Mae staff o adran Almaeneg Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau ym Mhrifysgol 精东传媒 wedi ysgogi project i gyfieithu ac addasu 鈥�Metamorphosis鈥� gan Franz Kafka yn fersiwn 鈥榟awdd i鈥檞 ddarllen鈥� i ddysgwyr y Gymraeg.
Dywedodd Dr. Sarah Pogoda, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Almaeneg,
鈥淢ae 鈥�Metamorphosis鈥� Kafka yn cael ei astudio鈥檔 aml mewn modiwlau ar gyfer dysgwyr Almaeneg, ac yn llyfr craidd yn y rhan fwyaf o ysgolion Almaeneg. Er bod y gwaith yn cael ei ystyried yn anghonfensiynol (mae鈥檙 prif gymeriad yn deffro i ddarganfod ei fod yn bryf ofnadwy!) mae鈥檔 ddarn byr gyda llawer o eirfa a phatrymau berfau sy鈥檔 cael eu hailadrodd, yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr iaith. Roedd fy nghydweithiwr, tiwtor Almaeneg Lana Feldmann (bellach ym Mhrifysgol Bryste) a minnau newydd ddechrau dysgu Cymraeg yma gyda rhaglen Hyfforddiant Iaith Gymraeg y Brifysgol ac yn meddwl gallai 鈥楳etamorphosis鈥� hefyd gael ei droi鈥檔 adnodd handi ar gyfer dysgu Cymraeg.鈥�
Ychwanegodd Lana Feldmann,
鈥淕weithiodd Sarah a minnau鈥檔 agos gyda Huw Jones, y cyfieithydd, fel rhan o d卯m y project. Wnaethon ni hefyd rhoi tipyn o feddwl ar sut orau i gynllunio鈥檙 tudalennau i helpu鈥檙 dysgwr iaith. Mae gan dudalennau ochor chwith esboniadau geirfa a gramadeg i helpu arwain y dysgwr trwy bob paragraff yn y prif destun gyferbyn. Mae鈥檔 ddefnyddiol iawn gan nad yw鈥檔 torri ar rediad y darllen.鈥�
Wedi鈥檌 gyhoeddi yn 2020, mae 鈥楳etamorffosis鈥� wedi gwerthu tua 500 o gop茂au ac wedi cael ei ddefnyddio gan y tiwtor Cymraeg Jenny Pye o Ganolfan Bedwyr y Brifysgol, fel rhan o鈥檌 sesiynau ar gyfer dysgwyr lefel canolradd ac uwch.
Dywedodd Jenny,
鈥淢ae 鈥楳etamorffosis鈥� yn stori ryfeddol ac mae wedi bod yn wych ei darllen gyda鈥檙 dysgwyr. Mae cynnwys patrymau iaith a geirfa ar dudalennau鈥檙 ochr chwith yn ddefnyddiol iawn ac yn help mawr i ddilyn y stori. Mae cwestiynau ar gael ar bob pennod, sydd yn rhoi鈥檙 cyfle i鈥檙 dysgwyr drafod y stori ar lafar yn y sesiynau wedyn.鈥�
Mae cyfieithu gwaith Kafka hefyd yn gyfraniad gwerthfawr i鈥檙 amrywiaeth o lyfrau sydd ar gael yn Gymraeg. Cyfieithwyd gweithiau adnabyddus o lenyddiaeth y byd i鈥檙 Gymraeg yn y gorffennol, ond prin a welwyd yn ystod yn y degawdau diwethaf.
100 mlynedd ar 么l marwolaeth Franz Kafka mae ei ddylanwad yn cael ei hystyried a鈥檌 dadansoddi ar draws y byd academaidd a llenyddol. Mae Nathan Abrams, Athro Astudiaethau Ffilm, wedi cyfrannu yn ddiweddar at 鈥楰afka 100鈥� ar wefan The Conversation - .