SGWRSIO GYDA NI
Mae ein Cynghorydd Neuaddau cyfeillgar yma i'ch helpu, fel y gallwch ddewis y math o ystafell sy'n berffaith i chi.
Gwylio - Taith Pentref y Santes Fair
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn sefyll wrth fynedfa Pentref Santes Fair. Mae'r tai tref, y swyddfa' neuaddau, a'r maes parcio yn y cefndir.
[GWERN] Helo. Fy enw i ydi Gwern, a heddiw dwi am fynd a chdi ar daith o gwmpas pentref Santes Fair. Mae tua 600 o ystafelloedd yma, gyda rhan fwya鈥� yn en-suite. Ond mae hefyd fflatiau stiwdio ar gael.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r myfyriwr yn sefyll ac yn siarad o flaen wal frics tu allan i鈥檙 neuadd breswyl.
[GWERN] Mae yna dai tref yma ac ystafelloedd fforddiadwy sydd yn rhannu ystafelloedd ymolchi.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar fainc rhwng yr adeiladau llety gyda gwyrddni y tu 么l iddynt.
[GWERN] Mae gwely bach dwbl ym mhob ystafell yma ym Mhentref Santes Fair heblaw am yr ystafelloedd fforddiadwy.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll ar ben L么n Popty. Mae鈥檙 myfyriwr wedi'u hamgylchynu gan goed, dail yr hydref, a cheir wedi'u parcio.
[GWERN] Mae pentref Santes Fair wedi鈥檌 leoli ar ben L么n Bopty felly neith o 鈥榙efinitely鈥� gadw chi鈥檔 ffit.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen ffenestr fewnol yn un o neuaddau preswyl 精东传媒, gyda golygfa o'r ddinas yn y cefndir.
[GWERN] Ond mae鈥檙 golygfeydd ar y top yn anhygoel.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Gyda golygfa o dai tref Pentref Santes Fair yn y cefndir, mae鈥檙 myfyriwr yn siarad ac yn cerdded ar draws maes parcio鈥檙 pentref tuag at yr allanfa, sydd 芒 gwyrddni o鈥檌 amgylch.
[GWERN] Da鈥檔i mond 5 munud o gerdded o鈥檙 stryd fawr.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen mynedfa tafarn leol sydd yn ganol y dref, 5 munud oddi wrth y pentref myfyrwyr.
[GWERN] G鈥檡no ni spoons!
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen siop tecaw锚 leol, 鈥楰ebaby鈥�, yng nghanol y dref.
[GWERN] G鈥檡no ni 鈥楰ebaby鈥�, baby! Pub arall!
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn sefyll o flaen arwydd tafarn. Gyda 鈥楾he Harp Inn. Good Food. Real Ales. Free House.鈥� wedi ei ysgrifennu arno. Mae鈥檙 myfyriwr yn pwyntio at yr arwydd ac yn siarad.
[GWERN] Mae 'na ddau siop!
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn siarad ac yn sefyll ar y palmant ger goleuadau traffig gyda Lidl i'w weld yn y cefndir.
[GWERN] Y ddau just 10 munud o gerdded o Santes Fair.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn siarad ac yn sefyll ar lwybr wrth ffens gyda Asda i'w weld yn y cefndir.
[GWERN] A lle pizza 鈥榯op notch鈥�.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn sefyll o flaen bwyty lleol. Mae鈥檙 myfyriwr yn codi ei ddwylo tuag at yr arwydd ar ochr y bwyty sy鈥檔 darllen 鈥榃ood Fired Shack鈥�. Adeilad Pontio yn fawr ac yn fodern, gyda myfyrwyr yn cerdded i lawr y grisiau ar ochr yr adeilad. Mae Prif Adeilad y Celfyddydau i'w weld yn y cefndir.
[GWERN] A da ni just chwarter awr o gerdded o Pontio a'r Prif Adeilad.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen arwyddion ar safle Pentref Santes Fair. Mae鈥檙 arwyddion yn darllen 鈥楥emlyn鈥�, 鈥楥ybi鈥�, 鈥�9-14 Ffordd Tudno鈥�, a 鈥楤arlows鈥�.
