Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Rhaglen integredig o'r radd flaenaf dros gyfnod o ddwy flynedd yw鈥檙 cwrs sydd 芒'r nod o gymhwyso graddedigion i ymdrin 芒'r heriau enfawr sy'n wynebu coedwigoedd, amaethyddiaeth a defnydd tir cynaliadwy mewn rhanbarthau tymherus. Mae'r staff addysgu yn ymchwilwyr brwd a bydd y myfyrwyr yn elwa o'r ystod eang o weithgareddau ymchwil a chysylltiadau sydd gennym yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Mae鈥檙 cwrs unigryw hwn yn cyfuno profiadau addysgu ac ymchwil pum sefydliad addysg blaenllaw yn Ewrop ac yn cynnig rhaglen addysgol fanwl sydd ar flaen y gad o ran addysgu ar sail ymchwil a gyda chysylltiadau cryf 芒鈥檙 realiti yn llawer o wledydd Ewropeaidd a thu hwnt i Ewrop.
Cynigir y cwrs Rheolaeth Coedwigoedd a Natur Cynaliadwy gan gonsortiwm sy'n cynnwys pum sefydliad:
- Canolfan Coedwigoedd, Tirwedd a Chynllunio Denmarc, Cyfadran Gwyddoniaeth, Prifysgol Copenhagen, Denmarc
- Ysgol yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol, Prifysgol 精东传媒, 精东传媒, Gwynedd
- Cyfadran Gwyddor Coedwigoedd ac Ecoleg, Prifysgol Goettingen, G枚ttingen, yr Almaen
- Canolfan Ymchwil Coedwigoedd De Sweden, Prifysgol Gwyddorau Amaethyddol Sweden, Alnarp, Sweden
- Cyfadran Amaethyddiaeth, Prifysgol Padova, Padova, yr Eidal.
Ceir gwybodaeth fanwl am gwrs Meistr Rheolaeth Coedwigoedd a Natur Cynaliadwy ar gael yn
Mae'r dudalen we hon yn disgrifio'r cwrs Rheolaeth Coedwigoedd a Natur Cynaliadwy fel y mae wedi ei strwythuro yn y sesiwn academaidd gyfredol. Er bod nodau'r rhaglen a strwythur eang y radd yn debyg o flwyddyn i flwyddyn, gall manylion newid dros amser i fodloni gofynion y proffesiwn ac archwiliadau academaidd, ac i sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gyfoes.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Beth fyddwch yn ei astudio ar y cwrs?
Blwyddyn Gyntaf
Mae'r cwrs yn cynnwys blwyddyn o astudio yn Copenhagen, Denmarc ac yna ail flwyddyn o astudio pynciau a gynigir gan un o'r pedwar sefydliad eraill, sef 精东传媒, G枚ttingen (yr Almaen), Alnarp (Sweden) Padova (yr Eidal).
Yn ystod y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Copenhagen, bydd pob myfyriwr yn cael cyflwyniad trylwyr i gynaliadwyedd ym maes rheoli coedwigoedd a natur. Byddwch yn dysgu elfennau craidd cynaliadwyedd yn ei agweddau ecolegol, economaidd a chymdeithasol. Byddwch hefyd yn dysgu am ryngddisgyblaetholdeb ac agweddau ehangach ar gynaliadwyedd ym maes athroniaeth a llywodraethu. Yn olaf, byddwch yn datblygu eich sgiliau cyffredinol ac yn paratoi at astudio eich arbenigedd yn yr ail flwyddyn yn ystod blwyddyn gyntaf eich astudiaethau.
Bydd y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Copenhagen yn cynnwys cyrsiau gorfodol gyda phwyslais ar ddarparu dealltwriaeth o gynaliadwyedd ym maes rheoli coedwigoedd a natur a rhyngddisgyblaetholdeb. Bydd cyrsiau dewisol cyfyngedig hefyd wedi eu cynnwys, lle gallwch benderfynu creu eich rhaglen eich hun, neu ddewis llwybr astudio a argymhellir. O fewn y cyrsiau dewisol cyfyngedig, gallwch hefyd ddewis ymuno ag ysgol haf ar y cyd 芒 SUFONAMA.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i .
