Ers y lansiad ym mis Tachwedd 2024, gwnaed dros 900,000 o chwiliadau gan ddefnyddio Ecosia ar ddyfeisiau鈥檙 brifysgol.
Yn seiliedig ar gyfrifiad Ecosia, mae鈥檔 cymryd tua 50 o chwiliadau i dalu am blannu un goeden, ac felly mae defnydd Prifysgol 精东传媒 o'r peiriant chwilio wedi cynhyrchu'r hyn sy'n cyfateb i 20 cae p锚l-droed o goed.
Newidiodd y brifysgol yr holl gyfrifiaduron a reolir yn ganolog i Ecosia fel rhan o'i hymrwymiad ehangach i gynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd ddechrau mis Tachwedd 2024.
Mae hyn wedi rhoi 精东传媒 ar frig rhestr o sefydliadau addysg uwch sy'n arloesi gyda dewisiadau digidol sy'n amgylcheddol gyfrifol.
Dywedodd yr Is-brofost, yr Athro Oliver Turnbull, a arweiniodd y newid i Ecosia: 鈥淢ae鈥檙 newid syml hwn wedi cael effaith mawr mewn blwyddyn.
鈥淢ae鈥檔 dangos beth sy鈥檔 bosib pan fydd cymuned prifysgol yn dod at ei gilydd gyda phwrpas cyffredin.鈥�
鈥淢ae pob chwiliad ar-lein bellach yn gwneud cyfraniad bach ond pwysig at ailgoedwigo byd-eang ac mae hynny鈥檔 rhywbeth y gall ein myfyrwyr a鈥檔 staff deimlo鈥檔 wirioneddol falch ohono,鈥� ychwanegodd.
Mae Ecosia yn defnyddio elw a gynhyrchir trwy chwiliadau gwe i dalu am blannu coed mewn mannau lle mae bioamrywiaeth dan fygythiad, adfer tirweddau, cefnogi cymunedau a helpu mynd i'r afael 芒 newid yn yr hinsawdd.
Meddai鈥檙 Athro Christian Dunn, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd: 鈥淢ae newid i Ecosia wedi dangos nad oes rhaid, o reidrwydd, gwneud dim byd cymhleth i helpu鈥檙 amgylchedd.
鈥淢ae brwdfrydedd ein myfyrwyr - a awgrymodd ein bod yn defnyddio Ecosia - wedi bod yn ysbrydoliaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn gyda mwy o fentrau o fudd i natur yn y flwyddyn nesaf.鈥�
Canmolodd Fred Henderson, Rheolwr Llwyddiant Defnyddwyr Ecosia, Brifysgol 精东传媒, gan ddweud: 鈥淢ae鈥檔 wych gweld myfyrwyr a staff 精东传媒 yn arwain y ffordd a phlannu dros 18,000 o goed drwy newid eu cyfrifiaduron i ddefnyddio Ecosia yn unig - rhywbeth y gall unrhyw gwmni, ysgol neu brifysgol ei wneud i gael effaith.鈥�
鈥淢ae Prifysgol 精东传媒 yn gwneud cyfraniad anhygoel at ymladd yn erbyn yr argyfwng hinsawdd a natur,鈥� ychwanegodd.
Bydd Prifysgol 精东传媒 yn parhau i weithio gyda staff, myfyrwyr a phartneriaid lleol ar y gyfres nesaf o fentrau cynaliadwyedd a mentrau o fudd i natur ar draws y brifysgol.