Coronafirws ac Iechyd Meddwl
Diweddarwyd: 14 Medi 2020
Rydym yn deall y gall y pandemig COVID-19 (coronafirws) fod yn achosi teimladau o bryder a thrallod i staff a myfyrwyr Prifysgol 精东传媒. Yn ystod yr amser heriol hwn, mae鈥檔 bwysig ein bod ni fel unigolion ac fel cymuned yn cynnal ein hiechyd meddwl a chorfforol. Nod y dudalen hon yw darparu gwybodaeth ac arweiniad i鈥檆h cefnogi gyda hyn. Gobeithiwn ddiweddaru鈥檙 dudalen hon gyda gwybodaeth newydd cyn gynted ag y bydd ar gael.
Efallai bod gennych gwestiynau am ymateb y brifysgol i鈥檙 haint, sut y bydd hyn yn effeithio ar eich academyddion, neu ba adeiladau a gwasanaethau sy鈥檔 dal i fod yn weithredol. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio tudalennau cwestiynau a ofynnir yn aml am COVID-19 i staff a myfyriwr y brifysgol i gael y wybodaeth ddiweddaraf sy鈥檔 berthnasol i chi.
Er mwyn eich amddiffyn eich hun a phobl eraill rhag coronafirws, dilynwch ac fel y wybodaeth fwyaf cyfredol yn y sefyllfa barhaus hon. Os ydych chi鈥檔 poeni am deithio, p鈥檜n a ydych chi鈥檔 dychwelyd i鈥檙 DU o dramor neu鈥檔 gadael y DU, gallwch edrych ar gyngor y llywodraeth .
Wrth i鈥檙 cyfyngiadau symudiadau gael eu lliniaru, mae llawer ohonom yn paratoi ar gyfer dychwelyd i 鈥榥ormal鈥�, a fydd yn debygol o barhau i fod yn gyfnod ansicr ac anghyfarwydd. Mae Dr Dominique Thompson wedi ysgrifennu am , gan awgrymu ffyrdd i helpu ein hunain a鈥檔 gilydd i ddod trwy鈥檙 amser anodd hwn yn raddol.
Cefnogi eich Iechyd Meddwl a鈥檆h Lles
Gan fod y coronafirws yn effeithio ar sawl rhan o鈥檔 cymdeithas, mae hefyd yn effeithio鈥檔 wahanol ar bob un ohonom. Mae teimladau o bryder ac ansicrwydd yn normal yn ystod adegau dryslyd, llawn straen fel hyn. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn cymryd amser i edrych ar 么l ein hunain a鈥檔 gilydd nes bydd y pandemig yn arafu. Mae鈥檙 gwefannau canlynol yn darparu gwybodaeth a chyngor am sut i ofalu am eich iechyd meddwl mewn perthynas 芒鈥檙 haint:
ei gwneud yn haws dod o hyd i鈥檙 gefnogaeth y mae arnoch ei hangen yn ystod y pandemig.
: Mae鈥檙 dudalen GIG hon yn cynnig awgrymiadau a chyngor syml ar sut i ddechrau cymryd gwell gofal o鈥檆h iechyd meddwl. Os ydych yn dal yn ei chael hi鈥檔 anodd ar 么l sawl wythnos ac mae鈥檔 effeithio ar eich bywyd bob dydd, cysylltwch 芒 .
: Rhai awgrymiadau cyffredinol i鈥檆h helpu chi, eich ffrindiau a鈥檆h teulu i ofalu am eich iechyd meddwl ar adeg pan mae llawer o drafod am fygythiadau posibl i鈥檔 hiechyd corfforol. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl dudalennau hefyd ar yn ystod y pandemig ac yn ystod y cyfyngiadau symud.
: Mae鈥檙 dudalen hon yn cynnwys cynllunio ar gyfer aros gartref neu du mewn, gofalu am eich iechyd meddwl, a rhestr wirio i baratoi i aros gartref am sawl wythnos.