[GWERN] Mae鈥檙 adeiladau yma yn y prentref i gyd gyda enwau Cymraeg, fatha Cemlyn, Cybi neu Penmon, Dyma t欧 tref, gad ni fynd fewn.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn sefyll o flaen drws ffrynt t欧 tref, sydd 芒'r rhif 07 wedi'i ysgrifennu ar y gwydr. Mae'r myfyriwr yn curo ar y drws, a myfyriwr arall yn agor y drws i adael y myfyriwr cyntaf i mewn i'r adeilad.
[DANIEL] "Croeso!
[GWERN] Helo! Dyma gegin t欧 tref sydd cael ei rhannu rhwng 8 a 12 o bobl.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae dau fyfyriwr yn sefyll y tu allan i ddrws cegin y t欧 tref. Mae'r ddau yn mynd i mewn i'r gegin. Mae'r myfyriwr yn eistedd ar st么l yn y gegin gyda chypyrddau cegin, microdon, a sinc yn y cefndir. Clip byr o鈥檙 gegin t欧 tref yn dangos y cyfleusterau sydd ar gael. Mae dau fyfyriwr yn sgwrsio, wrth eistedd ar soffa werdd yn y gegin yn y cefndir.
[GWERN] Mae Daniel yn hoffi鈥檙 llety yma oherwydd y preifatrwydd a鈥檙 adnoddau modern.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn eistedd ar soffa werdd yn y gegin yn sgwrsio gyda'i gilydd. Ystafell wag yn un o'r Tai Tref gyda cwpwrdd dillad, gwely dwbl bach, wal werdd tu ol i'r gwely a dasg a fffenestr.
[GWERN] Dyma ystafell wely mewn t欧 tref. Mae o鈥檔 neis ac yn fawr hefo gwely dwbwl bach. Dyma ystafell ymolchi sydd yn cael ei rannu rhwng 2.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn y drws ystafell ymolchi. Mae'r gawod a thywel yn y cefndir.
[GWERN] Dyma Bryn Eithin!
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar wal o flaen arwydd Bryn Eithin.
[GWERN] Dyma lle mae opsiynau fforddiadwy pentref Santes Fair.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Cegin yn Bryn Eithin gyda cypyrddau modern gwyn, dau hob popty, dau sinc ac offer cegin.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae dau fyfyriwr yn eistedd wrth fwrdd mewn cegin ym Mryn Eithin ac mae un myfyriwr yn siarad ac yn wynebu鈥檙 camera. Gellir gweld golygfa o goed drwy鈥檙 ffenestr.
[GWERN] Mae鈥檙 gegin yn lle gwych i gymdeithasu.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae drws ystafell wely yn agor gan ddatgelu myfyriwr arall a鈥檌 hystafell wely yn Bryn Eithin. Tu mewn i鈥檙 ystafell wely mae yna sinc wrth y drws, desg, silffoedd, gwely a ffenestr.
[GWERN] Dyma un o鈥檙 lloftydd fforddiadwy, gawni gael lwc. Helo.
[SHAILZA] Helo.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar gadair ddesg gyda'i gefn i'r ddesg.
[GWERN] Gyda鈥檙 lloft yma, dachi yn rhannu ystafell ymolchi gyda gweddill y fflat. Mae pobl yn dewis yr opsiwn yma oherwydd bod o yn rhatach 'na rhai eraill, ac felly mae nhw medru mynd a gwario鈥檙 arian yn gwneud rwbath arall,
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn ystafell myfyriwr arall. Mae yna ddesg, cadair ddesg gyda blanced drosti, gwely, a ffenestr yn y cefndir.
[GWERN] ac dwi meddwl fod hwn yn opsiwn rili dda.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll y tu allan i Barlows. Mae鈥檙 myfyriwr yn sefyll o dan yr arwydd sy鈥檔 darllen 鈥楥affi a Siop Barlows Caf茅 and Shop鈥� ac i鈥檙 chwith o鈥檙 brif fynedfa. Mae鈥檙 myfyriwr yn codi eu dwylo i fyny tuag at yr arwydd.
[GWERN] Mae bob peth dachi angan yma. Mae Barlows yma! Sydd 芒 Siop a Siop Goffi.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn Caffi a Siop Barlows yn pwyntio tuag at y siop yna y siop goffi. Myfyriwr yn eistedd yn ystafell gyffredin Barlows mewn cadair cyfforddus a llyrf yn ei ddwylo. Mae'r silffoedd yn y cefndir gyda llawer o lyfrau.