Yr Ail Flwyddyn
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dewis un o'r rhaglenni canlynol:
- Cadwraeth a Rheoli Tir (精东传媒)
- Cynaliadwyedd ym maes Rheoli Coedwigoedd a Natur (Copenhagen)
- Rheoli Coedwigoedd a Natur mewn Hinsawdd sy鈥檔 Newid (G枚ttingen)
- Coedwigaeth Gynaliadwy ym Mharthau Boreal a Thymherus Gogledd Ewrop (Alnarp)
- Diogelu Tir a Choedwigoedd Cynaliadwy (Padova).
Bwriad y cwrs yw rhoi dealltwriaeth eang a chytbwys i fyfyrwyr o鈥檙 wyddoniaeth sylfaenol sy鈥檔 sail i gadwraeth a rheoli tir. Mae鈥檙 cwrs yn ymdrin 芒 materion sy鈥檔 ymwneud 芒 defnydd cynaliadwy o gefn gwlad. Mae鈥檔 archwilio cynefinoedd, bywyd gwyllt, tirweddau, a鈥檙 ffactorau naturiol a dynol sy鈥檔 dylanwadu arnynt. Ar ben hynny, mae鈥檙 cwrs yn archwilio鈥檙 modd y gellir rheoli gweithgareddau economaidd, megis ffermio a choedwigaeth, mewn modd sy鈥檔 dderbyniol o safbwynt yr amgylchedd, a鈥檙 modd y gellir cynnwys mwynhad pobl o gefn gwlad mewn dull integredig o reoli tir.
Dyma brif amcanion y rhaglen:
- Rhoi dealltwriaeth drylwyr i fyfyrwyr o鈥檙 egwyddorion a鈥檙 prosesau sy鈥檔 sail i gadwraeth a rheoli tir a鈥檜 galluogi i gymhwyso鈥檙 rhain i ddefnydd cynaliadwy o gefn gwlad.
- Archwilio cynefinoedd, bywyd gwyllt a thirweddau a鈥檙 ffactorau naturiol a dynol sy鈥檔 dylanwadu arnynt.
- Datblygu sgiliau deallusol, ymarferol, rhifedd, cyfathrebu, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), rhyngbersonol / gwaith t卯m, hunanreolaeth, datblygiad proffesiynol myfyrwyr ac ysgrifennu adroddiadau gwyddonol, mewn cyd-destun penodol i gadwraeth.
- Datblygu dealltwriaeth o'r cyd-destunau cymdeithasol, amaethyddol ac amgylcheddol y mae ffermydd a chefn gwlad ynddynt
- Arfogi myfyrwyr 芒 sgiliau a fydd yn caniat谩u iddynt ddod o hyd i waith naill ai gydag asiantaethau cadwraeth amgylcheddol, cyrff anllywodraethol, sefydliadau llywodraethol, sefydliadau academaidd neu gyda phroffesiynau eraill sy'n gofyn am y gallu i syntheseiddio cysyniadau a syniadau a chymryd golwg gyfannol yn y Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a thramor.
Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gwaith gr诺p, gwaith labordy, amrywiaeth eang o deithiau maes, labordai cyfrifiadurol a phroject ymchwil unigol.
Un o brif nodau'r Ysgol Gwyddorau Naturiol yw gwella cyflogadwyedd ei graddedigion Meistr. Mae'n gwneud hyn trwy roi sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr yn ogystal 芒 gwybodaeth pwnc-benodol. Erbyn graddio, bydd pob myfyriwr wedi rhoi cyflwyniadau wedi eu hasesu, wedi dylunio podlediadau, wedi cael eu cyfweld, wedi cyflwyno gwaith ysgrifenedig ar amrywiaeth o bynciau ac mewn fformatau gwahanol, wedi gweithio i gyrraedd targedau o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt ar eu pen eu hun ac fel rhan o dimau mwy, wedi chwilio am lenyddiaeth a gwybodaeth ar y we, wedi cynnal dadansoddiadau meintiol, ac wedi gwneud gwaith ymarferol ac ymchwil sy'n berthnasol i'w disgyblaeth eu hunain. Mae'r MSc hefyd yn cynnwys hyfforddiant manwl ar ddefnyddio dadansoddi ystadegol ecolegol a systemau gwybodaeth ddaearyddol. Bydd ymweliadau maes a theithiau astudio hefyd yn gyfle i ymwneud 芒 gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes ac i gysylltu鈥檙 hyn a ddysgwyd yn y darlithoedd ag ymarfer masnachol.
