pa mor wych fydd hi i鈥檔 myfyrwyr gael darlithoedd gan Steve Backshall,鈥� meddai Dr Dunn.
鈥淢ae ei wybodaeth a鈥檌 brofiad o s诺oleg a chadwraeth gyda'r gorau yn y byd ac rydym yn hynod falch o weithio gyda chyflwynydd mor frwd.
鈥淵r unig anhawster inni yw sicrhau bod yr amserlen yn addas ar gyfer gwaith ffilmio Steve oherwydd, fel y gallwch ddychmygu, mae galw mawr amdano!鈥� Ychwanegodd Dr Dunn.
Ar hyn o bryd mae Steve yn gweithio ar gyfres o raglenni dogfen cadwraethol am Siarcod gyda SKY TV, ac er ei fod yn brysur, mae cynlluniau ar waith nawr i Steve roi cyfres o ddarlithoedd i fyfyrwyr o'r Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg (CoESE).
Dywedodd rheolwr marchnata'r Coleg hwnnw, Stevie Scanlan: 鈥淩ydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd i roi'r profiad dysgu gorau posib i'n myfyrwyr, ac mae cael Steve Backshall i gymryd rhan yn y t卯m addysgu yn sicr yn gwneud hynny.
鈥淢ae pawb yn edrych ymlaen at weithio鈥檔 agos gyda Steve - ac yn llawn cyffro am y dyfodol!鈥�
Dywedodd Deon y Coleg, yr Athro Morag McDonald: 鈥淵n sicr bydd darlithoedd Steve ymhlith y mwyaf poblogaidd eleni - ac rydyn ni eisoes yn trafod sut i adeiladu ar hynny; gyda chysylltiadau byw 芒 Steve o leoliadau ffilmio a theithiau maes Steve dros y blynyddoedd!"