[GWERN] Ystafell gyffredin.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn y golchdy yn Barlows. Mae鈥檙 myfyriwr yn cau drws y peiriant sychu dillad ac yn datgelu eu hwyneb wrth siarad.
[GWERN] Golchfa ddillad.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn sefyll y tu allan i ystafell gyfarfod. Mae鈥檙 arwydd ar y drws yn darllen 鈥榊stafell 1/Meeting Room 1鈥�.
[GWERN] Ystafell gyfarfod.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd yn Ystafell Gyfrifiaduron Barlows. Mae鈥檙 myfyriwr eistedd ar y ddesg o flaen cyfrifiadur, gyda chyfrifiadur arall yn y cefndir.
[GWERN] Ystafell gyfrifiaduron.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn sefyll y tu allan i'r ystafell dawel yn Barlows. Mae鈥檙 arwydd ar y drws yn darllen 鈥榊stafell Dawel/Quiet Room鈥�. Mae'r myfyriwr yn dod a'i law at ei geg fel arwydd o fod yn ddistaw.
[GWERN] Ystafell dawel.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn sefyll tu allan i ddrws cegin y gellir ei bwcio yn Barlows. Mae鈥檙 arwydd ar y drws yn darllen 鈥楥egin 2/Kitchen 2鈥�.
[GWERN] Cegin dachi鈥檔 gallu bwcio.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o'r gegin sydd ar gael i鈥檞 bwcio.
[GWERN] Dyma Acapela, lle mae llawer o鈥檙 digwyddiadau cymdeithasol yn digwydd fel nosweithiau karaoke a ffilm,
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn sefyll yng nghanol Acapela gyda dau aelod o鈥檙 criw campws yn chwarae tenis fwrdd yn y cefndir.
[GWERN] ac mae rhain i gyd yn cael eu trefnu gan y criw Campws Byw.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr gyda offer codi pwysau yn Platform 81.
[GWERN] Fe gewch chi aeoldaeth am ddim i Ganolfan Brailsford,
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar un o鈥檙 peiriannau ymarfer corff yn yr ystafell ffitrwydd.
[GWERN] neu os ydych dod am un tawel yma, gewch ddod i鈥檙 ystafell ffitrwydd yma ar y safle. Mae鈥檙 fflatiau yn ddiogel iawn, ac gyda鈥檆h cerdyn gallwch chi fynd fewn i鈥檙 fflat ac wedyn i鈥檙 lloft.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen drws gyda鈥檌 gerdyn personol yn eu llaw. Mae鈥檙 myfyriwr yn defnyddio eu cerdyn i ddatgloi drws y fflat a mynd i mewn.
[GWERN] Mae hon yn gegin safonol yn y Santes Fair ac yn le gwych. Mae 'na ddigon o le i goginio, i fwyta a cymdeithasu yma.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn eistedd yng nghegin y fflat. Yn y cefndir mae cypyrddau'r gegin, sinc, tostiwr a chwpan.
[GWERN] Yma, mae na fwrdd bwyta mawr a lle eistedd cyfforddus.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn y gegin yn tynnu sylw at y gwahanol offer sydd ar gael yn y gegin. Mae'r gegin, offer, bwrdd bwyta a chadeiriau yn y cefndir. Mae'r camera yn symud i'r soffa werdd yn y gegin.
[GWERN] Mae hefyd gofyn i chi ddod a cyllyll, ffyrc, llestri a pots and pans chi'ch hunain
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn y gegin, yn pwyso yn erbyn arwyneb y gegin gyda'r cypyrddau, tegell a thostiwr yn y cefndir.
[GWERN] Mae bob un cegin yn cynnwys tostar, tegell, popty, microdon, bwrdd smwddio, hoover ac fridge freezer. Fyddwch chi yn cael cwpwrdd eich hyn, ac hefyd gewchi silff yn yn y ffrij ac silff yn y rhewgell hefyd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn cerdded o amgylch y gegin gan ddangos yr offer y gegin. Yn gyntaf, mae鈥檙 myfyriwr yn agor y cwpwrdd, wedyn yn cerdded tuag at y rhewgell ac oergell, ac yn agor drws yr oergell ac yna drws y rhewgell.