Modiwlau Gorfodol 精东传媒:
Bioamrywiaeth a Swyddogaethau Ecosystemau mewn Tirweddau sy鈥檔 Newid
Mae'r modiwl hwn yn edrych yn fanwl ar y berthynas gymhleth rhwng gwahanol rywogaethau, a chyfraniad cymunedau ecolegol at gynhyrchu a chynnal bioamrywiaeth a swyddogaethau ecosystem mewn tirweddau sy'n newid. Gan ddibynnu ar theori ecolegol o'r radd flaenaf ac ecosystemau go iawn, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar bwysigrwydd bioamrywiaeth drofannol a'r bygythiadau iddi, gan gynnwys cyfraniad amaethyddiaeth olew palmwydd at newid tirweddau yn ne-ddwyrain Asia. Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr a manwl o ecosystem fforestydd glaw bregus, gan gynnwys ffyrdd y gellir gwarchod swyddogaethau ecosystem fforestydd glaw mewn planhigfeydd palmwydd olew, a thrwy hynny leddfu effaith amgylcheddol un o'r bygythiadau mwyaf i fioamrywiaeth y ddaear. Bydd y cwrs yn cynnwys teithiau undydd i'n canolfan ymchwil a darlithoedd, gan ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio achosion a chanlyniadau darnio cynefinoedd a swyddogaeth ecosystemau yn nhirweddau amrywiol gogledd Cymru. Mae tri math o asesiad: yn gyntaf, cyflwyniad tiwtorial annibynnol; yn ail, cyflwyniadau gr诺p yn seiliedig ar brojectau gr诺p a gynhaliwyd yn y ganolfan ymchwil; ac yn drydydd, arholiad ar-lein i'w sefyll adref ar ddiwedd y cwrs.
Traethawd Hir MSc
Bydd myfyrwyr yn cynnal project ymchwil unigol a gynllunnir ymlaen llaw, ac a gytunir arno, ar 么l ymgynghori 芒 goruchwyliwr academaidd dynodedig. Gall y project fod yn astudiaeth labordy, astudiaeth maes neu ddesg sy'n gyson 芒'r rhaglen radd dan sylw ac a ddilysir gan gynullydd a/neu gyfarwyddwr y rhaglen.
Taith maes yn y Deyrnas Unedig
Bydd y cwrs maes hwn yn y Deyrnas Unedig, yn rhoi cipolwg unigryw i chi ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig 芒 chadwraeth a rheoli bywyd gwyllt mewn gwlad ddiwydiannol ddatblygedig iawn gydag ardaloedd poblog iawn. Yn ystod y cwrs wythnos o hyd hwn, byddwch yn cael eich tywys gan arbenigwyr cadwraeth ar daith i gwrdd 芒 phobl sydd ar flaen y gad o ran rheoli rhywogaethau a chynefinoedd. Byddwch yn treulio amser gyda rhanddeiliaid allweddol sy'n ymwneud 芒 rheoli cynefinoedd a chadwraeth ar draws amrywiaeth o safleoedd, a thrwy eich ymwneud a hwy, yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o'r cyfleoedd a'r cyfyngiadau sy'n gysylltiedig 芒 chadwraeth a rheoli tir yn y Deyrnas Unedig. Byddwch yn dod i gysylltiad 芒 phynciau gan gynnwys rheoli pl芒u, gwrthdaro ym maes cadwraeth ac adfer ecolegol sy'n hanfodol i gadwraeth a rheoli bioamrywiaeth mewn byd sy'n newid. Ar ben hynny, byddwch yn dysgu am gyd-destun y safleoedd yr ymwelwyd 芒 hwy, gyda phwyslais ar ddefnydd tir cyfredol a hanesyddol, dynodiad cadwraeth, ecoleg a rhywogaethau allweddol ar y safle a bygythiadau lleol. Bydd y rhan fwyaf o'r addysgu yn digwydd yn y maes ar ffurf arsylwadau a thrafodaethau gydag ymarferwyr cadwraeth a rheolwyr safleoedd. Bydd sesiynau mewn dosbarth a thrafodaethau yn ychwanegu at y teithiau maes hyn. Mae dau fath o asesiad: y cyntaf yw ysgrifennu cais am grant bach; a dyddiadur fideo byr sy'n rhoi crynodeb o ddetholiad o safleoedd yr ymwelwyd 芒 hwy yw鈥檙 ail. Cyflwynir y dyddiaduron fideo gan bob myfyriwr yn ystod g诺yl ffilmiau fach.