Datblygwyd yr ystyriaethau iechyd meddwl hyn gan Adran Iechyd Meddwl a Defnydd Sylweddau Sefydliad Iechyd y Byd fel negeseuon sy鈥檔 targedu gwahanol grwpiau i gefnogi lles meddyliol a seicogymdeithasol yn ystod yr haint COVID-19. Mae鈥檙 grwpiau hyn yn cynnwys y boblogaeth gyffredinol, gweithwyr gofal iechyd, arweinwyr t卯m neu reolwyr mewn cyfleusterau iechyd, darparwyr gofal i blant, oedolion h欧n, darparwyr gofal a phobl 芒 chyflyrau iechyd sylfaenol, a phobl sy鈥檔 hunanynysu.
Yn ogystal 芒鈥檙 adnoddau hyn, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar adnoddau iechyd meddwl ar-lein Prifysgol 精东传媒 am gefnogaeth ac arweiniad pellach. Edrychwch ar ein rhestr o linellau cymorth lleol a chenedlaethol i gael hyd i rywun y gallwch siarad 芒 nhw. I gael cefnogaeth sy鈥檔 gysylltiedig 芒 ffydd ac ysbrydolrwydd, cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Caplaniaeth.
Ewch i wefan y Gwasanaeth Cwnsela i gael gwybodaeth am sut i ddefnyddio gwasanaethau cefnogi ar-lein y brifysgol. Cyhoeddwyd erthygl yn聽The Independent , gan egluro pam y gallai therapi fod yn adnodd priodol i lawer ohonom wrth reoli effeithiau COVID-19. Er mwyn dod o hyd i gwnselwyr a therapyddion sydd wedi eu hyfforddi i weithio'n foesegol ar-lein, ewch i .
Er mwyn dod o hyd i gwnselwyr a therapyddion sydd wedi eu hyfforddi i weithio鈥檔 foesegol ar-lein, ewch i .
Rheoli Emosiynau Heriol
Hyd yn oed os ydym yn cymryd gofal ohonom ein hunain a鈥檔 gilydd hyd eithaf ein gallu, efallai y bydd adegau pan fydd yn teimlo鈥檔 anodd i ni reoli emosiynau cryf, astrus. Yn ystod yr adegau hyn, gall y teimladau fod yn llethol a gwneud i rywun deimlo鈥檔 ddiymadferth. Mae鈥檙 adnoddau hyn yn darparu gwybodaeth yngl欧n 芒 pham mae teimladau heriol yn codi a sut i鈥檞 rheoli.
Gall deall beth yw emosiynau a sut maent yn gweithio helpu i leihau鈥檙 effeithiau negyddol gallant eu cael pan fyddwn yn colli rheolaeth dros eu dwyster. Mae鈥檙 hwn gan yr Athro Michaela Swales o Adran Seicoleg Prifysgol 精东传媒 yn rhoi esboniad manwl o emosiynau yn ogystal 芒 strategaethau i reoli emosiynau
Mae鈥檙 daflen hon gan yn canolbwyntio ar y pryder a鈥檙 ansicrwydd y mae pob un ohonom yn ei deimlo o ganlyniad i鈥檙 pandemig. Mae poeni yn beth naturiol a gall fod o gymorth, ond rydym yn aml yn poeni gormod ac mae鈥檔 amharu ar ein bywydau. Mae鈥檙 adnodd hwn yn disgrifio sut i adnabod pryder gormodol a lleihau鈥檙 gorbryder sy鈥檔 deillio o hynny.
Rydym i gyd wedi colli rhywbeth o ganlyniad i鈥檙 coronafeirws, p鈥檜n a yw鈥檔 wyliau, yn amser gyda ffrindiau a theulu neu seremoni raddio, rydym i gyd yn teimlo rhyw fath o golled. Mae David Kessler, sy鈥檔 arbenigwr galar enwog, yn egluro鈥檙 gwahanol fathau o alar rydym yn eu hwynebu fel unigolion ac fel cymuned mewn erthyglau a phodlediadau yn .
