Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (CCDP)
Rhoddir cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr sydd angen addasiadau rhesymol o ganlyniad i anabledd drwy Gynllun Cefnogi Dysgu Personol.; Mae CCDP yn amlinellu effeithiau anabledd ac yn cynnwys yr addasiadau yr argymhellir sydd eu hangen i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu mynd at eu cwrs a chyfleusterau.
Cynlluniau Cefnogi Cynnar
Mae Cynlluniau Cefnogi Cynnar yn darparu addasiadau sylfaenol i fyfyrwyr cymwys tra bod eu Cynllun Cefnogi Dysgu Personol yn cael ei ddatblygu. Cynllunir yr addasiadau hyn i gael gwared ar rwystrau dysgu cyffredin wrth i ni weithio gyda chi i ddeall eich gofynion unigol. Ar 么l i ni adolygu eich gwybodaeth a'ch tystiolaeth ategol, bydd unrhyw addasiadau rhesymol ychwanegol sydd eu hangen arnoch yn cael eu hychwanegu i greu eich Cynllun Cefnogi Dysgu Personol.
Myfyrwyr
Os ydych yn fyfyriwr newydd, neu os nad ydych wedi cofrestru am CCDP eto, gellwch wneud hynny yn:
Bydd angen i chi naill ai uwchlwytho eich gywbodaeth ategol neu anfon copi at Gwasanaeth Lles a Chynwysoldeb.
Dylai myfyrwyr presennol fedru gweld a chytuno ar eu CCDP yn FyMangor yn:
I gael mwy o wybodaeth ar addasiadau, edrychwch ar
Cwestiynau cyffredin
Beth yw Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (CCDP)?
Caiff myfyrwyr sydd angen addasiadau rhesymol o ganlyniad i anabledd gefnogaeth ychwanegol trwy Gynllun Cefnogi Dysgu Personol. Mae CCDP yn amlinellu effeithiau anabledd ac yn cynnwys yr addasiadau yr argymhellir eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu mynd at eu cwrs ac at gyfleusterau.
Ydw i’n gymwys i gael CCDP?
Os oes angen addasiadau rhesymol arnoch, o ganlyniad i anabledd, mae gennych yr hawl i gael CCDP. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘anabledd’, ymysg pethau eraill, yn cynnwys cyflyrau iechyd tymor hir a pharhaus, nam corfforol, cyflyrau iechyd meddwl neu gwahaniaethau dysgu penodol (ADP), yn cynnwys dyslecsia, dyspracsia, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).
Beth sy’n rhaid i mi ei wneud i gael CCDP?
Mae angen i chi gymryd nifer o gamau:
- Cofrestru gyda’r Gwasanaeth Lles a Chynwysoldeb. Gellwch wneud hynny ar: /
- Cydsynio i rannu gwybodaeth. Wrth gofrestru, rhowch 眉 yn y blwch cydsynio i rannu gwybodaeth. Darllen ein polisi cyfrinachedd.
- Darparwch wybodaeth ategol i ni yngl欧n 芒’r anabledd. Gall hon fod yn adroddiad gan Seicolegydd Addysgol neu lythyr gan eich meddyg neu gan ymarferwr meddygol arall. Bydd angen i unrhyw wybodaeth ategol fod yn Gymraeg neu’n Saesneg.
- Os ydych eisoes wedi cael Asesiad Anghenion Astudio ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl, rhowch gopi o’r adroddiad i ni.
- Yn ddelfrydol, dylech uwchlwytho eich dogfen(nau) wrth gofrestru gyda’r Gwasanaeth Lles a Chynwysoldeb. Fodd bynnag, gellwch hefyd alw heibio a’u cyflwyno, neu gellwch bostio copi atom.
- Bydd Cynllun Cefnogi Cynnar ar waith yn awtomatig i ddarparu rhai addasiadau sylfaenol wrth i ni ystyried eich gofynion unigol.