Modiwlau Dewisol:
Amaethyddiaeth a鈥檙 Amgylchedd
Mae'r modiwl hwn yn adolygu systemau ac arferion amaethyddol, yr egwyddorion gwyddonol sy'n sail iddynt, a'u heffaith ar ansawdd pridd, d诺r ac aer yn ogystal 芒 bioamrywiaeth. Mae cynnwys y modiwl yn mynd i'r afael 芒 dadleuon perthnasol cyfredol yngl欧n 芒 sut y gallai dad-ddofi tir, dwys谩u cynaliadwy a systemau ffermio sy'n gyfeillgar i natur fod yn rhan o鈥檙 defnydd tir gorau posib i ddarparu gwasanaethau ecosystem lluosog. Cyflwynir y modiwl gan nifer o siaradwyr academaidd, yn ogystal 芒 siaradwyr gwadd allanol o'r diwydiant amaethyddol, polisi a chymdeithasau ffermio. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ymweld 芒 ffermydd da byw dwys ar dir isel, ffermydd mewnbwn isel ar dir uchel a ffermydd organig a gwarchodfa natur i drafod ymarferoldeb darparu gwasanaethau ecosystem lluosog o systemau cyferbyniol. Byddwch yn dod i ddeall y cymhlethdodau a'r dadleuon heriol yngl欧n 芒鈥檙 ffordd orau o ddefnyddio tir a rheoli adnoddau i sicrhau gwahanol ganlyniadau mewn cyfnod o newid yn yr hinsawdd a rheoleiddio polisi amgylcheddol. Asesir y modiwl trwy feirniadaeth fanwl o wrthdaro amgylcheddol cyfredol ac yna cyfweliad wedi ei asesu ar y pwnc hwn.
Rheoli a Dadansoddi Data
Mae'r modiwl hwn yn darparu sylfaen gadarn mewn sgiliau meintiol allweddol sydd eu hangen i ddeall cwestiynau ym maes cadwraeth a rheoli adnoddau naturiol. Gwneir yr holl addysgu gan ddefnyddio R ac RStudio 鈥� rhaglenni hyblyg iawn a ddefnyddir ym maes gwyddor data mewn sawl disgyblaeth. Defnyddir darlithoedd, cynnwys y cwrs, gwaith gr诺p a sesiynau ymarferol ar gyfrifiadur i gyflwyno damcaniaethau, cwestiynu enghreifftiau a darparu profiad ymarferol o drin, delweddu a dadansoddi setiau data sy'n berthnasol i gadwraeth a rheoli adnoddau naturiol. Gofynnir i chi gynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig gan gynnwys graffiau, tablau a phrofion ystadegol lle bo'n briodol, gan ddefnyddio'r wybodaeth a roddir mewn darlithoedd a sesiynau ymarferol, gyda chefnogaeth ac arweiniad gan staff addysgu.
Ecoleg Fotanegol a Gwasanaethau Ecosystemau
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar fath o gynefin allweddol, penodol na astudir rhyw lawer (glaswelltiroedd cyfoethog gyda rhywogaethau blodau). Mae'n ymchwilio i'r berthynas rhwng peillwyr a blodau gwyllt ac yn nodi'r prif ffactorau sy'n achosi dirywiad rhywogaethau.