Mae hwn hefyd yn gyfnod anhygoel o anodd i'r rhai ohonom sydd wedi dioddef profedigaeth, p'un a bu'r sawl farw o covid-19 neu o achos arall. Os ydych chi neu unrhyw un rydych yn ei adnabod wedi cael profedigaeth, cyfeiriwch at yr erthygl hon ar am wybodaeth a chyngor ar reoli amgylchiadau enbyd o'r fath. Gallwch gael rhestr o gysylltiadau'n ymwneud 芒 phrofedigaeth trwy .
Anawsterau Iechyd Meddwl sy鈥檔 Bodoli Eisoes
Gall yr haint coronafeirws a'r ymateb cymdeithasol ysgogi meddyliau cymhellol ac ymddygiadau di-fudd ym mhob un ohonom, a gall yr effeithiau hyn waethygu mewn pobl ag anawsterau parhaus fel gorbryder neu anhwylder gorfodaeth obsesiynol. Mae'n bwysig cofio bod y rhai ohonom sy'n rheoli problemau iechyd meddwl mewn mwy o berygl o brofi cymhlethdodau iechyd ac anghydraddoldeb cymdeithasol. Efallai ei bod yn ymddangos yn anoddach gofyn am help a chael y gefnogaeth angenrheidiol, ac felly mae'n hollbwysig ein bod yn ymwybodol o sut rydym yn teimlo a'r hyn rydym ei angen.
I'r rhai ag anawsterau iechyd meddwl sydd eisoes yn bodoli, mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn cynghori eich bod, lle bo modd, yn gwneud cynllun gyda'r ymarferwyr rydych wedi bod yn gweithio gyda nhw cyn neu yn ystod y pandemig.
Mae rhai sefydliadau wedi creu adnoddau penodol ar gyfer rheoli anawsterau iechyd meddwl sydd eisoes yn bodoli yn ystod yr haint:
- : Iechyd a mathau eraill o orbryder a鈥檙 coronafirws
- : Anhwylderau bwyta a鈥檙 coronafirws
- : Awgrymiadau da mewn perthynas ag anhwylder gorfodaeth obsesiynol a鈥檙 coronafirws
Mae鈥檙 coronafirws hefyd yn cynyddu鈥檙 risg i鈥檙 rhai sy鈥檔 byw mewn perthynas lle maent yn dioddef camdriniaeth. Gall y gorchymyn cenedlaethol i aros gartref wneud pobl sy鈥檔 dioddef camdriniaeth neu mewn perygl o gael eu cam-drin fod yn fwy ynysig. Gall y rhai sy鈥檔 cyflawni鈥檙 troseddau camdriniaeth yn y cartref hefyd ymateb i ofnau a phryderon cysylltiedig 芒鈥檙 firws gyda mwy o ddicter, casineb neu ymddwyn yn fyw annisgwyl. Edrychwch ar yr adnoddau canlynol i gael arweiniad ar gadw鈥檔 ddiogel:
- : Canllawiau鈥檙 llywodraeth ar gefnogaeth i ddioddefwyr camdriniaeth yn y cartref yn ystod y pandemig coronafirws.
- : Mae鈥檙 dudalen hon yn cynnig cyngor ymarferol yn ogystal ag adnoddau i gael gwybodaeth a chefnogaeth.
- : Er mwyn siarad 芒 rhywun am gamdriniaeth rydych yn ei ddioddef yn awr, ffoniwch y Llinell Gymorth Genedlaethol Camdriniaeth yn y Cartref 24/7 ar 0808 2000 247.
Cefnogi Eraill
Gall cynorthwyo pobl eraill pan f么nt angen cymorth ac estyn allan at rywun a all fod yn teimlo鈥檔 unig neu鈥檔 bryderus fod o fudd i鈥檙 unigolyn sy鈥檔 derbyn cefnogaeth yn ogystal 芒鈥檙 un sy鈥檔 cynorthwyo. Dyma rai awgrymiadau am bethau y gallwch eu gwneud i gefnogi鈥檆h cymdogion a鈥檆h anwyliaid:
- Gwnewch yn si诺r eich bod yn rhannu gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy (fel ac ).
