Arbenigedd mewn llenyddiaeth Gymraeg
Y mae gan Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd arbenigeddau ymchwil yn holl brif feysydd llenyddiaeth Gymraeg ac ymhlith aelodau鈥檙 staff y mae hefyd rai o lenorion a beirdd amlycaf y Gymru gyfoes megis Dr Angharad Price, Dr Jason Walford Davies, Yr Athro Jerry Hunter a鈥檙 Athro Gerwyn Wiliams. Yr ydym hefyd yn cydweithio鈥檔 agos ag Ysgolion academaidd eraill yn y Brifysgol, e.e. gyda Hanes a Hanes Cymru ym maes Astudiaethau Celtaidd a chyda Ieithoedd Modern ym meysydd astudiaethau cyfieithu a llenyddiaeth gymharol.
Llenyddiaeth Gymraeg yn y byd modern
Prif nod ein hymchwil yw gosod llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destunau deallusol newydd. Ym Mangor, yr amcan o hyd yw astudio llenyddiaeth Gymraeg nid fel gweddillion rhyw orffennol 鈥楥eltaidd鈥� ond fel amlygiad o lenyddiaeth hyfyw sy鈥檔 perthyn i鈥檙 byd modern. Er enghraifft, fe welir bod astudiaeth ddiweddar (2013) Dr Angharad Price o T.H. Parry-Williams yn archwilio datblygiad gyrfa gynnar y bardd yng nghyd-destun amgylchfydoedd deallusol Rhydychen, Freiburg a Pharis. Mae gwaith diweddar Yr Athro Jerry Hunter ar y cysylltiadau Cymreig yn hanes y Tsalagi yn rhan o astudiaeth estynedig ehangach o ddiwylliant Cymraeg America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac y mae gwaith Dr Jason Walford Davies ar R.S. Thomas yn tynnu ar wybodaeth eang o lenyddiaethau Cymraeg a Saesneg Cymru. Fe welir hefyd fod plethwaith cymhleth y cysylltiadau diwylliannol ac ieithyddol yng Nghymru鈥檙 Oesoedd Canol yn cael eu hastudio yng ngwaith arloesol Dr Aled Llion Jones ar broffwydoliaeth yng Nghymru (2013).
Adlewyrchu'r Gymru fodern
Y mae鈥檔 hen draddodiad ym Mangor fod ymchwil ym maes y Gymraeg yn cael ei deilwra ar gyfer anghenion cynulleidfaoedd y tu hwnt i furiau鈥檙 Brifysgol. Ymhlith y rhai sy鈥檔 elwa ar ein hymchwil y mae: cynulleidfaoedd lleyg sy鈥檔 darllen ein cyhoeddiadau; cynulleidfaoedd radio a theledu; sefydliadau diwylliannol megis yr Eisteddfod Genedlaethol a Llenyddiaeth Cymru; myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd, addysgwyr a鈥檙 rhai sy鈥檔 gyfrifol am feysydd llafur mewn ysgolion; rhai sy鈥檔 llunio polis茂au iaith; gweithwyr sy鈥檔 defnyddio鈥檙 Gymraeg yn broffesiynol, e.e. gweinyddwyr a gweision sifil; meysydd treftadaeth a鈥檙 cyfryngau; a chwmn茂au cyfieithu a chyhoeddi.
Amrywiaeth Ieithyddol a Diwylliannol
Yng Nghymru yr ymglywir gryfaf 芒 dylanwad ein hymchwil, ond y mae hefyd yn fodd o hyrwyddo dealltwriaeth lawnach o amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol ar lefel ryngwladol. Ar hyn o bryd, y mae nofel fawr Angharad Price O! Tyn y Gorchudd (2001) wrthi鈥檔 cael ei chyfieithu i chwech o ieithoedd eraill, gan gynnwys Almaeneg, Rwmaneg a Bengaleg.