[GWERN] Dyma ystafell wely arferol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll mewn ystafell wely gyda desg, cadair ddesg, droriau, pinfwrdd, gwely, a ffenestr yn y cefndir.
[GWERN] Dachi鈥檔 gal gwely 4 troedfedd sef gwely dwbwl bach.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar wely'r ystafell. Yn y cefndir mae bwrdd wrth ochr y gwely, planhigyn, cwpan, a ff么n
[GWERN] Mae desg, cadair a Wi-Fi yn cael ei gynnwys.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar gadair ddesg werdd wrth ymyl desg yr ystafell wely ac yn defnyddio gliniadur gyda lamp ymlaen yn y cefndir.
[GWERN] Silff llyfrau ac bin gwastraff.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn rhoi taith o amgylch yr ystafell wely, gan egluro'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn y pris. Yn gyntaf, mae'r myfyriwr yn pwyntio tuag at y silff lyfrau a'r bin, yn dangos y gofod storio o dan y gwely, yn agor y cwpwrdd dillad, ac yn pwyntio tuag at y pinfwrdd ar y wal.
[GWERN] Dror storio o dan y gwely. A wardrobe. Fydd rhaid i chi ddod a dillad gwely eich hunain ac gewchi roi posteri eich hunain i fynu fan hyn i neud y lle yn gartrefol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn gorwedd ar ei ochr ar y gwely yn yr ystafell wely, gyda'r gliniadur o'i flaen ar y gwely.
[GWERN] Os dachi鈥檔 bwriadu gwylio teleu byw cofiwch rhaid i chi gael trwydded teledu,
[04:25:00] ond mae croeso i chi ddod a unrhyw consoles neu unrhyw beth felna. Cofiwch ma'na rhai petha dachi ddim yn cael dod efo chi, ond mae 'na restr ar wefan y Brifysgol. A dyma鈥檙 en-suite.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn nrws yr en-suite. Mae鈥檙 myfyriwr yn gafael yn yr handlen ac yn agor y drws. Mae鈥檙 camera yn symud o gwmpas i ddangos gweddill yr ystafell ymolchi.
[GWERN] Mae myfyrwyr yn gyfrifol am lanhau ei lloft, ei bathroom a y lle cyffredinol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yng nghyntedd y fflat, tu allan i鈥檙 ystafelloedd gwely, gyda mynedfa un o鈥檙 fflatiau yn y cefndir.
[GWERN] Er hyn, mae na clearners yn dod mewn unwaith yr wythnos, er dydi nhw ddim yn gwneud eich llestri ond mae nhw鈥檔 gwneud yr ochre, sincs, a鈥檙 llorie i gyd. Fydd eich biniau sbwriel ac ailgylchu hefyd yn cael eu gwagio unwaith yr wythnos
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll wrth y biniau ailgylchu gyda ffenestr yn y cefndir.
[GWERN] Os dewiswch stiwdio, mae petha chydig yn wahanol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i fflat stiwdio sydd 芒 drws piws. Mae鈥檙 myfyriwr yn curo ar y drws ac mae'r preswylydd yn agor y drws ac yn gadael y myfyriwr i mewn.
[GWERN] Mae yna 4 math, gyda鈥檙 un yma yn siwdio 鈥榙eluxe鈥�. Gad i ni gael lwc. Helo.
[ELLA] Helo.
[GWERN] Mae鈥檙 un-un eitemau yn y gegin yma a鈥檙 cegin cynt ond yr unig wahaniaeth ydi does 鈥榥a ddim 鈥榗leaner鈥� yn dod.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o鈥檙 fflat stiwdio. Mae'n dangos y gegin, teledu, desg, gwely, a soffa lle mae'r ddau fyfyriwr yn eistedd ac yn sgwrsio.
[GWERN] Un o鈥檙 rhesymau roedd Ella isho byw yn y stiwdio oedd i gael cegin preifat.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae dau fyfyriwr yn siarad wrth eistedd ar y soffa yn y fflat stiwdio. Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn nrws yr en-suite. Mae鈥檙 myfyriwr yn gafael yn yr handlen ac yn agor y drws. Mae鈥檙 camera yn symud o gwmpas i ddangos gweddill yr ystafell ymolchi.
