Daeth mwy na 1200 o bobl yno o bob rhan o ogledd Cymru, gan gynnwys dros 200 o blant. Yr ŵyl eleni oedd y fwyaf i’w chynnal ers sefydlu’r digwyddiad yn 2018, a llwyddodd i godi dros £5,000 i Ymddiriedolaeth Sophie Williams, gan ddangos cydweithio cymunedol ar ei orau.
Dechreuodd yr ŵyl trwy roi sylw i lesiant gyda dosbarth chi gong a dosbarth ioga, wedi eu dilyn gan weithgareddau amrywiol gan gynnwys gwaith somatig gyda Lawrence Toye, sesiwn stori a chân famol gan y ddŵla Laura o Birthing Mamams, technegau hunan-dylino yng nghwmni Kyezha y Mentor Symud, tai chi gyda Lydia, cylch merched, kirtan, baddonau sain a gofod tylino pen Indiaidd gyda Cheymoon O'Reilly. Cynhaliwyd y profiadau hyn yn y dolydd llesiant sy’n swatio hyd ymylon y coetir.
Ar y diwrnod roedd yno amrywiaeth o stondinau o’r gymuned leol ac yn eu plith Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Tyddyn Teg, Ffabrig Cwyr Gwenyn Croeso Menai ac Ynys Twca, Gardd Goedwigol ¾«¶«´«Ã½, Gweithredu dros yr Hinsawdd Gogledd Cymru, Spirit of the Hedgrider, Menter Pandy. Gyda phwyslais cryf ar deuluoedd, cefnogwyd Draig Beats gan Ysgol y Goedwig Elfennau Gwyllt, perfformiadau Syrcas gan Syrcas Chimera CBC, Paula Pretzel a Freya Beath.
Roedd cerddoriaeth yn plethu’r digwyddiad ynghyd, gyda dau lwyfan yn dathlu’r talentau lleol gorau gan gynnwys Sue Denim, Jodie Melodie, Triawd Jochen Eisentraut a Martin Daws. Roedd y Babell Fawr Biws yn llwyfan i Y Band, Band Ceilidh Braichmelyn a dawnswyr bol, ac uchafbwynt y diwrnod oedd perfformiadau cyfareddol Drymbago a Banda Bacana.
Gan barhau â’i ymrwymiad i gynwysoldeb, bu Draig Beats yn gweithio mewn partneriaeth unwaith eto â Chroeso Menai i ddarparu mynediad am ddim i ffoaduriaid, gan eu galluogi i wneud cysylltiadau a dathlu eu treftadaeth trwy gelf, bwyd, dawns a cherddoriaeth.
Cynhelir yr ŵyl yn gyfan gwbl trwy waith gwirfoddolwyr – grŵp craidd o drefnwyr ymroddedig, ac yna galwad i’r gymuned a ymatebodd gydag ymroddiad mawr i’r paratoadau, ar ddiwrnod yr ŵyl ei hun ac yn dilyn hynny. Fel erioed, cawsom ein cefnogi gan grŵp o griw gwych o fyfyrwyr o bob Coleg a roddodd eu hamser o’u gwirfodd ar ôl y cyfnod arholiadau i helpu yn yr ŵyl: yn addurno’r safle, yn codi strwythurau ac yn stiwardio a chadw trefn ar y traffig ar y diwrnod. Mae hwn yn brofiad gwaith amhrisiadwy, ac yn gyfle gwych i rwydweithio a chreu cysylltiadau parhaol.
Mae’r ŵyl hefyd yn ddathliad o haelioni ac arbenigedd Prifysgol ¾«¶«´«Ã½. Fe wnaeth y tîm Rheoli Ystadau a’r tîm Gwasanaethau Campws ein cefnogi gyda diogelwch, trydan a rheoli gwastraff a daeth ein cydweithwyr academaidd a ffrindiau Sophie at ei gilydd i ffurfio tîm bws mini gwych i gludo pawb yn ddiogel i’r digwyddiad ac oddi yno.
Dywedodd Iwan Williams, Uwch Swyddog Cenhadaeth Ddinesig, “Roedd yn ŵyl wych gyda rhywbeth at ddant pawb. Roedd digonedd o weithgareddau, gweithdai, stondinau, adloniant a lluniaeth ar gael, ac awyrgylch gwych, hamddenol ar ddiwrnod perffaith o haf. Mae Draig Beats yn gyfraniad arwyddocaol a phwysig i Genhadaeth Ddinesig y Brifysgol.�
Dywedodd Sarah Edgar, Aelod o Ymddiriedolaeth Sophie Williams a Chadeirydd Cyfeillion Treborth, “Mae Ymddiriedolaeth Sophie Williams yn hynod ddiolchgar am yr arian a godwyd gan wyliau Draig Beats dros y blynyddoedd. Rydym wedi gallu prynu offer i Sophie i helpu gyda rhai o’r anghenion gofal a hygyrchedd sy’n deillio o’i hanableddau cymhleth ac rydym hefyd wedi talu am waith paratoi i alluogi Sophie i ddychwelyd adref i’w chymuned yn y dyfodol. Bydd llwyddiant Draig Beats eleni yn helpu'r amcanion hyn ymhellach.
“Un o amcanion Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth yw cysylltu’r Ardd â’r gymuned leol, dangos harddwch yr Ardd i bobl a’u gwahodd i fwynhau a dysgu am yr amgylchedd naturiol. Dyma i raddau helaeth ethos Draig Beats hefyd, ac roeddem yn falch iawn o weld cymaint o bobl hapus yn mwynhau awyrgylch hyfryd yr Ardd.�
Sefydlwyd yr ŵyl hon yn wreiddiol i gefnogi Dr Sophie Williams, Darlithydd er Anrhydedd mewn Cadwraeth Planhigion yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, ac mae’r ŵyl wedi blodeuo a datblygu i fod yn ddigwyddiad o bwys ar galendr cymunedol Gogledd Cymru. Mae gan ŵyl Draig Beats y gallu i ddatblygu’n sefydliad nid-er-elw gyda nifer o ganghennau llai ar ffurf digwyddiadau, gweithdai a grwpiau ffocws. Mae'n gyfuniad unigryw o natur, celf a gwyddoniaeth ac iddi botensial mawr.
Mae Draig Beats yn bump oed y flwyddyn nesaf felly cadwch lygad am newyddion ynglŷn â’n dathliadau hanner degawd!