Ffynonellau cymorth eraill a Hunangymorth
O fewn y Brifysgol
O fewn y Brifysgol gallwch hefyd gael cefnogaeth a chyngor gan yT卯m Caplaniaeth ac .
Adnoddau Lles ar-lein:
Cliciwch yma am wybodaeth ar gwefannau defnyddiol, adnoddau hunangymorth, cyrsiau ar-lein ac apiau lles.
myf.cymru:
Beth yw myf.cymru?
Nod myf.cymru yw gwella mynediad i adnoddau a chefnogaeth iechyd meddwl a lles i fyfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth sydd ar gael?
Mae modd cael mynediad at wybodaeth am hunan ofal, cyflyrau iechyd meddwl, clywed am brofiadau myfyrwyr eraill a lawer mwy mewn nifer o ffyrdd:
- Gwefan 鈥� https://myf.cymru 鈥� ar y wefan, ceir cynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a hefyd adnoddau am iechyd meddwl sydd wedi鈥檜 hadolygu gan therapyddion Cymraeg eu hiaith. Mae鈥檙 adran Iechyd Meddwl A-Y yn darparu gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl; ac o fewn adran Hwb Myf mae cynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr ar ystod eang o faterion sy鈥檔 effeithio eu hiechyd meddwl a lles.
- Ap 鈥� mae myf.cymru wedi gweithio mewn partneriaeth gyda鈥檙 rhaglen Symud Ymlaen / Moving On In My Recovery漏 i gyfieithu eu ap i鈥檙 Gymraeg. Yn llawn adnoddau defnyddiol ac ymarferol i鈥檆h cefnogi ar eich taith adferiad, a bydd o gymorth i unrhyw un lywio heriau bywyd o ddydd i ddydd. Ar gael ar Google Play: https://bit.ly/3GRMxVt a Apple App Store: https://apple.co/3wl6dvT
- Podlediad Sgwrs? 鈥� mae nifer o fyfyrwyr yn trin a thrafod y materion o bwys sy鈥檔 ymwneud a鈥檜 hiechyd meddwl a lles yng nghwmni鈥檙 cyflwynydd radio a theledu Trystan Ellis-Morris ar cwnselydd Endaf Evans. Mae鈥檙 penodau i gyd ar gael ar YouTube: https://bit.ly/3wjHTKQ ac a鈥檙 prif blatfformau ffrydio.
- Cyfryngau Cymdeithasol 鈥� am y newyddion diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook, Instagram a TikTok @myf.cymru
Oes modd i mi gyfrannu neu gymryd rhan?
Awydd cyfrannu at y drafodaeth? Rydym o hyd yn chwilio am gynnwys newydd sbon gan fyfyrwyr boed ar gyfer ein sianelau cyfryngau cymdeithasol, y wefan, cymryd rhan mewn fideos a phodlediadau. Mi allwch hefyd ysgrifennu erthyglau a blogiau, creu barddoniaeth neu gelf wreiddiol. I wybod mwy, e-bostiwch myf.cymru@bangor.ac.uk