Adroddiad yn dangos cyfleoedd wrth gyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru
Heddiw mae Prifysgol ¾«¶«´«Ã½ wedi cyhoeddi adroddiad ar effaith ardoll ymwelwyr o amgylch y byd, ar yr un diwrnod, ddydd Llun, 25 Tachwedd 2024, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil i’r Senedd er mwyn rhoi pwerau i Awdurdodau Lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr.
Mae’r adroddiad, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn dadansoddi ardoll ymwelwyr mewn saith cyrchfan rhyngwladol. Mae’n nodi argymhellion clir ar sut y dylai Awdurdodau Lleol weithredu’r dreth newydd yma yng Nghymru. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar sut y dylid talu’r refeniw o’r dreth, a sut y dylid gwerthuso effaith y gwariant hwnnw.
“Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi Cymru, ond ar hyn o bryd mae cyflogau isel a swyddi tymhorol yn gyffredin, ac nid yw wastad yn dod â manteision mawr i gymunedauâ€� medd Dr Rhys ap Gwilym, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Busnes ¾«¶«´«Ã½. Cynhaliodd Rhys yr ymchwil gyda'i gydweithiwr Dr Linda Osti, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Twristiaeth, Prifysgol ¾«¶«´«Ã½.
“Mae gan yr Ardoll Ymwelwyr y potensial i drawsnewid y sector yng Nghymru, cyn belled â bod cynghorau yn dilyn yr arfer gorau rhyngwladol yr ydym wedi’i gyflwyno yn yr adroddiad hwn,� meddai Rhys.
Tynnodd Dr Linda Osti sylw at Sefydliadau Rheoli Cyrchfan (DMOs) yn Ne Tyrol, yr Eidal, a sefydlwyd i hwyluso eu treth dwristiaeth. “Mae DMOs ar lefel leol yn defnyddio refeniw ardoll er budd y sector twristiaeth ac er lles cymunedau lleol. Rydym wedi gweld enghreifftiau o’r cronfeydd hynny sy’n cefnogi tai fforddiadwy, trafnidiaeth gyhoeddus, a hyd yn oed noddi gorsafoedd radio lleol. Gallai sefydliadau o’r fath fod o fudd mawr i Gymru.�
Mae’r astudiaeth yn dadansoddi ardoll ymwelwyr mewn saith cyrchfan rhyngwladol ac yn bennu argymhellion clir ar sut y dylai Awdurdodau Lleol weithredu’r dreth newydd yma yng Nghymru. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar sut y dylid talu’r refeniw o’r dreth, a sut y dylid gwerthuso effaith y gwariant hwnnw.
Dywedodd Linda, “dylai prosiectau a ariennir gyd-fynd ag amcanion clir, boed wedi’u hanelu at wella cynaliadwyedd y diwydiant twristiaeth neu gefnogi llesiant diwylliannol, cymdeithasol neu amgylcheddol y cymunedau sy’n eu cynnal.� Mae Rhys yn cytuno, ac mae’n galw hefyd am dryloywder o ran manylion gweithgareddau a ariennir i adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd a sicrhau atebolrwydd.