- Cadwch mewn cysylltiad 芒鈥檆h teulu a鈥檆h ffrindiau, hyd yn oed os ydyw dros y ff么n yn unig.
- Cysylltwch 芒鈥檙 rhai a all fod yn fwy agored i niwed neu mewn perygl i gynnig pa bynnag help rydych chi鈥檔 teimlo y gallwch ei roi.
- Os oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli, darllenwch am wirfoddoli yn ystod y pandemig.
- Gall cefnogi eraill fod yn heriol. Edrychwch ar y gan Student Minds UK i gael cyngor ar helpu eich hun wrth helpu eraill.
Gorbryder am Gyllid a Chyflogaeth
Yn ddiamau, mae'n amser ansicr o ran cyflogaeth a chyllid. Mae'r pandemig wedi effeithio ar bob proffesiwn a sefydliad, p'un a yw'n golygu bod pobl bellach yn gweithio gartref, wedi eu rhoi ar ffyrlo, neu'n chwilio am waith yn y dyfodol mewn marchnad swyddi ansefydlog. Bydd yr holl newidiadau hyn yn effeithio ar iechyd meddwl, yn enwedig os ydynt yn amharu ar eich gallu i gadw'n ddiogel ac yn iach. Edrychwch ar yr adnoddau canlynol os ydych yn poeni am gyllid neu reoli eich cyflogaeth, gan fod y rhain yn bethau pwysig sy'n cyfrannu at gynnal eich lles seicolegol.
Mae Mind yn darparu adnoddau i'r rhai sy'n symud i weithio ar-lein neu o gartref, yn ogystal 芒 chefnogaeth i reoli'r profiadau o gael eich rhoi ar ffyrlo neu gael eich diswyddo. Mae'n debygol y bydd gweithwyr allweddol a staff rheng flaen yn gweithio dan amodau llawn straen ac angen mwy o gefnogaeth emosiynol nag erioed; edrychwch ar y wybodaeth a'r cysylltiadau a luniwyd gan Mind ac Iechyd Meddwl y DU i'ch helpu gyda'ch iechyd meddwl.
Gall rheoli eich cyllid fod yn bwysicach yn awr nag erioed o'r blaen. Mae Sefydliad Iechyd Meddwl wedi llunio adnoddau ar gyfer sut i reoli'r pryderon hyn, gyda chyngor ar gyllidebu, cael cefnogaeth gan y llywodraeth, a'ch hawliau i weithio. Gallwch hefyd gysylltu ag isadran Gwasanaethau Myfyrwyr, yr Uned Cymorth Ariannol, sy'n rhoi cefnogaeth ac arweiniad i fyfyrwyr ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr.
Hiliaeth a Throseddau Casineb o Ganlyniad i COVID-19
Yn anffodus, cafwyd adroddiadau cenedlaethol o hiliaeth a thrais senoffobig ledled y DU mewn perthynas 芒 coronafirws. Mae鈥檙 brifysgol yn condemnio unrhyw fath o ymddygiad hiliol ac ni fydd yn goddef unrhyw ddigwyddiadau o鈥檙 math hwn. Os ydych chi neu rywun rydych chi鈥檔 ei adnabod wedi dioddef unrhyw fath o droseddau casineb, rhowch wybod am y digwyddiad a gofynnwch am gefnogaeth yn 么l yr angen.
Cysylltwch ag unrhyw un o鈥檙 bobl a鈥檙 sefydliadau canlynol i siarad am wahaniaethu:
- Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr, Helen Munro E-bost: h.munro@bangor.ac.uk Ff么n: 01248 388021
- Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol E-bost: internationalsupport@bangor.ac.uk Ff么n: 01248 38 8430
- . Gallwch hefyd ffonio eu llinell gymorth 24 awr ar 0808 1689 111.
- . Gallwch hefyd ffonio eu llinell gymorth 24 awr ar 0800 138 1625.