精东传媒

Fy ngwlad:
Red colour block

Urddo Cymrydorion er Anrhydedd am gyfraniad oes at addysg cyfrwng Cymraeg

Bydd yr Athro Delyth Prys, Wyn Thomas, a Linda Wyn yn cael eu hurddo yn Gymrodyr er Anrhydedd y Coleg am eu cyfraniad oes tuag at addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg.

鈥淢ae鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi gweddnewid addysg cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Rwy鈥檔 falch ofnadwy o fod wedi medru cyfrannu at y datblygiadau hyn drwy helpu i ddarparu termau Cymraeg safonol ar lefel uwch. Pob dymuniad i鈥檙 Coleg wrth barhau i arloesi yn y maes.鈥�
Hefyd ar y noson, bydd Wyn Thomas, brodor o Aberystwyth, yn cael ei dderbyn fel Cymrawd er Anrhydedd am ei gyfraniad allweddol ym Mhrifysgol 精东传媒 yn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Cerddoriaeth, a hefyd yn cefnogi datblygiadau mewn meysydd eraill yn ystod ei gyfnod fel Dirprwy Is-ganghellor y Brifysgol.

Meddai Wyn, oedd hefyd yn un o aelodau cyntaf Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg a gyfrannodd yn fawr at sefydlu鈥檙 Coleg yn y dyddiau cynnar:

鈥淏u'n fraint arbennig i gyd-weithio gyda staff ac aelodau Bwrdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mae'n galondid mawr gweld 么l eu dylanwad ar brifysgolion a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Deued y dydd pan fydd plant a phobl ifanc yn ein hysgolion yn mynnu addysg cyfrwng Cymraeg ehangach fyth, ac yn sylweddoli eu cyfrifoldeb i weithio yma yng Nghymru er budd y byd a'r bywyd Cymreig. Hyfrydwch yw cael uniaethu gydag amcanion y Coleg gan ddiolch iddynt am fod mor hael ac ystyriol.鈥�

Linda Wyn, o Landybie, Sir Gaerfyrddin, sy鈥檔 gyn-bennaeth ar Goleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai o fewn Gr诺p Llandrillo Menai bydd y trydydd person i dderbyn cymrodoriaeth ar y noson. Fel aelod o Fwrdd ac Is-gadeirydd y Coleg am sawl blwyddyn, roedd ei chyfraniad i鈥檙 Coleg wedi braenaru鈥檙 tir ar gyfer ymestyn ei gyfrifoldebau i feysydd addysg bellach a phrentisiaethau. Meddai Linda:

鈥淧leser o鈥檙 mwyaf yw cael fy nerbyn yn Gymrawd er Anrhydedd o鈥檙 Coleg. Yn ystod fy nghyfnod fel aelod o鈥檙 Bwrdd ac fel Is-gadeirydd y Coleg, cefais y fraint o fod yn rhan o ddatblygiad cynnar y Coleg a thystio i frwdfrydedd ac ymroddiad y staff a鈥檙 aelodau.  Yn ddiamau, mae鈥檙 hyn a gyflawnwyd gan y Coleg ers y dyddiau cynnar hynny yn wirioneddol ryfeddol a braf iawn yw gweld bod y cynnydd ardderchog a wnaed i gynyddu addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch yn awr yn cael ei ymledu i addysg bellach a dysgu yn y gweithle.鈥�

Fel rhan o鈥檙 noson, bydd cyfle hefyd i  gyflwyno tystysgrifau i fyfyrwyr PhD am gyflawni doethuriaeth o dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn eu plith mae Dr Seren Evans, sydd wedi cyflawni doethuriaeth mewn Gwyddorau Chwaraeon ym Mhrifysgol 精东传媒 ac wedi gwneud gwaith ymchwil ar 鈥楢gwedd aml-ffactor tuag at anafiadau o fewn rygbi鈥檙 Undeb鈥�.

 Meddai Seren, sydd yn wreiddiol o鈥檙 Bala,

鈥淒wi wedi bod 芒 diddordeb mawr mewn rygbi, a 鈥榯rwsio鈥� pobl erioed. Fues i鈥檔 chwarae rygbi am gyfnod, er roedd yn rhaid i mi roi鈥檙 gorau iddi oherwydd roeddwn yn cael fy anafu yn amlach na pheidio! Fe wnes i fwynhau ymchwilio i鈥檙 pwnc pwysig yma a darganfod pethau newydd. Llwyddais i ddarganfod mai un o鈥檙 elfennau oedd yn gallu arwain at anafiadau digyswllt mewn chwaraewyr oedd cyfergyd (concussion) yn y gorffennol, felly mae angen adfer chwaraewyr yn well ar 么l cael anaf i鈥檙 pen. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at barhau鈥檙 ymchwil ac i鈥檞 rhoi ar waith fel Ffisiotherapydd Chwaraeon.鈥�

Fel rhan o鈥檙 noson bydd y Coleg hefyd yn talu teyrnged arbennig i鈥檙 diweddar Dr Ll欧r Roberts, un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf y Coleg a fu farw yn sydyn llynedd yn 45 mlwydd oed. Bydd cyfle i glywed mwy am fwrsariaeth newydd er cof amdano i gefnogi myfyrwyr Cymraeg, a gellir darllen ymhellach ar wefan y Coleg.

Wrth edrych ymlaen at Gynulliad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, meddai Cadeirydd y Coleg, Dr Aled Eirug:

鈥淢ae鈥檙 tri Chymrawd er Anrhydedd wedi cyfrannu鈥檔 eithriadol at addysg uwch ol-orfodol cyfrwng Cymraeg ac wedi braenari'r ffordd ar gyfer y genhedlaeth nesa o fyfyrwyr PhD fydd yn derbyn ei tystysgrifau. Edrychwn ymlaen at ddathlu eu llwyddiannau ac am y cyfle i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith, a鈥檜 hymroddiad i鈥檙 Coleg dros y blynyddoedd.鈥�

Ychwanegodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

鈥淟longyfarchiadau i bawb fydd yn cael eu hanrhydeddu yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg ym Mangor eleni. Edrychwn ymlaen at ddathlu llwyddiannau a chyfraniad unigolion arbennig at addysg uwch ac addysg bellach cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Ond hefyd byddwn yn cymryd y cyfle i dalu teyrnged ac i gofio am gyfaill a chydweithiwr annwyl iawn, y diweddar Dr Ll欧r Roberts, a wnaeth gyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng y Gymraeg a chreu argraff fawr ar ei fyfyrwyr ac aelodau o deulu鈥檙 Coleg.鈥�

Dyma鈥檙 rhestr lawn o fyfyrwyr PhD fydd yn derbyn eu tystysgrifau eleni am gyflawni doethuriaeth o dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

  • Dr Seren Evans, Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol 精东传媒
  • Dr Ianto Gruffudd, Cymraeg, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Cennydd Jones, Amaethyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth
  • Dr Lucy Hale Evans, Gwyddorau Amgylcheddol, Prifysgol 精东传媒
  • Dr Claire Griffith-Mcgeever, Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol 精东传媒
  • Dr Marc Williams, Seicoleg, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Sioned Llywelyn, Daearyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth
  • Dr Gruffydd Lloyd Jones, Gwyddorau Amgylcheddol, Prifysgol Aberystwyth