Canolfannau maes pwnc
Ystafelloedd dosbarth enghreifftiol
Mae gan nider o'r meysydd pwnc yn yr Ysgol ystafell ddosbarth enghreifftiol sy'n gweithredu fel canolfan ar gyfer y pwnc hwnnw. Mae'r ystafelloedd hyn, sydd wedi'u cynllunio i fod yn enghreifftiau da o ystafelloedd addysgu, ar lefel yr ysgol gynradd, yr ysgol uwchradd, a'r brifysgol, yn cynnwys pob math o adnoddau sy'n berthnasol i'r pwnc, offer cyfrifiadurol a Byrddau Gwyn Rhyngweithiol. Mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 dysgu mewn cyrsiau Addysg yn digwydd yn yr ystafelloedd hyn, ar ffurf darlithoedd, gweithdai, a seminarau 鈥� neu, fel sy鈥檔 arferol, cymysgedd o鈥檙 rhain.
Y Ganolfan Addysg Gorfforol
Mae Safle鈥檙 Normal yn cynnwys y neuadd chwaraeon a鈥檙 gampfa a ddefnyddir ar gyfer Addysg Gorfforol yn y cyrsiau BA (Anrh) mewn Addysg Gynradd a TAR. Yn naturiol, mae pob myfyriwr hefyd yn gallu gwneud defnydd o gyfleusterau chwaraeon canolog y Brifysgol ar Safle Ffriddoedd.
Dysgu awyr agored
Mae gan safle鈥檙 Normal sawl man awyr agored a choetir bach, sydd ynghyd 芒 phwll a mynediad parod i lan y Fenai, yn cynnig mannau delfrydol ar gyfer gweithgareddau dysgu awyr agored. Mae byw yn y gwyllt, helfa sborion, chwilota mewn pyllau ac adeiladu gwesty trychfilod i gyd yn nodweddion o ddysgu addysgu plant yn yr awyr agored ac ynghyd 芒 chwrs cyfeiriannu parhaol, mae mannau gwyrdd safle'r Normal yn aros i gael eu harchwilio!
Adnoddau ar gyfer y Myfyrwyr Presennol
Gwasanaethau TG
I鈥檆h helpu gyda鈥檆h astudiaethau rydym yn darparu amrywiaeth o adnoddau dysgu a chefnogaeth gan staff profiadol.
Mae鈥檙 Gwasanaethau TG yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau Cyfrifiaduro, Cyfryngau a Reprograffeg gan gynnwys:-
- Dros 1000 o gyfrifiaduron at ddefnydd y myfyrwyr 鈥� mae rhai ystafelloedd cyfrifiadurol yn agored 24 awr y dydd.
- Hyfforddiant TG fel rhan o鈥檆h gradd - e.e. Prosesu geiriau, taenlenni, Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (Sylfaenol ac Uwch).
- Blackboard (Rhith Amgylchedd Dysgu masnachol), sy鈥檔 cyfrannu at brofiad dysgu cyfoethog i'r myfyrwyr. Mae鈥檔 galluogi cyflwyno deunyddiau dysgu ar-lein. Fel rheol mae wedi ei drefnu鈥檔 fodiwlau neu gyrsiau a dim ond y myfyrwyr hynny sydd wedi cofrestru ar fodiwl arbennig a all weld yr adnoddau Mae hyn yn cynnwys gofod addysgu byw ar-lein o'r enw Collaborate a mynediad at recordiadau o sesiynau Prifysgol a addysgir.
- Mynediad at y rhwydwaith yn yr holl lety en-suite ac mewn clystyrau cyfrifiaduron at ddefnydd pawb mewn lletyau eraill yn y brifysgol.
I gael mwy o wybodaeth am ein cyfleusterau a鈥檔 gwasanaethau ewch i dudalennau Cefnogaeth TG.
Project Ieithoedd Rhyngwladol
Cefnogaeth i Athrawon Ysgolion Cynradd ac Uwchradd yng Ngogledd Cymru.
Mae gennym d卯m o ymarferwyr iaith profiadol ar gyfer y sectorau cynradd ac uwchradd. Ein nod yw cynorthwyo gyda chynllunio, cyflwyno a datblygu Ieithoedd Rhyngwladol yng Ngogledd Cymru. Ein nod yw gweithio'n uniongyrchol gydag ysgolion i fynd i'r afael 芒 heriau penodol sy'n codi mewn darpariaeth Ieithoedd Rhyngwladol, gan dargedu meysydd a nodwyd fel rhwystrau i gyflwyno'r cwricwlwm yn llwyddiannus a'r angen am Ddysgu Proffesiynol wedi'i deilwra.