[GWERN] Ac mae 鈥榥a en-suite yn bob un o鈥檙 siwdios. Mae contract yn 42 wythnos i is-raeddigoedd, ac 51 i 么l-raddedigion
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar gadair goch yn y Swyddfa Neuaddau. Yn y cefndir mae'r dderbynfa a'r staff.
[GWERN] Fydd eich ffioedd yn cynnwys eich stafell, eich billiau i gyd, yswiriant cynnwys, aelodaeth i鈥檙 gampfa yn Brailsford
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll ar ben grisiau yn yr awyr agored.
[GWERN] ac ar yr safle yma ac hefyd Campws Byw.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i sied feiciau ar y safle.
[GWERN] Gewchi gadw eich beic yma am just 拢20 am y flwyddyn cyfan. Dyma swyddfa neuaddau lle byddech chi yn dod i bigo fynu eich post ac yn rhoi gwybod am unrhyw faterion cynnal a chadw.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn y Swyddfa Neuaddau, yn pwyso yn erbyn desg y dderbynfa. Mae鈥檙 arwydd yn y dderbynfa yn darllen 鈥楥roeso / Welcome鈥�. Yn y cefndir, mae parseli, cardiau cyfarch, a chyfrifiaduron.
[GWERN] Fyddwch yn teimlo yn ddiogel iawn yma gyda diogelwch 24-awr.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i'r swyddfa ddiogelwch. Mae鈥檙 camera yn symud drosodd i weld y swyddog diogelwch yn chwifio.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r myfyriwr yn eistedd ar soffa goch a llwyd.
[GWERN] Os oes gennych unrhyw problemau mae mentoriaid hefyd yn byw yn neuaddau lle gallwn nhw helpu chi. Mae nifer cyfyngedig o lefydd parcio yma lle os hoffech chi barcio yma fydd rhaid i chi gael permit,
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd mewn car glas ym maes parcio Pentref Santes Fair gyda ffenestr ochr y gyrrwr i lawr. Mae ceir eraill yn y cefndir.
[GWERN] ond peth da yma ym Mangor ydi mae鈥檔 ddigon hawdd i gerdded i pob man.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll wrth fynedfa maes parcio Pentref Santes Fair. Mae ceir yn y maes parcio a chymysgedd o adeiladau h欧n a modern yn y cefndir.
[GWERN] Gobeithio eich bod wedi mwynhau y daith heddiw. Os oes gennych unrhyw fwy o gwestiynnau cofiwch allwch fynd ar dudalen cwestiynau cyffredin ar wefan Prifysgol 精东传媒, neu cysylltu 芒 neuaddau@bangor.ac.uk.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Logo Prifysgol 精东传媒
Cyfleusterau ym Mhentref y Santes Fair
- Uwch Wardeniaid a Mentoriaid Preswyl
- Diogelwch 24/7
- Mynediad cerdyn/allwedd diogel
- Barlows
- Siop
- Parcio cyfyngedig (angen trwydded)
- Ystafell ffitrwydd
- Ystafell gyfrifiaduron
- Ardal awyr agored ar gyfer BBQ a gemau
- Wi-Fi cyflym
- Ystafelloedd cyffredin
- Ystafell sinema
- Golchdy
- Raciau beiciau (am ddim), storfa beiciau dan do (拢20)
MEWN SAFLE CYFLEUS SY'N EDRYCH DROS FANGOR
St Mary鈥檚 Quad - 精东传媒
Amser cerdded bras o Bentref y Santes Fair i:
- Prif adeilad y Celfyddydau 鈥� 15 munud o gerdded (精东传媒 Uchaf)
- Gwyddorau Iechyd 鈥� 15 munud o gerdded (Fron Heulog, 精东传媒 Uchaf)
- Llyfrgell Gwyddorau a'r Llyfrgell 鈥� 10 munud o gerdded (Ffordd Deiniol, canol y ddinas)
- Cyfrifiadureg a Pheirianneg 鈥� 15 munud o gerdded (Stryd y Deon, canol y ddinas)
