Mae Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion Prifysgol 精东传媒, y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol a HR Wallingford wedi cyhoeddi dau bapur ymchwil newydd sydd wedi'u hadolygu gan gymheiriaid yng nghyfnodolion Nature Portfolio, gan hyrwyddo dealltwriaeth o sut mae isadeiledd gwynt alltraeth a newid hinsawdd yn ail-lunio gwely'r m么r. Mae'r ddau bapur ymchwil ar gael i'w darllen yma: 鈥� a
Mae'r ddwy astudiaeth yn ganlyniad i'r project ECOWind-ACCELERATE (talfyriad am 鈥淓cological Implications of Accelerated Seabed Mobility around Windfarms鈥�), project dan arweiniad Prifysgol 精东传媒, ac yn rhan o鈥檙 rhaglen ECOWind-ACCELERATE a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ac Ystad y Goron.
Mae'r papur diweddaraf, a gyhoeddwyd yn Nature Communications dan arweiniad Dr Chris Unsworth, yn canfod bod y grymoedd hydrodynamig sy'n gyrru symudedd gwaddod yn sgil sylfeini tyrbinau gwynt alltraeth yn gryfach ac yn ymestyn ymhellach nag a gydnabuwyd yn flaenorol.
Gwaddodion gwely'r m么r (tywod, mwd a graean) sy'n pennu pa rywogaethau all oroesi neu ffynnu mewn ardal benodol. Gan ddefnyddio cyfuniad o arbrofion labordy, modelau cyfrifiadurol a data o鈥檙 byd go iawn o fferm wynt weithredol, mae'r ymchwil yn dangos y gall tyrfedd a achosir gan sylfeini unpeil amharu ar waddodion ar draws 3% ac 8% o wely'r m么r mewn fferm wynt nodweddiadol. Nid yw'r effaith hon o ganlyniad i dyrfedd wedi'i chynnwys yn yr amcangyfrifon cyfredol o addasu gwely'r m么r, sydd tua 1% o arwynebedd y fferm wynt. Wrth i gapasiti gwynt alltraeth ehangu'n gyflym i gyrraedd targedau ynni carbon isel, mae mesur yr effeithiau hynny鈥檔 gywir yn hanfodol.
Dywedodd Dr Chris Unsworth, uwch wyddonydd yn HR Wallingford a chyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol 精东传媒, 鈥淓r ein bod ni鈥檔 dda am amcangyfrif ysgoth mewn sylfeini unpeil (ac isadeileddau eraill), roedd effaith y maes llif ar wely鈥檙 m么r ymhellach i ffwrdd wedi鈥檌 hanwybyddu; ond mae gan yr effaith dyrfol fwy hon ar symudedd gwaddod y potensial i newid cyfansoddiad a chynefinoedd gwely鈥檙 m么r. Yn y papur hwn rydym wedi datblygu a dilysu dull newydd o wneud yn union hynny.鈥�
Ychwanegodd Dr Thomas Benson, Cyfarwyddwr Technegol yn HR Wallingford, 鈥淵 dull a gymerwyd gennym oedd addasu model Navier-Stokes sy鈥檔 seiliedig ar gyfartaledd Reynolds (openTELEMAC) i gynnwys effeithiau tyrfedd ar wely鈥檙 m么r. Mae effeithlonrwydd y dull hwn o gymharu 芒 model Navier-Stokes llawn yn golygu y gallwn efelychu'r tyrfedd sy鈥檔 cael ei gynhyrchu gan dyrbinau unpeil ar draws parth gofodol mawr a thros amserlen ddigon hir i roi gwell dealltwriaeth o effeithiau'r sgil-effaith ar wely'r m么r.鈥�
Mae'r astudiaeth hon yn dilyn yn agos papur a gyhoeddwyd yn Communications Earth & Environment dan arweiniad Dr Julia Rulent. Gwyddonydd Modelu鈥檙 Cefnfor yn y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol yw Julia, ac mae'r astudiaeth hon yn archwilio sut mae newid hinsawdd hefyd yn newid dynameg gwaddodion gwely'r m么r. Gan ddefnyddio uwch fodelau cyfrifiadurol a rhagamcaniadau hinsawdd, mae'r ymchwil hwn yn dangos y bydd lefelau m么r sy'n codi yn gyffredinol yn sefydlogi gwaddodion gwely'r m么r trwy gynyddu dyfnder y d诺r ac felly鈥檔 lleihau effeithiau tonnau a cheryntau. Fodd bynnag, disgwylir i stormydd cryfach achosi aflonyddwch tymor byr yn amlach, a bydd cerrig m芒n yn symud yn y dyfodol mewn ardaloedd lle na fyddent yn symud heddiw.
Dywedodd Dr Julia Rulent: 鈥淢ae鈥檔 bwysig meintioli aflonyddwch i wely鈥檙 m么r o ganlyniad i lanw rheolaidd a stormydd prin. Drwy adnabod y prosesau naturiol sylfaenol, a sut y gallent newid yn y dyfodol, mae gennym gyd-destun ystyrlon ar gyfer effeithiau dynol isadeiledd ar wely'r m么r.鈥�
Gyda'i gilydd, mae'r ddwy astudiaeth yn darparu enghreifftiau ar gyfer gwahanu effeithiau amgylcheddol isadeiledd ynni gwynt oddi wrth rai'r argyfwng hinsawdd ehangach.
Yr Athro Katrien Van Landeghem o Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion sy鈥檔 arwain y project ECOWind-ACCELERATE. Dywedodd: 鈥淢ae鈥檙 astudiaethau yma, sydd wedi鈥檜 hadolygu鈥檔 drylwyr gan gymheiriaid, yn dangos sut mae ymchwil cydweithredol yn gwella ein dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd a datblygu ynni gwynt alltraeth ar amgylcheddau gwely鈥檙 m么r. Mae'r canfyddiadau'n cefnogi asesiadau amgylcheddol at y dyfodol o foroedd sy'n newid yn gyflym, a chynllunio sy'n seiliedig ar risg ar gyfer, er enghraifft, ceblau tanddwr neu adfer cynefinoedd. Wrth i symudedd gwely'r m么r siapio cynefinoedd morol a gweoedd bwyd, rhaid i ddatblygiad ynni gwynt alltraeth cyfrifol fynd law yn llaw 芒 stiwardiaeth amgylcheddol gref.鈥