- ‘Cytuno’ yngl欧n 芒’r CCDP. Ar 么l i chi ddilyn y camau uchod, bydd Cynghorwr yn llunio eich CCDP. Efallai bydd ef/hi’n awyddus i’ch gweld yn gyntaf, neu bydd ganddo ddigon o wybodaeth o’r dystiolaeth am yr anabledd a roddwyd gennych. Unwaith y caiff eich CCDP ei ddrafftio, cewch wybod trwy e-bost a byddwch yn gallu ei weld (ac argraffu fersiwn PDF os dymunwch) yn FyMangor. Bydd angen ichi roi tic yn y blwch ‘Cytunwyd gan y Myfyriwr’. Cyn gynted ag y gwnewch hyn, bydd eich CCDP yn mynd yn ‘fyw’ a chaiff ei weld gan staff perthnasol er mwyn gweithredu’r addasiadau rhesymol.
- Os oes arnoch angen rhai newidiadau ar eich CCDP, rhowch 眉 yn y blwch ‘Myfyriwr yn Anghytuno’ ac anfonwch e-bost i gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382032 i drafod y mater.
- Os na fyddwch yn gwneud dim cyn pen 5 niwrnod, byddwn yn ystyried eich bod yn hapus yngl欧n 芒’ch CCDP a bydd yn mynd yn ‘fyw’, fel y gallwn fynd ati i wneud eich addasiadau rhesymol yn ddi-oed.
Beth yw Cynllun Cefnogi Cynnar?
Mae Cynllun Cefnogi Cynnar yn helpu i roi addasiadau sylfaenol ar waith wrth i ni ddatblygu eich Cynllun Cefnogi Dysgu Personol.
Os ydych yn gymwys i gael cefnogaeth sy'n gysylltiedig ag anabledd ac wedi cofrestru gyda'r Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb, bydd Cynllun Cefnogi Cynnar ar gael trwy’r ap Cynllun Cefnogi Dysgu Personol os nad yw eich Cynllun Cefnogi Dysgu Personol unigol wedi'i gwblhau eto.
Cynllun dros dro yw eich Cynllun Cefnogi Cynnar. Bydd y Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb yn parhau i weithio gyda chi i archwilio eich anghenion cefnogi unigol ac i gytuno arnynt. Ar 么l ei gwblhau, bydd eich Cynllun Cefnogi Dysgu Personol yn disodli eich Cynllun Cefnogi Cynnar a bydd yn cynnwys addasiadau ychwanegol a mwy unigol.
Daliwch ati i ymateb i unrhyw geisiadau gan y Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb tra bod eich Cynllun Cefnogi Dysgu Personol yn cael ei ddatblygu.
Pwy fydd yn gweld fy CCDP?
Dim ond staff perthnasol sydd angen gwneud argymhellion ac addasiadau rhesymol:
- Staff yn y Gwasanaeth Llesiant a Chynwysiant - er mwyn creu gweinyddu a rheoli eich Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (CCDP)
- Staff allweddol yn eich Ysgol academaidd
- Gall Tiwtor Anabledd, Tiwtor Personol a Thiwtor Uwch yn eich Ysgol weld y CCDP yn ei gyfanrwydd. Gall Tiwtor Anabledd cytuno yngl欧n 芒’r addasiadau i addysgu a dysgu ac asesu, gan sicrhau eu bod yn unol 芒 deilliannau dysgu eich cwrs.
- Bydd angen i weinyddwyr wybod a oes gennych hawl i gael addasiadau rhesymol a byddant yn gallu gweld eich CCDP. Gall Swyddogion Arholiadau weld adroddiad ar fyfyrwyr yn eu Hysgolion sy’n cael addasiadau rhesymol ar gyfer arholiadau.
- Gall trefnwyr modiwlau weld tab rhestr dosbarthiadau lle gallant weld hawliau myfyrwyr unigol mewn perthynas ag addysgu a dysgu, ac mae ganddynt gyfrifoldeb dros sicrhau bod addasiadau rhesymol yn digwydd o ran addysgu a dysgu.
- Gall arweinwyr rhaglenni weld tab sy'n rhestru aelodau'r dosbarth sy'n dangos gofynion addysgu a dysgu unigol myfyrwyr.
- Bydd staff allweddol yn y gwasanaethau canolog yn gallu gweld adroddiad gyda’ch manylion cyswllt a’r addasiad(au) sy’n ofynnol 鈥� ni fyddant yn gallu gweld y CCDP yn ei grynswth.
