Mae Gareth Jones, a anwyd yn Llanelwy, ac sy'n cael ei adnabod gan wylwyr teledu fel Gaz Top, yn fwyaf adnabyddus am ei waith fel cyflwynydd rhaglenni teledu a rhaglenni gwyddoniaeth i blant megis How 2 a Get Fresh.
Gwthiodd Gareth ei hun i'r eithaf gan nofio mewn llynnoedd a chronfeydd d诺r o'r de i鈥檙 gogledd mewn tair wythnos. Cafodd yr her ei gwneud yn gyfres deledu mewn tair rhan gan y cwmni teledu o Gaernarfon, Cwmni Da. Fel rhan o鈥檙 project hwn, cafodd tri ymchwilydd o'r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol gyfle i roi cyngor gwyddonol ffisiolegol a seicolegol iddo am nofio mewn d诺r oer.
Mae Alex Friend yn ymchwilydd PhD ar ei flwyddyn olaf yn astudio Ffisioleg Cerebrofasgiwlar ac Amgylcheddol. Mae Alex yn ymchwilio i sut mae'r corff yn ymateb i amgylcheddau eithafol gyda ffocws penodol ar lif y gwaed i'r ymennydd.
Eglurodd Alex: 鈥淩oedd fy ngwaith ar y project yn cynnwys cynnal arbrawf gwyddonol bach i amlygiad d诺r oer wrth fesur tymheredd craidd y corff a thymheredd croen Gareth. Roedd hyn yn rhoi cyfle iddo brofi'r symptomau a fyddai'n datblygu wrth i'w gorff oeri mewn d诺r oer.
鈥淔e wnaethon ni fesur tymereddau ei gorff a鈥檌 groen yn Llyn Padarn ar ddiwrnod cynnes iawn pan oedd tymheredd y d诺r oddeutu 22C. Yna fe wnaethon ni lenwi pwll padlo bychan gyda d诺r llyn oer a gostwng y tymheredd i tua 15C fel y gallai Gareth brofi鈥檙 symptomau y deuir ar eu traws mewn tymereddau oerach, megis y rhai y byddai'n dod ar eu traws yn ystod yr her.
鈥淔e wnaethon ni hefyd fesur nerth gwasgu ei ddwylo yn y ddau senario i ddangos sut mae oerfel yn effeithio ar allu ei gyhyrau. Rhoddodd yr arbrofion gyfle hefyd i Gareth ofyn cwestiynau am nofio mewn d诺r oer yn ddiogel.鈥�
Mae Seren Evans, sydd hefyd yn ymchwilydd PhD ar ei blwyddyn olaf, yn astudio effaith risg anafiadau yn Rygbi'r Undeb. Mae Seren yn therapydd tylino chwaraeon cymwysedig, a bu鈥檔 rhoi cyngor i Gareth ar strategaethau adferiad gan gynnwys ymarferion ymestyn, buddion tylino a maeth.
Swyddog Datblygu Ymchwil ac Arloesi yw Dr Sophie Harrison sy鈥檔 gweithio ym maes gweithgarwch corfforol a pherfformiad fel rhan o broject y Rhwydwaith Geltaidd Arloesi Gwyddorau Bywyd Uwch. Rhoddodd Sophie gyngor i Gareth yngl欧n 芒 chadw鈥檔 holliach yn ystod ei her ynghyd 芒 rhoi cyngor am faeth iddo.
Bydd y gyfres, o鈥檙 enw yn cael ei darlledu ar S4C y mis yma, a bydd modd gweld y rhaglen gyntaf am 9pm ar 29 Hydref. Bydd Alex a Seren i鈥檞 gweld yn yr ail bennod, sy鈥檔 cael ei darlledu am 9pm ar 5 Tachwedd.
Dysgwch fwy am anturiaethau Gareth yn www.garethjones.tv/nofioadre.html