Mae myfyrwyr Troseddeg, swyddogion heddlu dan hyfforddiant ac unigolion sy’n gweithio yn y gwasanaethau cymdeithasol yn cael cipolwg gwerthfawr ar natur lechwraidd ‘rheolaeth drwy orfodaeth’ (coercive control) mewn sesiwn hyfforddi ymdrochol sy’n defnyddio clustffonau rhith-realiti ym Mhrifysgol ¾«¶«´«Ã½.
Yn ystod y sesiwn, rhoddir cyfranogwyr yn uniongyrchol yn esgidiau dioddefwyr rheolaeth orfodol. Trwy wisgo clustffonau VR, maent yn mynd i mewn i nifer o senarios sy’n dangos arwyddion mwy cynnil o reolaeth orfodol, ond yn bwysicach fyth, maen nhw’n teimlo sut brofiad yw sefyllfaoedd lle mae ymddygiad o ‘lovebombing’ ‘gaslighting’ a ‘stonewalling’ yn rhan o fywyd bob dydd. Mae myfyrwyr yn ymweld â realiti VR dros dro lle mae’r cyflawnwyr yn rheoli cyllid, ffonau symudol a meddyginiaethau , gan reoli beth mae eu dioddefwyr yn ei wisgo a phwy maen nhw'n ei weld neu beth maen nhw'n ei wneud o ddydd i ddydd. Mae'r holl fyfyrwyr yn cael eu sgrinio'n drylwyr cyn y profiad i wneud yn siŵr eu bod wedi'u paratoi'n gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer yr hyn y byddant yn ei brofi.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cofnodwyd 43,774 o droseddau rheolaeth orfodol gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr (ac eithrio Dyfnaint a Chernyw) yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023. Mae hyn o'i gymharu â 41,039 yn y flwyddyn flaenorol, er y gellir priodoli peth o’r cynnydd mewn troseddau rheolaeth orfodol dros y blynyddoedd diwethaf i welliannau a wnaed gan yr heddlu o ran adnabod digwyddiadau o reolaeth orfodol a defnyddio'r gyfraith newydd yn unol â hynny.
Dywedodd Dr Tim Holmes, arweinydd pwnc Troseddeg a Phlismona ym Mhrifysgol ¾«¶«´«Ã½,
“Rydym yn falch o fod yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr troseddeg brofi’r math newydd hwn o hyfforddiant ac rydym yn ei integreiddio i’n rhaglenni gradd plismona ar gyfer cwnstabliaid heddlu newydd sy’n ymuno â Heddlu Gogledd Cymru ar gais gan arweinydd trais yn erbyn menywod a phlant Heddlu Gogledd Cymru.�
“Mae’n dangos ein hymrwymiad i ymateb i’r angen i wella ymwybyddiaeth swyddogion heddlu newydd o reolaeth drwy orfodaeth, a sut y gall gyflwyno ei hun mewn gwahanol ffyrdd. Mae hyn yn rhywbeth y mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus i ddatblygu rhagor o ymwybyddiaeth ohono, a thrwy’r radd mae gennym gyfle i gyrraedd llawer o swyddogion heddlu newydd yn ogystal â myfyrwyr troseddeg a’r sector gwasanaethau cymdeithasol ehangach gyda’r hyfforddiant yma.�
Cael yr effaith fwyaf
Dywedodd Jude Traharne, Rheolwr Gyfarwyddwr Mother Mountain Productions, sy’n hwyluso’r sesiynau hyfforddi fel sefydliad budd cymunedol sydd â’r nod o roi llais i bobl agored i niwed,
“Mae’n gyffrous iawn bod yma gyda Phrifysgol ¾«¶«´«Ã½ a Heddlu Gogledd Cymru i ddarparu’r hyfforddiant hwn - sy’n cyrraedd unigolion ar ddechrau eu gyrfa pan maent dal i hyfforddi a phan allwn gael yr effaith fwyaf.
“Nid PowerPoint a chyflwyniadau bob amser yw’r ffyrdd mwyaf ysbrydoledig o hyfforddi, yn enwedig mewn pwnc sydd mor sensitif ac emosiynol â hwn. Ein ‘USP’ mewn gwirionedd yw ceisio rhoi un unigolyn yn esgidiau'r llall, yn yr achos hwn cam-drin domestig a rheolaeth orfodol o fewn hynny. Rydym yn gweithio gydag asiantaethau a dioddefwyr-goroeswyr i sicrhau ein bod yn dweud eu stori yn y ffordd fwyaf dilys bosibl, ac i leisio eu barn, er yn ddienw. Yna byddwn yn ffilmio'r senarios hyn gyda chamera 360-gradd sy'n rhoi fideo rhith-realiti i ni ac yn defnyddio hwnnw i drochi'r unigolion yn yr hyfforddiant. Drwy’r adborth a data a gasglwn, rydym yn gwybod ei fod yn cael effaith gwirioneddol o ran newid ymddygiad ac mae’r math hwn o hyfforddiant yn aros gyda’r unigolion sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant ac yn llywio’r ffordd y maent yn trin dioddefwyr trais domestig a’r cwestiynau y maent yn eu gofyn wrth symud ymlaen.�
Trosedd real iawn y mae angen inni ei deall a cheisio ei hatal bob dydd
Ychwanegodd Claire McGrady, Arolygydd yn Heddlu Gogledd Cymru ac arweinydd trais yn erbyn menywod a merched,
“Yr hyn sy’n gyffrous iawn am yr hyfforddiant rhith-realiti yma, sydd yn cael ei wneud am y tro cyntaf yng Ngogledd Cymru, yw ei fod yn caniatáu i’n swyddogion dan hyfforddiant ddysgu mwy am ymddygiad rheoli gorfodol a’u bod yn mynd â hwnnw’n ôl i’r gweithle ac yn ei ddefnyddio pan fyddant yn wynebu achosion tebyg. Mae’r ystadegau ar gyfer y math hwn o gam-drin emosiynol yng Nghymru a Lloegr yn y degau o filoedd, felly mae hon yn drosedd real iawn y mae angen inni ei deall a cheisio ei hatal bob dydd. Mae’r hyfforddiant yma’n gyfraniad mawr tuag at hynny.�
Ffordd hynod ddiddorol o ddysgu
Wrth adlewyrchu ar yr hyfforddiant, dywedodd Jasmine, myfyriwr Troseddeg ym Mhrifysgol ¾«¶«´«Ã½, “Rwy’n meddwl ei fod o’n ffordd hynod ddiddorol o ddysgu. Mae'n ddifyr gweld y modiwlau wedi'u rhannu yn y sefyllfaoedd VR hefyd. O'i weld o fewn sefyllfa VR, rydych chi'n cael mwy o brofiad uniongyrchol. Mae’n ffordd wych o ddysgu.â€