- Bydd staff y llyfrgell yn gweld adroddiad ar yr holl fyfyrwyr sydd angen benthyciadau estynedig gan y llyfrgell a/neu’r gwasanaeth casglu llyfrau.
- Bydd staff parcio yn gweld adroddiad ar yr holl fyfyrwyr sydd 芒 Bathodyn Glas neu’r rheiny sydd angen trwydded ‘mynediad i bob parth’.
- Bydd Swyddog Arholiadau’r Brifysgol Ysgolion yn gweld adroddiad ar yr holl fyfyrwyr sydd angen addasiadau i’r arholiadau diwedd semester, yn ogystal 芒 CCDPau unigol.
- Bydd T卯m y Wardeiniaid yn gweld adroddiad ar yr holl fyfyrwyr yn y Neuaddau sydd eisiau i’r wardeiniaid fynd ar rai ymweliadau ychwanegol i weld a ydynt yn ymgartrefu.
- Caiff y Swyddfa Neuaddau wybod am unrhyw fyfyrwyr a fo angen cyfleusterau ychwanegol, e.e. oergell yn eu hystafell, neu addasiadau arbennig i’w hystafell.
- Os byddwch angen Cynllun Personol Dianc mewn Argyfwng (PEEP), bydd Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Brifysgol yn gallu gweld adran Amgylchedd Ffisegol eich CCDP, ynghyd 芒 manylion am eich anabledd a’ch manylion cyswllt. Caiff eich Cynllun Personol Dianc mewn Argyfwng ei uwchlwytho ar eich CCDP a byddwch chi, y Gwasanaeth Lles a Chynwysoldeb, eich Tiwtor Anabledd (os oes angen) a’r Swyddfa Neuaddau (os oes angen) yn gallu gweld eich Cynllun Personol Dianc mewn Argyfwng.
Caiff y Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio, a swyddogion enwebedig y T卯m Llywodraethu a Chydymffurfio, a' r Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr) weld Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol y myfyrwyr yn rhinwedd eu swyddi.
Pennaeth y Gwasanaeth Lles a Chynwysoldeb sydd 芒 chyfrifoldeb dros roi caniat芒d. Oherwydd gwahanol fframweithiau cyrsiau, bydd adegau’n codi pryd y bydd ar staff addysgu ychwanegol angen mynediad i’r adran addysgu a dysgu; mae'n bosib y bydd adegau hefyd yn codi pryd y bydd ar staff ychwanegol angen mynediad pe bai pryderon yn codi am les y myfyriwr. Ymdrinnir 芒’r mathau hyn o ganiat芒d yn unigol.
Fel y gwelwch, rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i rannu gwybodaeth am anabledd, ac nid ydym yn gwneud hynny ond er mwyn sicrhau bod eich gofynion am gefnogaeth ac addasiadau rhesymol yn cael sylw. Mae’r gwaith o ddatblygu Rhaglen y CCDP ar y gweill, a gwneir unrhyw newidiadau mewn ymateb i adborth.
Cofiwch, MAE gennych yr hawl i gyfrinachedd llwyr ac i gyfyngu ar bwy sy’n gallu mynd at wybodaeth am eich anabledd, eich gwahaniaeth dysgu penodol neu’ch cyflwr iechyd. Os felly, PEIDIWCH 芒 rhoi 眉 yn y blwch cydsynio i rannu gwybodaeth wrth gofrestru gyda’r Gwasanaeth Lles a Chynwysoldeb. Bydd cyfrinachedd llwyr yn cael effaith ar yr addasiadau y gallwn eu creu, felly, da chi, anfonwch e-bost i’r Gwasanaeth Lles a Chynwysoldeb neu ffoniwch 01248 382032 i siarad 芒 Chynghorwr i drafod y goblygiadau ac i nodi strategaeth briodol, i sicrhau y cewch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch yng nghyswllt anabl
A yw eich CCDP yn gweithio i chi?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at y Gwasanaeth Lles a Chynwysoldeb neu ffoniwch 01248 3832032.
Wedi'i ddiweddaru 08/07/2026