Croeso i Ysgol Addysg Gogledd Cymru
DYSGU, PERTHYN, GWNEUD GWAHANIAETH
Croeso i Ysgol Addysg Gogledd Cymru ym Mhrifysgol 精东传媒 鈥� lle gallwch droi eich uchelgais yn brofiad a datblygu gyrfa werth chweil sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc.
Byddwch yn gwneud llawer mwy na dim ond dysgu am addysg 鈥� byddwch yn ei phrofi. Drwy hyfforddiant mewn ysgolion, lleoliadau gwaith, projectau proffesiynol a chyfleoedd i ddysgu gan bobl sydd eisoes yn gweithio yn y sector, byddwch yn cysylltu eich astudiaethau 芒'r byd y tu hwnt i'r brifysgol. Byddwch yn meithrin profiad ymarferol, hyder a chysylltiadau proffesiynol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran sicrhau eich swydd gyntaf a datblygu鈥檆h gyrfa at y dyfodol.
Os ydych chi鈥檔 hyfforddi i ddysgu, byddwch yn treulio amser gwerthfawr mewn ysgolion, gan roi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu ar waith a datblygu鈥檆h hunaniaeth eich hun fel athro neu athrawes. Cewch eich cefnogi gan staff prifysgol ac athrawon profiadol a byddwch yn elwa o'n cysylltiadau agos ag ysgolion. Rydym yn arbennig o falch bod llawer o'n graddedigion yn mynd ymlaen i sicrhau eu swyddi dysgu cyntaf neu'n parhau 芒'u hastudiaethau ar lefel gradd feistr. Drwy brofiad ymarferol, cefnogaeth broffesiynol a chydweithio clos ag ysgolion, rydym ni wedi ymrwymo i'ch helpu i fwrw gwreiddiau yn eich gyrfa y tu hwnt i Fangor.
Efallai bod arnoch chi eisiau gweithio gyda phlant a phobl ifanc ond dydych chi ddim yn si诺r eto ble gallai hynny eich tywys. Dyna ran o'r daith. Bydd cyfleoedd i chi archwilio gwahanol lwybrau gyrfa, ennill profiad yn y gweithle a darganfod ble gallai eich diddordebau a'ch cryfderau arwain. Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd cyffrous ac amrywiol ym myd addysg ac mewn gwahanol sefydliadau a gwasanaethau sy'n cefnogi plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau. Gall eraill fynd rhagddyn nhw i astudio am 么l-radd neu fynd 芒鈥檙 sgiliau a'r profiad a gawsant ym Mangor i feysydd hollol wahanol.
Os ydych chi'n ymuno 芒 ni i astudio am radd feistr neu ddoethuriaeth, cewch gyfleoedd i ddyfnhau eich arbenigedd, herio鈥檆h syniadau a mynd 芒'ch gyrfa i gyfeiriad newydd. Byddwch chi'n dysgu ochr yn ochr ag academyddion a gweithwyr proffesiynol y mae eu gwaith yn cysylltu ymchwil 芒'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu addysg a chymdeithas heddiw.
Yn bwysig, dywed ein myfyrwyr ein bod yn gymuned gyfeillgar a chefnogol lle cewch eich adnabod fel unigolyn. Yma yng Ngogledd Cymru, rydym yn dathlu ein hunaniaeth Gymreig a'n treftadaeth ddwyieithog gan baratoi ein myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd a chyfleoedd yng Nghymru a thu hwnt.
Fel Pennaeth yr Ysgol, mae'n bwysig i mi eich bod yn llwyddo, ac rwyf wrth fy modd yn gweld i ble mae ein myfyrwyr yn mynd nesaf. Boed hynny eich swydd gyntaf, symud ymlaen yn eich gyrfa, neu barhau 芒'ch astudiaethau a gwneud gwahaniaeth mewn ysgolion, sefydliadau a chymunedau.
Os ydych chi'n dechrau eich gradd gyntaf, yn hyfforddi i fod yn athro neu athrawes neu'n datblygu鈥檆h gyrfa trwy astudiaethau 么l-radd, byddwch chi'n ymuno ag Ysgol sy'n rhoi eich dyfodol wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Beth bynnag yw eich man cychwyn a ble bynnag yr hoffech chi fynd nesaf, fe hoffem ni i'ch amser ym Mangor agor drysau, ehangu鈥檆h cyfleoedd a'ch helpu i adeiladu dyfodol rydych chi'n gyffrous amdano.
Croeso i Fangor. Byddai鈥檔 wych eich gweld chi yma