Addysg wych a llawer o gyfleoedd
Mae mwy o gyfleoedd i chi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor nac yn unrhyw Brifysgol arall yng Nghymru, ac mae鈥檙 rhan helaeth o鈥檔 myfyrwyr ni sy鈥檔 siaradwyr Cymraeg yn manteisio ar y cyfleoedd hynny. Mae 9 o bob 10 myfyriwr sy鈥檔 siarad Cymraeg yn astudio rhywfaint o鈥檜 cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yma. Mae llu o鈥檔 darlithwyr sy鈥檔 siaradwyr Cymraeg yn arbenigwyr ac wedi cyfrannu鈥檔 sylweddol yn eu meysydd. Peidiwch 芒 cholli ar y cyfle felly i dderbyn addysg o鈥檙 radd flaenaf drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor!
Faint sydd rhaid ei astudio drwy鈥檙 Gymraeg?
Gennych chi fel myfyrwyr mae鈥檙 dewis ynghylch faint o鈥檆h cwrs yr hoffech ei astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwch yn y Llawlyfr Modiwlau Cymraeg ar yr holl ddewis o fodiwlau sydd ar gael i鈥檞 hastudio yn yr iaith ym mhob pwnc.
Yn ogystal, fel myfyrwyr sy鈥檔 siaradwyr Cymraeg, mae gennych chi鈥檙 hawl i gyflwyno eich aseiniadau a chwblhau eich arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pob modiwl. Ewch amdani felly 鈥� a sylwch isod ar yr holl gefnogaeth sydd ar gael ar eich cyfer i astudio a chyflwyno gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
Manteision byd gwaith
Mae llu o fanteision Cyflogadwyedd o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Cofiwch fod:
- Cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw am sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
- Cyflogau swyddi dwyieithog yn uwch ar gyfartaledd
- Siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth neu gwblhau astudiaethau pellach ar 么l graddio nag unigolion nad ydynt yn siarad Cymraeg.
Byddai manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i chi i astudio a datblygu eich sgiliau iaith Gymraeg tra鈥檙 ydych ym Mangor yn rhoi sylfaen gadarn i chi cyn mentro i鈥檙 byd gwaith felly.