Cyfuniad o ddarlithoedd yn y cnawd a theithiau maes yn edrych yn fanwl ar heriau colli cynefinoedd a chyfraniad amaethyddiaeth at gymunedau peillwyr/planhigion sy'n dirywio. Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth fanwl o'r ecosystem fregus hon a'i chyfraniad canolog at ddarparu bwyd dibynadwy a chynaliadwy i gymdeithas.
Rydym ar ymyl y dibyn o ran difodiant rhywogaethau lluosog. Dyma gyfle i ddeall y berthynas gymhleth rhwng rhywogaethau a'r planhigion a鈥檜 peillwyr a鈥檙 posibilrwydd o sefydlogi a gwrthdroi鈥檙 broses o golli rhywogaethau.
Bydd myfyrwyr yn adeiladu ar wybodaeth a gafwyd o fodiwlau blaenorol trwy addasu dealltwriaeth i fath o gynefin unigryw, sy'n aml yn cael ei anwybyddu. Erbyn diwedd y modiwl, disgwylir na fyddwch fyth eto'n edrych ar yr amgylchedd yn yr un ffordd. Byddant yn gallu asesu'r heriau a'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig 芒 rheoli math penodol o gynefin.
Mae dau fath o aseiniad. Yn gyntaf, cyflwyniad fideo 5-7 munud ar bwnc sy'n gysylltiedig 芒 phlanhigion/peillwyr, a thraethawd 2000 gair o fewn yr un maes pwnc.
Cynllunio Rheolaeth Cadwraeth
Mae'r modiwl hwn yn un a ddymunir gan gyflogwyr ac mae'n rhoi adnoddau proffesiynol allweddol i chi ar gyfer gyrfa mewn cadwraeth. Mae'r broses gynllunio rheoli a astudiwyd ar y modiwl hwn yn cynnwys dau fframwaith i gynlluniau rheoli cadwraeth safleoedd: Safonau agored ar gyfer ymarfer cadwraeth (gan y Conservation Measures Partnership) a'r system reoli cadwraeth (CMS). Bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o ddatblygu cynlluniau a chreu mapiau gyda GIS. Mae'r modiwl yn egluro'r broses gynllunio ym maes rheoli cadwraeth.
Bydd yr asesiad yn cynnwys nifer o elfennau sy'n caniat谩u i fyfyrwyr gymhwyso gwybodaeth i lunio'r cydrannau hanfodol cynllun (disgrifiad o'r nodwedd; amcan cadwraeth gyda dangosyddion perfformiad; rhestr ffactorau a gweithgareddau rheoli) gan ddefnyddio'r system reoli cadwraeth (CMS) ar safle astudiaeth achos (ar sail unigol) mewn safle gwarchodedig.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Rheolaeth Coedwigoedd A Natur Cynaliadwy (Cwrs Erasmus Mundus) MSc.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
I gael mynediad i鈥檙 rhaglen Rheolaeth Coedwigaeth a Natur Cynaliadwy mae angen gradd gyntaf dda mewn pwnc perthnasol, neu radd anrhydedd ail ddosbarth mewn pwnc perthnasol gydag o leiaf ddwy flynedd o brofiad perthnasol mewn coedwigaeth, amaethyddiaeth neu waith arall sy'n gysylltiedig 芒 defnydd tir mewn sefyllfa o gyfrifoldeb amlwg. Dylid bod 芒 thystiolaeth ychwanegol i ategu profiad proffesiynol perthnasol megis bod yn awdur ar adroddiadau proffesiynol priodol neu gofnod o fod yn aelod gweithredol o sefydliad proffesiynol perthnasol neu Gymdeithas Wyddonol Ryngwladol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, caiff ymgeiswyr eu barnu yn 么l eu teilyngdod unigol a鈥檜 hoedran, ac ystyrir profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd.
Gyrfaoedd
Gwneud Cais
Gwnewch gais drwy wefan .