Gweinidog yn ymweld 芒'r Prince Madog wrth i鈥檙 llong gael ei h么l-osod 芒 system werdd 鈥�
Mae gwaith gwerth 拢5.5 miliwn i 么l-osod system werdd gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar long ymchwil Prifysgol 精东传媒 ar y gweill.
Mae鈥檙 llong Prince Madog yn llwyfan ymchwil amlbwrpas ar gyfer cynnal ymchwil i wyddoniaeth y moroedd ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys M么r Iwerddon a'r M么r Celtaidd, ac mae wedi bod yn gweithredu ers dros ddau ddegawd.
Yr wythnos hon (dydd Iau 2 Tachwedd) ymwelodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Dr James Davies, 芒'r llong a ddefnyddir i ymchwilio i fioleg, cemeg, daeareg a ffiseg ein moroedd. Defnyddir y llong hefyd i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 精东传媒.
Ar hyn o bryd mae gwaith 么l-osod, a fydd yn para dwy flynedd, yn cael ei wneud i鈥檙 llong i osod system gyriant hydrogen ynddi i weithio ochr yn ochr 芒鈥檙 brif injan disel gan alluogi gweithrediad heb unrhyw allyriadau wrth forio鈥檔 araf neu yn ystod siwrneiau byrion. Mewn gweithrediad arferol, bydd yn lleihau allyriadau hyd at 60%.
Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy鈥檔 ariannu鈥檙 gwaith 么l-osod gyda鈥檙 Adran Drafnidiaeth yn darparu 拢5.5 miliwr o鈥檙 gronfa Technolegau Morwrol Gl芒n ac Arloesol gwerth 拢60 miliwn.
Yn y dyfodol, mae gweithredwyr y Prince Madog yn rhagweld y bydd y llong yn cael ei hydrogen o鈥檙 Ganolfan Hydrogen y mae bwriad ei sefydlu yng Nghaergybi gyda chefnogaeth 拢4.8m o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Dros y ddau ddegawd diwethaf mae data a gasglwyd gan y Prince Madog wedi cyfrannu at ganfyddiadau gwyddonol pwysig, gan gynnwys:
- Diogelu pysgodfeydd cynaliadwy drwy asesu effaith treillio ar wely'r m么r.
- Datgelu hinsawdd moroedd arfordirol yn y gorffennol.
- Lleoli ac adnabod llongddrylliadau.
- Rhagweld tywydd a hinsawdd drwy ddatblygu technegau a mesuriadau newydd a ddefnyddir bellach yn fyd-eang.
- Cefnogi'r diwydiant ynni adnewyddadwy morol drwy asesu safleoedd posibl ar gyfer datblygu a chynnal asesiadau o welyau ac ecosystemau'r m么r.
- Datblygu technegau newydd i fesur cynnwrf cefnforol a'r effaith ar gymysgu dyfroedd gwahanol yn y cefnfor.
- Asesu effaith yr amgylchedd ffisegol ar egni fforio adar m么r a goblygiadau hynny ar lwyddiant bridio 鈥�
Meddai Dr James Davies, "Roedd yn hynod ddiddorol dysgu am y Prince Madog yn ogystal 芒 chwrdd 芒 rhai o staff ymchwil Prifysgol 精东传媒 a chlywed mwy am y gwaith maen nhw'n ei wneud.
"Mae'r llong wedi bod yn arf hanfodol mewn astudiaethau di-ri dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae wedi helpu Prifysgol 精东传媒 i ddod yn gyrchfan flaenllaw yn y byd ar gyfer astudio ac ymchwilio i'r amgylchedd morol. 鈥�
"Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn lleihau ein h么l troed carbon ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ariannu'r gwaith sy'n angenrheidiol i baratoi鈥檙 llong wych hon ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil, "Mae'r Prince Madog wedi bod yn gaffaeliad i Gymru, y Deyrnas Unedig, ac yn rhyngwladol ym maes addysg ac ymchwil.
"Mae effaith yr ymchwil a wnaed gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion dros y degawdau鈥檔 rhyfeddol. Mae wedi newid gwyddoniaeth mewn nifer o feysydd, wedi ail-ysgrifennu鈥檙 gwerslyfrau ac wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi datblygiad cynaliadwy parhaus yr amgylchedd morol. "Rydym yn edrych ymlaen at flynyddoedd lawer eto o ymchwil arloesol ac effaith o ddec y Prince Madog."