Trais Rhywiol
Beth yw trais rhywiol?
Diffinnir trais rhywiol yn y DU gan sy鈥檔 rhestru 52 o droseddau rhywiol.
Mae鈥檔 derm, nad yw鈥檔 derm cyfreithiol, a ddefnyddir fel term ymbar茅l i gyfeirio at amrywiol droseddau rhywiol. At ddibenion polisi a chanllaw Prifysgol 精东传媒, mae鈥檙 term yn cynnwys, ond nid yw鈥檔 gyfyngedig i dreisio, ymosodiad rhywiol trwy dreiddiad, ymosodiad rhywiol, aflonyddu rhywiol, stelcio, 鈥榩orn dial鈥� a thrais yn y cartref.
Ymosodiad rhywiol yw unrhyw fath o weithgarwch rhywiol nad ydych yn cydsynio iddo, yn amrywio o gyffwrdd yn amhriodol i dreisio. Nid oes rhaid i hyn ddigwydd gyda dieithryn ac efallai na fydd unrhyw arwyddion gweledol yn cael eu gadael ar 么l. Gall fod yn eiriol, yn weledol, neu鈥檔 unrhyw beth sy鈥檔 gorfodi unigolyn i ymuno mewn gweithred rywiol ddi-groeso.
Mae ymddygiad fel cyffwrdd neu gusanu di-groeso ynghyd 芒 ffurfiau eraill ar ymosodiad rhywiol yn droseddau a allai, o gael eu cyfeirio at yr heddlu, olygu arestio rhywun a鈥檜 barnu yn euog o drosedd mewn llys barn.
Beth yw cydsyniad rhywiol?
Cydsyniad rhywiol yw pan mae unigolyn yn cytuno i gymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch rhywiol. Mae hyn yn amod angenrheidiol ar gyfer pob math o weithgarwch rhywiol.
Nid yw bod mewn perthynas gyda rhywun, neu fod wedi cydsynio i weithgarwch rhywiol o鈥檙 blaen, yn golygu cydsynio i gael rhyw.
Mae yn nodi na all unigolyn gydsynio oni bai ei fod ef neu hi yn rhydd, a bod ganddynt y gallu i wneud y dewis hwnnw.
Mae gweithgarwch rhywiol heb gydsyniad yn erbyn y gyfraith. Ni ddylech fyth deimlo cywilydd am wrthod gweithgarwch rhywiol 鈥� mae gan bawb yr hawl i ddweud na.