- Ysgol Busnes 鈥� 15 munud o gerdded (精东传媒 Uchaf)
- Gwyddorau Eigion 鈥� 1 awr o gerdded (Porthaethwy)
- Pontio 鈥� 10 munud o gerdded (canol y ddinas)
- Morrisons 鈥� 15 munud o gerdded (精东传媒 Uchaf)
- Asda 鈥� 10 munud o gerdded (canol y ddinas)
- Lidl 鈥� 10 munud o gerdded (canol y ddinas)
- M&S 鈥� 10 munud o gerdded (canol y ddinas)
- Iceland 鈥� 40 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)
- Farmfoods 鈥� 30 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)
- Aldi 鈥� 40 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)
- Tesco 鈥� 45 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)
- Waitrose 鈥� 1 awr o gerdded (Porthaethwy)
- Siop gyfleus Pentref y Santes Fair 鈥� ar y safle
- Stryd Fawr 鈥� 10 o gerdded (canol y ddinas)
- Siopau tu allan i'r ddinas 鈥� 30 o gerdded (Ffordd Caernarfon)
- Bar Uno 鈥� 15 o gerdded (Pentref Ffriddoedd)
- Academi 鈥� 10 o gerdded (canol y ddinas)
- Mae bariau, tafarndai a chlybiau eraill wedi eu lleoli ym Mangor Uchaf a chanol y ddinas.
- Ystafell fitrwydd Pentref y Santes Fair 鈥� ar y safle
- Canolfan Chwaraeon Brailsford 鈥� 15 munud o gerdded (Pentref Ffriddoedd)
- Caeau chwaraeon Treborth 鈥� 50 munud o gerdded (wedi eu lleoli wrth Pont Menai)
- Barlows shop and caf茅 鈥� ar y safle
- Bar Uno - 15 munud o gerdded (Pentref Ffriddoedd)
- Caffi Cegin - 10 munud o gerdded (Pontio, canol y ddinas)
- Caffi Teras - 15 munud o gerdded (Prif Adeilad y Celfyddydau, 精东传媒 Uchaf)
- Caffis lleol wedi eu lleoli ym Mangor Uchaf, canol y ddinal ac ym Mhorthaethwy.
- 10 munud o gerdded (canol y ddinas)
- 20 munud o gerdded (精东传媒 Uchaf)
- 30 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)
- 1 awr o gerdded (Porthaethwy)
- Meddygfa 鈥� 15 o gerdded (yn agos at ganol y ddinas)
- Fferyllfa - 10 o gerdded (canol y ddinas)
- Ysbyty 鈥� 45 o gerdded (Penrhosgarnedd)
- Bws - 10 munud o gerdded
- Gorsaf Drenau 鈥� 10 munud o gerdded
- Tacsis - 10 munud o gerdded (canol y ddinas neu gorsaf drenau)
CYMRWCH DAITH RITHIOL O BENTREF Y SANTES FAIR
Archwiliwch Bentref y Santes Fair o gysur eich soffa. Am brofiad cwbl ymdrochol, defnyddiwch eich penset VR a'i wylio ar sgrin lawn. Defnyddiwch y saethau cyfeiriadol i edrych o gwmpas a'r eicon chwyddo i gael golwg agosach. Mae'r eicon cartref yn mynd 芒 chi'n 么l i'r man cychwyn. Os oes taith dywysedig ar gael, defnyddiwch y botwm chwarae i鈥檞 dechrau.
Camau Nesaf
Gwybodaeth Bwysig am Neuaddau
Mae'r wybodaeth a gyflwynir ar y dudalen hon yngl欧n ag opsiynau llety'r Brifysgol, gan gynnwys disgrifiadau, ffotograffau, cynlluniau llawr, a chyfleusterau, wedi'i bwriadu fel canllaw cyffredinol a gall fod yn destun newid. Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cywirdeb y wybodaeth, nid yw'r Brifysgol yn gwarantu ei bod yn gyflawn nac yn gyfredol. Mae argaeledd llety, nodweddion penodol, a chyfraddau rhent yn destun newid heb rybudd. Anogir darpar breswylwyr i gysylltu 芒'r Swyddfa Neuaddau yn uniongyrchol i gadarnhau manylion penodol ac argaeledd cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu opsiynau llety yn 么l yn 么l ei disgresiwn.