Mae'r model yn defnyddio dull dadansoddi adnabod patrymau i nodi'r ffactorau cymhleth a rhyng-gysylltiedig a all arwain at anafiadau megis troi ffêr, rhwyg neu ysigiad i’r gewynnau, ac achosion mwy difrifol o anafiadau straen i’r cyhyrau. Anafiadau i’r coesau yw'r math mwyaf cyffredin yn rygbi'r undeb, gan gyfrif am tua hanner y dyddiau a gollir oherwydd anafiadau yn y gêm ryngwladol.
Bu ymchwilwyr o Gyfnewidfa Gwybodaeth Rygbi Prifysgol ¾«¶«´«Ã½ yn dilyn 36 o chwaraewyr rygbi'r undeb lled-broffesiynol dros ddau dymor, gan ddefnyddio data ar lwyth hyfforddi, profi perfformiad, mesurau goddrychol, sgrinio cyhyrysgerbydol ac anafiadau blaenorol. Casglwyd mwy na 1700 o bwyntiau data ar gyfer pob chwaraewr fesul tymor chwarae.
Dros y ddau dymor, cafodd 25 o'r chwaraewyr anafiadau digyswllt i'w coesau, a achoswyd amlaf gan redeg. Yr anaf mwyaf cyffredin oedd troi ffêr.
Gyda’r data hwn, canolbwyntiodd y tîm ar ffactorau sydd eisoes yn gysylltiedig ag anafiadau penodol, gan greu model a allai asesu'r cydadwaith rhyngddynt i ragfynegi'r risg ar gyfer pob chwaraewr gyda chywirdeb hyd at 75%. Mae'r model hefyd yn gosod trothwy i bob ffactor, lle roedd y chwaraewr yn wynebu risg uwch o anaf - gan ei wneud yn adnodd a allai fod yn ddefnyddiol i hyfforddwyr perfformio yn y gamp.
Dywedodd Dr Julian Owen, uwch ddarlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol ¾«¶«´«Ã½: “Mae dulliau ystadegol traddodiadol o asesu risg anafiadau yn tueddu i dybio bod cysylltiad llinol rhwng yr anaf a nifer fach o ffactorau risg unigol. Er enghraifft, bod gwendid mewn grŵp penodol o gyhyrau’n rhagfynegydd o anaf penodol. Mae ein model ni’n llawer mwy cynnil. Gallai’r trothwy ar gyfer gwendid yn y grŵp cyhyrau hwnnw fod yn wahanol yn dibynnu ar oedran y chwaraewr, mà s y corff a’u llwyth hyfforddi dros yr ychydig wythnosau blaenorol.â€�
Trwy ragfynegi risg yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gallai'r model ganiatáu i hyfforddwyr addasu rhai agweddau ar hyfforddiant chwaraewr i sicrhau bod eu risg yn cael ei leihau a'u bod yn gallu parhau i chwarae a hyfforddi.
Mae data’r model yn seiliedig ar asesiadau y mae chwaraewyr yn eu cael yn rheolaidd ar ddechrau'r tymor a chyn y rhan fwyaf o sesiynau hyfforddi. Mae hyn yn cynnwys profion ffitrwydd aerobig, cyflymder sbrintio, cryfder, profion sgrinio arferol megis hyblygrwydd y ffêr, cryfder y llinynnau gar a’r cyhyrau atynnu, a mesurau hunan-adrodd megis blinder neu boen cyhyrau.
Un o elfennau allweddol y model yw ei fod yn cynnwys newidiadau yn y mesuriadau hyn dros y tymor a'u cysylltu â newidiadau yn y llwyth hyfforddi.
Roedd rhai o’r canfyddiadau’n syndod – megis bod blaenwyr mewn mwy o berygl o anafiadau digyswllt difrifol i’r coesau o’u cymharu â chefnwyr, yn enwedig os oedd eu hamseroedd sbrintio’n arafach a bod ganddynt lai o gryfder ar draws marcwyr sgrinio cyhyrysgerbydol y coesau. Roedd hanes chwaraewr o gyfergyd hefyd yn cynyddu eu risg o anaf digyswllt dilynol. Fodd bynnag, mae'r ymchwilwyr yn rhybuddio na ellir cyffredinoli canfyddiadau o'r fath ar draws y gamp.
Dywedodd Dr Seren Evans, sy’n gydymaith ymchwil ym maes monitro anafiadau rygbi’r undeb ym Mhrifysgol ¾«¶«´«Ã½, ac a weithiodd ar y project ar gyfer ei PhD: “Mae allbynnau’r model hwn yn seiliedig ar y 36 chwaraewr hynny, felly byddai angen set ddata llawer mwy arnoch er mwyn i’r canfyddiadau fod yn berthnasol yn ehangach. Mae hyn yn golygu bod y model yn benodol iawn wrth asesu risg grŵp penodol o chwaraewyr a’r math penodol o hyfforddiant a champ y maent yn rhan ohonynt.â€�
Yn ôl Dr Owen, gallai'r dull hwn gael ei ddyblygu’n hawdd ar draws chwaraeon eraill hefyd, yn enwedig chwaraeon tîm.
“Mae’r ymchwil hwn wedi dangos bod dull adnabod patrymau’n gallu gweithio,� meddai. “Lle mae gan glybiau ddata hanesyddol ynghylch eu chwaraewyr o dymhorau blaenorol, byddai’n bosibl datblygu model yn gyflym iawn i’w addasu i’r tîm hwnnw – a rhagfynegi risg anafiadau a darparu mewnwelediad am grŵp penodol o chwaraewyr.�
Ariannwyd yr ymchwil drwy a’i gyhoeddi yn